Mynd fel y Thunderbirds!
Defnyddio’r rhaglen deledu Thunderbirds fel model ar gyfer y Drindod.
gan Ronni Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Defnyddio’r rhaglen deledu Thunderbirds fel model ar gyfer y Drindod.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fyddai teganau Thunderbirds yn gyfarpar gweledol da. Mae rhai yn dal ar gael (fe allech chi weld beth sydd ar gael ar wefan Amazon.co.uk), ond efallai pe byddech chi’n holi, efallai fod gan rai pobl ambell beth fel hyn o hyd gartref.
Gwasanaeth
- Mae Sul y Drindod wyth wythnos ar ôl Sul y Pasg. Ar y diwrnod hwnnw bydd yr Eglwys Gristnogol yn myfyrio ar natur Duw. Mae’r Eglwys yn cyfeirio at Dduw fel y ‘Drindod’, Hynny yw, tri pherson mewn un Duw. Y tri yw y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân. Mae’r ddelwedd hon yn un anodd ei hamgyffred, felly dyma un ffordd o feddwl am y Drindod a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
- Flynyddoedd yn ôl, efallai eich bod wedi gwylio cyfres ar y teledu o’r enw Thunderbirds. Dangoswyd y gyfres wreiddiol yn yr 1960au, ond mae’r rhaglenni wedi’u hail ddangos droeon ers hynny. Mae’r teganau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen yn dal i fod ar gael, a DVDau o’r gyfres. Ychydig yn ôl, fe wnaed ffilm, ac fe gyflwynwyd sioe lwyfan hefyd.
Os na welsoch chi un o’r rhaglenni erioed, pypedau yw’r cymeriadau – marionettes, y math sy’n cael eu gweithio â llinynnau. Mae’r storïau am y teulu Tracy sy’n byw ar ynys anghysbell yn y Môr Tawel: y tad, Jeff, sydd â phump o feibion – Scott, Virgil, Gordon, John ac Alan – a mam Jeff, y nain, sydd bob amser yn gwneud y pwdin crymbl cnau coco! Yn byw ar yr ynys hefyd mae gwas o’r enw Kyrano, a’i ferch Tin-Tin; a Brains, cynllunydd ac adeiladydd awyrennau, llongau gofod a cherbydau achub o bob siâp a maint. Y cymeriad arall y byddwn ni yn ei chyfarfod yw y foneddiges Seisnig iawn, Penelope a’i bwtler, sy’n gyn-droseddwr, Parker.
Mae Jeff yn rhedeg ei fusnes teuluol, sy’n fusnes cyfrinachol o’r enw International Rescue. Mae’r sefydliad yma’n gallu codi negeseuon neu alwadau gan bobl mewn cyfyngder, o bob rhan o’r byd trwy ei loeren ei hun. Mae’r galwadau hyn wedyn yn cael eu trosglwyddo trwy’r radio i’r pencadlys, HQ, ac yna mae’r Thunderbirds yn cael eu lansio!
Scott sy’n mynd yn gyntaf, ar Thunderbird 1. Mae’n hedfan i’r lle ac yn gosod pencadlys symudol yno. Felly pan fydd Virgil yn cyrraedd mewn awyren gludo fawr, Thunderbird 2, mae’n bosib i’r cyrch achub ddechrau.
Yn ddiwahân, mae momentau o ddrama a thensiwn uchel yn ymwneud â’r cyrch achub, yn enwedig os yw hanner brawd drwg Kyrano yn ymyrryd. ‘The Hood’ yw enw hwn, ac mae’n cysylltu â’i frawd trwy berlewyg seicig od, er mwyn ceisio difrodi’r ymgais i achub. Fel rheol, fe fydd Lady Penelope wedyn yn ymuno yn y gweithrediadau, ac yn mynd ar wib yn ei char Rolls-Royce pinc. Yn y diwedd, fe fydd popeth yn iawn; mae’r bobl oedd mewn trallod yn cael eu hachub, ac mae’r International Rescue yn diflannu’n ôl i baradwys - nes daw’r alwad nesaf am help. - Felly, beth sydd gan hyn i’w wneud â Duw? Wel, gadewch i ni edrych ar sut mae’r International Rescue yn gweithio: Mae Jeff, y tad yn aros yn y pencadlys, HQ. Mae’r meibion yn mynd allan i achub y bobl. Maen nhw’n cyfathrebu trwy ddefnyddio radio. Fe allech chi feddwl am Dduw fel y Tad, yn y nefoedd. Mae Duw yn gweld bod ar y bobl angen help, felly mae’n anfon ei Fab, Iesu, sy’n byw gyda phobl, ac yn dangos i ni sut un yw Duw. Mae ei berthynas â Duw y Tad yn dod i’r amlwg trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad – y buom yn myfyrio arno dros y Pasg. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu yn achub pobl rhag y pethau maen nhw wedi’u gwneud yn anghywir, ac yn dod â nhw’n ôl i berthynas dda â Duw.
Ac mae’r Ysbryd Glân fel y radio – y cyfrwng i gario’r neges oddi wrth y Tad (Jeff neu Duw) i’r Mab (Iesu neu Scott, Virgil a’r criw). Mae Cristnogion yn credu mai’r Ysbryd Glân sy’n byw o’u mewn, ac yn eu helpu i fod yn agos at Dduw o ddydd i ddydd. Heb y radio, fyddai’r International Rescue ddim yn gallu cyfathrebu. Heb yr Ysbryd Glân, fyddai Cristnogion ddim yn gallu gweddïo - dyna’u ffordd o gyfathrebu â Duw.
Amser i feddwl
Meddyliwch am yr International Rescue, yn hedfan allan i achub pobl o’r trychinebau y maen nhw’n eu canol.
Myfyriwch ar y syniad o Iesu’n cael ei anfon gan Dduw y Tad i ddod â ni’n ôl at Dduw.
Gweddi
Dduw:
y Tad
y Mab
a’r Ysbryd Glân.
Dydyn ni ddim yn deall yn iawn sut mae hynny’n gweithio,
ond rydw i’n credu dy fod ti yno i mi,
i fy achub, a’m helpu,
o ddydd i ddydd.
Bydd yn agos at bob un ohonom heddiw.
Helpa ni i weithio ar ein perthynas â’n gilydd
ac ar ein perthynas â thi.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.