Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Un yn Dod yn Enw Cariad

Annog disgyblion i ddeall y gall unigolyn sy’n gweithredu mewn achos cyfiawn a da wneud gwahaniaeth sylweddol i’r byd.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Annog disgyblion i ddeall y gall unigolyn sy’n gweithredu  mewn achos cyfiawn a da wneud gwahaniaeth sylweddol i’r byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen recordiad o’r gân y mae’r grwp U2 yn ei chanu, sef ‘Pride (In the Name of Love)’. Fe allwch chi ddod o hyd iddi ar yr albwm, U2 The Best of 1980–1990. Naill ai chwaraewch y gerddoriaeth wrth i’r disgyblion ddod i mewn i’r gwasanaeth, neu dechreuwch y gwasanaeth trwy chwarae’r gân ar ôl i’r disgyblion eistedd, gan ofyn i’r gynulleidfa wrando ar y geiriau.

  • Os hoffech chi, fe allech chi arddangos copi o’r ffotograff enwog, y Tiananmen ‘tank man’ - mae sawl un ar gael ar Google Images ac mewn llefydd eraill ar y rhyngrwyd.

  • Yn ogystal, mae delweddau o’r unigolion eraill y mae cyfeiriad atyn nhw yn y gwasanaeth – Martin Luther King, Rosa Parks a Gandhi – ar gael yn hawdd, ac fe fyddai’r rheini hefyd yn ychwanegu at y cyflwyniad.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch gân y band U2, sef ‘Pride’. Mae’r gân hon wedi’i hysgrifennu er anrhydedd i Dr Martin Luther King (mae’n sôn am y dyddiad 4 Ebrill, sef y dyddiad y cafodd ei lofruddio). Y syniad yn y gân yw, er bod bwled y llofrudd wedi dod â bywyd Martin Luther King i ben, ddaeth y weledigaeth ddim i ben, sef yr hunaniaeth a luniodd i bobl ddu a phobl wyn yr Americas. Yn y gân hon mae U2 yn dweud bod grym cariad, grym a ymgorfforwyd ym mywyd Martin Luther King, yn llawer mwy na grym arfau, gormes a chasineb. Roedd Dr Martin Luther King yn ‘un a ddaeth yn enw cariad’.

  2. Roedd y protestio dan arweiniad Martin Luther King wedi’i ddechrau gan weithred o eiddo unigolyn dewr arall, gwraig o’r enw Rosa Parks. Gwraig gyffredin oedd Rosa yn byw yn nhref Montgomery yn America, tref lle'r oedd y bobl ddu a’r bobl wyn yn cael eu cadw ar wahân. Un diwrnod yn 1955, roedd hi’n mynd adref o’i gwaith, fel arfer, ar y bws. Ond roedd y bws yn orlawn, a chafodd Rosa orchymyn gan yrrwr y bws i godi o’i sedd, er mwyn i un o’r bobl wyn gael lle i eistedd. Fe wrthododd hi wneud hynny, ac roedd y gyrrwr mor ddig ei bod wedi gwrthod gwneud fel roedd yn dweud, fe gafodd ei harestio gan yr heddlu. Fe arweiniodd y weithred hon at y boicot a fu ar fysiau’r cwmni bysiau hwnnw, y Montgomery Bus Company, ac yn ei dro fe fu hynny’n fan cychwyn i’r brwydro a fu am iawnderau sifil. Roedd Rosa Parks yn un wraig ‘a ddaeth yn enw cariad’.

  3. Ar 5 Mehefin 1989, symudodd tanciau mawr byddin Tsieina yn fygythiol i Sgwâr  Tiananmen yn Beijing. Y nod oedd chwalu’r gwrthdystiadau dros ddemocratiaeth gan fyfyrwyr ac actifyddion eraill, gwrthdystiadau oedd wedi torri allan ledled Tsieina yng ngwanwyn y flwyddyn honno.  

    Yn sydyn, ac er syndod mawr i bawb oedd yno, fe ddaeth dyn allan o’r dyrfa - a sefyll yn union o flaen un o’r tanciau! Pan geisiodd y tanc fynd heibio iddo, fe symudodd yntau i’w atal. O'r diwedd, fe ddringodd y dyn i ben y tanc i siarad â’r gyrrwr. Does neb yn gwybod yn iawn beth ddigwyddodd i’r dyn hwnnw, a enwyd ar ôl hynny’n ‘the tank man’, ond fe ddangosodd ei weithred ddewr faint grym yr ysbryd dynol i wrthwynebu gormes. Roedd yntau’n ‘un a ddaeth yn enw cariad’.

  4. Dyma hefyd oedd grym Mahatma Gandhi – y dyn gostyngedig, mewn dillad tlawd, a ddaeth â’r Ymherodraeth Brydeinig rymus i lawr ar ei gliniau, a’i unig arfau oedd cariad, heddwch a chyfiawnder. Roedd Gandhi’n credu o ddifrif , os oedd ei achos yn un cyfiawn, fe fyddai’n ennill - dim gwahaniaeth pa mor bwerus oedd y grymoedd oedd yn ei erbyn. Mae dyfyniad enwog o’i eiddo: ‘Hyd yn oed os ydych chi’n lleiafrif o un, y gwirionedd yw’r gwirionedd.’ Roedd Gandhi’n un  ‘a ddaeth yn enw cariad’.

  5. Yn ganolog i’r ffydd Gristnogol, mae un arall ‘a ddaeth, ac sy’n dod yn enw cariad’. Pan ddaw Iesu i Jerwsalem, ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth, mae’n gwybod y bydd yn dod wyneb yn wyneb â grym yr Ymherodraeth Rufeinig ac â chynddaredd y sefydliad crefyddol Iddewig ar y pryd. Ac felly mae’n dod wedi’i arfogi - gydag arfau o gariad, maddeuant a heddwch. Mae’n dod ar gefn ebol asyn gostyngedig.

  6. Ac mae’n dod i fyd o raniadau a barbareiddiwch a thrais - y byd sydd mewn geiriau eraill heb fod yn annhebyg i’n byd ni heddiw - i’r math yma o fyd y daw  Tywysog Tangnefedd. Ac mae nerth y Tywysog nid mewn grym milwrol ond mewn nerth cariad anhunanol. A dyma’r gwirionedd: mae ei deyrnas sydd wedi’i sefydlu trwy nerth cariad yn hytrach na grym bwledi, wedi parhau yn llawer hirach ac wedi bod yn llawer mwy o ddylanwad na theyrnas unrhyw goncwerwr milwrol.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Beth ydych chi a fi’n barod i’w wneud yn enw cariad? Oes gennym ni hyd yn oed ffracsiwn o ddewrder y ‘tank man’, neu Rosa Parks, Martin Luther King, neu Gandhi? Allwn ni gerdded gyda Iesu yn ffordd y groes?
Yn wyneb byd o drachwant, trais a gormes, yma yn yr ysgol, yn wyneb y bwli a’r ymosodwr, neu yn wyneb y rhai hynny sy’n syml ddim yn hidio – beth allwch chi a fi ei wneud yn enw cariad?

Gweddi
Arglwydd, rho i ni weledigaeth fel y gallwn ni weld byd gwell,
a rho i ni ddewrder fel y gallwn ni weithredu i wneud i hynny ddigwydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon