Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Doctor Greg

Edrych ar faint o newid sy’n bosib ei gyflawni oherwydd ymdrechion un unigolyn.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Edrych ar faint o newid sy’n bosib ei gyflawni oherwydd ymdrechion un unigolyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwaraewch gerddoriaeth Indiaidd neu gerddoriaeth o wlad Pakistan, wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth (ar gael ar y wefan www.musicpakistan.net).

Gwasanaeth

  1. Mae pentref Korphe yn swatio yn ardal anghysbell Baltistan ym mynyddoedd gogledd Pakistan. Prin iawn yw rheolaeth y llywodraeth yno, ac mae yno dlodi mawr. Yn 1993, fe grwydrodd dieithryn yno, mewn cyflwr difrifol. Roedd yn wan, yn fudr ac yn ddryslyd. Enw’r dyn oedd Greg Mortensen, neu ‘Doctor Greg’, fel mae’n cael ei alw yno erbyn heddiw. Mae pobl yn meddwl amdano fel yr ‘Indiana Jones’ bywyd go iawn, erbyn hyn. Meddyg ym myddin Unol Daleithiau America oedd Greg Mortensen, ac roedd yn hoff iawn o fynydda. Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae wedi treulio’i fywyd yn adeiladu ysgolion ac yn helpu’r cymunedau hyn ym Mhakistan, cymunedau sy’n ynysig yn gymdeithasol.

  2. Bydd dringwyr yn cyfeirio at y mynydd K2 fel y ‘Mynydd Milain’ neu’r ‘Savage Mountain’, am ei fod yn fynydd mor ofnadwy, ac mor anodd ei ddringo. Wrth edrych ar ei lethrau serth, mae’n hawdd gweld pam y bydd y dringwyr yn ei alw wrth yr enw hwnnw. Er gwaethaf hynny, neu oherwydd hynny efallai, mae’n hoff fynydd gan ddringwyr o fri sy’n awyddus i wynebu’r her a’r antur. Cytunodd Mortensen i ymuno â chriw oedd am fynd ar daith i ben K2 yn 1993. Roedd yn awyddus i ymuno â’r tîm, fel doctor, er cof am ei chwaer a fu farw flwyddyn ynghynt. Fe lwyddodd dau o’r criw i gyrraedd y copa, ond fe fethodd un oherwydd iddo ddioddef salwch yn ymwneud ag uchder (altitude sickness), ac fe fu’n rhaid iddo aros heb fynd i’r copa. Fel doctor y tîm, fe arhosodd Mortensen gyda’r dringwr hwnnw. Ond yn anffodus, fe aeth Mortensen ei hun yn sâl hefyd, gyda’r un anhwylder, am ei fod yntau wedi treulio gormod o amser yn yr uchder hwnnw. Fe gollodd gyswllt â'r amgylchedd, a cholli cysylltiad â gweddill y tîm, ac fe gollodd ei ffordd. Dyna sut y cyrhaeddodd bentref  Korphe.

  3. Rhoddodd y pentrefwyr loches iddo, a gofalu amdano, ac fel roedd yn gwella fe ddechreuodd sylweddoli pa mor ddifreintiedig oedd yr ardal a’i phobl. Wrth iddo gerdded o gwmpas y pentref, sylwodd nad oedd ysgol yno. A phan ddaeth yn ddigon cryf i adael y pentref, a mynd yn ôl i’w gartref ei hun, fe addawodd y byddai’n dod yn ei ôl ryw ddiwrnod ac yn adeiladu ysgol i’r plant lleol.

  4. Ond wedi iddo fynd yn ei ôl i’r Unol Daleithiau, doedd gan y bobl yno ddim diddordeb yn ei fwriad. Anwybyddai pawb bron ei gais am nawdd. Fe ysgrifennodd at nifer fawr o bobl enwog, ond ychydig iawn o ymateb a gafodd. Dim ond tua $100 a lwyddodd i’w gasglu er gwaethaf ei holl ymdrech. Teimlai’n isel iawn, ac roedd bron iawn â rhoi’r gorau iddi, ond cafodd syndod mawr un diwrnod pan dderbyniodd rodd o 62,345 o ddarnau un sent (one cent coins). Rhodd oedd y rhain gan ddisgyblion dosbarth 4 mewn ysgol yn Wisconsin. Roedd un ohonyn nhw wedi clywed y byddai un darn sent yn prynu pensil i blentyn ym Mhakistan, ac wedi mynd ati gyda’i gyd-ddisgyblion i’w casglu.

  5. Cododd hynny galon Greg Mortensen, ac wedi hynny fe ddaeth yr hwb mwyaf yr oedd ei angen. Anfonodd Dr Jean Hoerni, cyd-ddringwr i Mortensen, oedd yn ddyn busnes, siec o $12,000 iddo, ynghyd â nodyn yn ei annog i ddal ati. Felly, gyda help Jean Hoerni, fe sefydlodd y ddau y Central Asian Institute, y CAI, yn 1996.

    Erbyn heddiw, mae 64 o ysgolion CAI ledled Pakistan ac Afghanistan, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn addysgu genethod ifanc. Mae’r syniad wedi’i sylfaenu ar y ddihareb Affricanaidd, ‘Os rhowch chi addysg i fachgen fe fyddwch chi’n addysgu unigolyn, ond os rhowch chi addysg i ferch fe fyddwch chi’n addysgu cymuned.’

  6. Mae’r byd hefyd, yn ogystal â’r gymuned, yn cael budd. Achos perthnasol: nid yw’n gyfrinach mai o’r ardal hon y daw nifer fawr o’r Taliban. Er mwyn gwneud neu gyflawni, jihad – sef ‘ymdrechu yn ffordd Allah’, sydd weithiau’n cael ei ddehongli fel ymgorffori gweithredoedd o wrthwynebiad treisgar – rhaid i’r un sy’n eu cyflawni gael caniatâd gan ei fam. Mae’r rhan fwyaf o famau’r terfysgwyr yn anllythrennog. Felly, dadl Mortensen yw y byddai pob gwraig sydd wedi dysgu darllen yn gallu deall yn well wedyn beth mae ei mab yn bwriadu ei wneud. Felly, fe fyddai’n fwy tebygol o wrthod rhoi caniatâd iddo wneud y pethau hynny.

  7. Ond mae’r ymgyrch hon am heddwch wedi bod yn bopeth ond heddychol. Yn 1996, fe ddaliwyd Mortensen yn wystl am wyth diwrnod. Hefyd, fe gafodd ei ddal yn y canol mewn brwydr rhwng dau brif elyn oedd yn ymgiprys yn y maes delio â chyffuriau. Mae wedi derbyn ffatwa – dedfryd answyddogol o farwolaeth – gan y mullahs gelyniaethus lleol. Mae hefyd yn cael llythyrau cas gan Americaniaid eraill am ei fod yn helpu i addysgu plant sy’n Fwslimiaid.

  8. Ond lleiafrif y bobl sy’n ei wrthwynebu fel hyn. Yn 2006, fe gyhoeddodd ei stori dan y teitl, Three Cups of Tea (mae’r teitl yn cyfeirio at ddihareb Balti sy’n nodi fod rhywun yn un o’r teulu ar ôl rhannu tair cwpanaid o de â’r un sy’n ei groesawu). Roedd y neges o heddwch oedd yn y llyfr yn gyfrwng i’w wneud yn llyfr a werthodd yn dda iawn (bestseller). Mae prosiect Mortensen yn y pen draw yn ffordd wahanol o frwydro yn erbyn terfysgaeth - gyda heddwch a ffyniant, yn hytrach na thrais a chamddefnyddio hawliau dynol. Mae’r holl ladd sy’n digwydd yn Afghanistan ac Irac yn wir yn awgrymu y dylid ailasesu’r strategaeth hon.

Amser i feddwl

(Chwaraewch y gerddoriaeth a chwaraewyd ar y dechrau, unwaith eto’n dawel, tra rydych chi’n darllen y nodiadau sydd ar gyfer yr amser i feddwl.)

Meddyliwch yn ôl dros y stori: mae’n stori am ddringwr a fu farw, bron iawn, ond a achubwyd gan bobl oedd yn byw mewn rhan arall o’r byd; ac fe gadwodd y dringwr ei air a dod yn ôl i wneud tro da â’r rhai a achubodd ei fywyd.

Mae Dr Greg wedi treulio’i fywyd ers hynny yn gwasanaethu’r bobl a’i hachubodd, ac o ganlyniad, mae wedi newid bywydau cymaint o bobl er gwell.

Beth fyddwn i’n gallu ei wneud heddiw i wneud fy myd yn well lle?
Pwy fyddwn i’n gallu ei helpu heddiw i wneud eu diwrnod yn well diwrnod?
Sut y gallaf i weithio i wneud fy myd yn well lle?
(saib)
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon