Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyddoniaeth a Chrefydd: Gelynion neu Ffrindiau

Herio’r dybiaeth bod gwyddoniaeth a chrefydd yn croestynnu ei gilydd.

gan D. Rogers

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Herio’r dybiaeth bod gwyddoniaeth a chrefydd yn croestynnu ei gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

Er mwyn cael y stori am iachâd goruwchnaturiol (gwelwch rhif 5), edrychwch ar y wefan www.ibethel.org ac fe welwch chi stori o dan yr adran ‘testimonies’, a’i haddasu yn ôl y gofyn.

Gwasanaeth

  1. Gadewch i ni edrych ar y diffiniadau:
    Gwyddoniaeth: Astudiaeth o bethau naturiol. 
    Crefydd: Astudiaeth o bethau goruwchnaturiol.

  2. Nawr gadewch i ni edrych ar wyddoniaeth …

    Pa wybodaeth rydych chi wedi’i chael trwy astudio pethau naturiol?

    Beth mae pob dyn byw yn ei wneud o ddydd i ddydd?
    Sut mae pobl yn cyfathrebu â’i gilydd? 
    Sut mae pobl yn dysgu sgiliau newydd a chael syniadau newydd?
    Beth sy’n digwydd i bob un ohonom yn y diwedd?

    GYDA gwyddoniaeth, rydym ni wedi gwneud sawl darganfyddiad defnyddiol (e.e. penisilin).
    HEB wyddoniaeth, fe fyddem ni wedi methu sawl darganfyddiad defnyddiol (e.e. inswlin).

  3. Pa gwestiynau sydd ddim yn bosib eu hateb trwy ddefnyddio gwyddoniaeth?

    (a) Cwestiynau sy’n mesur gwerth neu farn, e.e. Pa flodyn sy’n edrych orau? 
    (b) Cwestiynau moesol, e.e. Ydi hi’n dderbyniol i erthylu o ddewis?
    (c) Cwestiynau goruwchnaturiol, e.e. Sut un yw Duw?

  4. Dyma’r diffiniadau eto (ailymweld):
    Gwyddoniaeth: Astudiaeth o bethau naturiol. (Rydym wedi edrych ar hyn)
    Crefydd: Astudiaeth o bethau goruwchnaturiol.

  5. Nawr gadewch i ni edrych ar grefydd …

    Ystyr ‘goruwchnaturiol’ yw: yn uwch a thu hwnt (‘goruwch’) i’r byd naturiol.

    Adroddwch stori am iachâd goruwchnaturiol.

  6. Eglurwch yn fyr y penawdau hyn o ddyddiau Iesu am ei weithgareddau goruwchnaturiol:

    5,000 o bobl yn cael eu bwydo gyda phum torth fechan a dau bysgodyn.
    Iachau dyn gwael ar unwaith.
    Dyn yn cerdded ar wyneb y dwr.
    Dyn yn codi o farw’n fyw ar ôl bod yn y bedd am dri diwrnod.

  7. Pa gwestiynau sydd ddim yn bosib eu hateb trwy ddefnyddio crefydd?

    Cwestiynau ymarferol, e.e. All crefydd ddim dysgu i chi sut i nofio, neu yrru car.
    Cwestiynau diwylliannol, e.e. All crefydd ddim dysgu i chi ‘beth i beidio’i wisgo’.
    Cwestiynau meddygol, e.e. All crefydd ddim dysgu i chi beth a ddylai pobl sy’n ddiabetig ei fwyta.

  8. Felly, i fynd yn ôl at y cwestiwn a ofynnwyd ar y dechrau: ‘A yw gwyddoniaeth a chrefydd yn elynion neu’n ffrindiau?’

    Fe ddywedodd dyn o’r enw Albert Einstein fod gwyddoniaeth heb grefydd yn gloff, a chrefydd heb wyddoniaeth yn ddall - ‘Science without religion is lame, religion without science is blind.’ (Albert Einstein http://www.quotationspage.com/quotes/Albert_Einstein/)

    Fe hoffwn ddod i’r casgliad ar y diwedd eu bod, mewn gwirionedd, yn ffrindiau, ac nid yn elynion.

Amser i feddwl

Efallai ein bod ni’n gwybod sawl peth,
ond yn methu un peth rydyn ni ei wir angen…

Os yw Duw yn real, ac yn gwybod pob peth,
pam na wnawn ni adael iddo ef ein harwain?

Efallai mai’r cyfan a wyddom ni
yw’r hyn y mae Duw yn ei ddangos i ni fel llun…

A’r un peth hwnnw rydyn ni ei wir angen 
yw nid mwy o wybodaeth - ond Duw ei hun.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon