Bwydydd Cyflym, a Bwydydd Mwy Araf
Annog y plant i ystyried dewisiadau eraill, heblaw bwydydd cyflym, fel mynegiant o’n cyfrifoldeb tuag at y byd y mae Duw wedi’i greu.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog y plant i ystyried dewisiadau eraill, heblaw bwydydd cyflym, fel mynegiant o’n cyfrifoldeb tuag at y byd y mae Duw wedi’i greu.
Paratoad a Deunyddiau
- Gwefannau defnyddiol: www.mcdonalds.co.uk
www.mcdonalds.com
https://www.slowfood.org.uk/about/about/
www.slowfood.com/
Gwasanaeth
- Beth yw’r gair cyntaf a ddaw i’ch meddwl pan fydda’ i’n dweud y gair ‘bwyd cyflym’ neu ‘fast food’? Faint ohonoch chi feddyliodd am McDonald’s? Gofynnwch i’r plant roi eu dwylo i fyny, os mai dyna ddaeth i’w meddwl yn gyntaf.
Mae’n debyg y gallem ni ddweud fod McDonald’s yn cynrychioli’r syniad o fwyd cyflym erbyn hyn, a mwy na thebyg bod bron bawb sydd yn bresennol yn y gwasanaeth wedi bod mewn bwyty McDonald’s ryw dro yn eu bywydau. Gadewch i ni weld faint ydych chi’n ei wybod am McDonald’s:
(a) Pa ganran o gig eidion sydd mewn hamburger McDonald’s – 50, 75 neu 100 y cant?
Ateb: 100 y cant.
(b) Faint o gwsmeriaid sy’n ymweld â McDonald’s bob dydd yn y D.U. – 1 miliwn, 2.5 miliwn neu 5 miliwn?
Ateb: 2.5 miliwn.
(c) Mewn sawl gwlad, ledled y byd, y mae bwytai McDonald’s – 119, 219 neu 319?
Ateb: 119.
(d) Ym mha flwyddyn yr agorodd y McDonald’s cyntaf yn y D.U. – 1959, 1974 neu 1985?
Ateb: 1974.
Yn ddiamheuol McDonald’s yw’r tai bwyta mwyaf poblogaidd yn y byd. Felly, pam fod bwyd cyflym yn cael ei feirniadu gymaint gan y wasg? - Sefydlwyd y mudiad Bwyd Araf yn 1986 pan ymwelodd newyddiadurwr o’r Eidal â Rhufain, a gweld cangen newydd sbon o McDonald’s ar waelod y Grisiau Sbaeneg. Cododd hyn arswyd ar y newyddiadurwr, Carlo Petrini. Roedd hyn yn symbol o drosfeddiannu byd-eang. Roedd y chwyldro bwyd cyflym yn ennill tir. Roedd bwydydd y byd mewn perygl o fynd yn fwydydd wedi'u prosesu, ac mai’r un peth fyddai i’w gael ym mhob man y byddech chi’n mynd.
Beth fyddai’n digwydd i’r amrywiaeth eang o fwydydd da a thraddodiadol yn rhanbarthau’r Eidal? Beth fyddai’n digwydd pe na byddem mwyach yn gallu blasu boeuf bourguignon ym Mharis, fish and chips yn Grimsby, na vindaloo ym Mumbai na moussaka yn Athen? Hynny, oherwydd ei bod hi’n bosib i bawb fwyta’r un math o fwyd cyflym ym mhob prifddinas yn y byd?
Penderfynodd Carlo Petrini y byddai’n syniad da sefydlu mudiad 'bwyd araf' i wrthweithio’r potensial o drosfeddiannu byd-eang yng nghyswllt 'bwyd cyflym'. Ers yr 1980au, mae Bwyd Araf wedi dod yn fudiad cenedlaethol gyda 80,000 o aelodau mewn 90 o wledydd. - Nawr, efallai eich bod yn meddwl, Wel, da iawn chi! Pawb at y peth y bo! Beth yw’r ots beth fyddaf fi’n ei fwyta?
Ar ddiwedd yr hanes yn y Beibl am greu’r byd, yn llyfr Genesis, pennod 1, mae Duw’n nodi’r cyfarwyddiadau canlynol i ddynoliaeth: ‘Byddwch yn ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n ymlusgo ar y ddaear.’
Mae Duw wedi rhoi’r ddaear i ni ei mwynhau - a meddyliwch am yr holl wahanol fwydydd traddodiadol, a bwydydd arbennig sy’n gysylltiedig â gwahanol grefyddau hefyd, sydd i’w cael yn y byd i bobl eu blasu a’u mwynhau!
Ond mae Duw wedi rhoi’r byd i ni ofalu amdano hefyd. Felly, mae’n gyfrifoldeb arnom ni i fod yn ymwybodol o’r problemau sy’n codi ynghylch pa fwydydd sydd gennym ni ar ein platiau - goblygiadau amgylcheddol, amaethu dwys, addasu genetig, gorddefnyddio gwrteithiau, creulondeb tuag at anifeiliaid, ymelwa ar weithwyr, gordewdra a globaleiddio. - Felly, beth allwn ni ei wneud? Efallai yr hoffech chi drefnu bod y myfyrwyr yn trafod y pwyntiau canlynol mewn parau, ac yna bod pawb yn dod ynghyd eto i weld i ba gyfeiriad yr aeth y drafodaeth.
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer testunau trafod:
(a) Cyfyngu ar fwyta bwyd cyflym i ddim ond unwaith yr wythnos neu achlysuron arbennig.
(b) Dysgu mwy am yr hyn rydych chi’n ei fwyta, sut mae’r cynnyrch wedi’i amaethu, ac o ble mae’n dod.
(c) Dysgu sut i goginio.
(d) Ymweld â gardd fasnachol leol, casglu rhai ffrwythau, neu dyfu rhai llysiau eich hunan yn eich gardd.
(e) Ceisio bwyta rhywbeth gwahanol – gadewch i’r blasbwyntiau ar eich tafod ddatblygu.
Amser i feddwl
Yn llyfr Genesis 1.31, ar ddiwedd hanes y creu, mae’n nodi, ‘A bu felly. Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn.’
Treuliwch amser yn ystyried popeth sy’n dda yn y byd o’n cwmpas.
Efallai yr hoffech chi ddiolch i Dduw am yr adar sy’n canu, yr anifeiliaid anwes sy’n rhoi pleser i chi, ac am y bwyd sydd ar eich bwrdd.
Ond yn rhy aml, rydyn ni’n cael ein caethiwo gan gyflymder bywyd.
Mae bywyd cyflym yn ein harwain at fwyd cyflym.
Ac mae’r bwyd rydyn ni’n ei ddewis yn effeithio ar weddill y byd.
Arafwch.
Treuliwch amser i ystyried hyn.
Ystyriwch fwyd araf.
Efallai yr hoffech chi ddweud wrth Dduw am un ffordd y gallech chi geisio newid eich ffordd o fwyta yr wythnos hon.
‘Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn..’
Gadewch i ni wneud beth fedrwn ni i gadw pethau felly.