Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Galw Fy Enw!

Galluogi myfyrwyr i ddeall bod pob un ohonom yn cael ein galw, yn bersonol ac yn unigol, gan Dduw.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Galluogi myfyrwyr i ddeall bod pob un ohonom yn cael ein galw, yn bersonol ac yn unigol, gan Dduw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi newid y stori (neu’r tîm pêl-droed!) gydag un o’ch dewis eich hun. Fe fyddai unrhyw stori yn addas, os yw’n ymwneud â’r siom y byddwch yn ei theimlo pan fydd eich enw ddim yn cael ei alw (e.e. pan fyddwch chi’n aflwyddiannus mewn clyweliad, neu dreial, neu gyfweliad am swydd, etc.).

Gwasanaeth

  1. Fel nifer o fechgyn ei oed, breuddwyd fawr Jac oedd cael bod yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol a chael gwisgo’r crys coch! Roedd yn chwarae ei orau glas bob amser gyda thîm ei glwb - ac un diwrnod, fe ddaeth ei gyfle mawr. Cafodd ei wahodd gyda rhai eraill o’r un oed, i fynd i dreialon y sir i rai dan 14 oed. Ond pan ddaeth y diwrnod pwysig, roedd Jac mor nerfus doedd o ddim ar ei orau. Roedd yn baglu dros y bêl ac roedd ei wrthwynebwyr yn gallu dwyn y bêl oddi arno’n hawdd.

    Ar ddiwedd y sesiwn, roedd yr hyfforddwr yn darllen rhestr enwau’r rhai oedd yn cael dod yn ôl i chwarae eto. Ofnai Jac na fyddai ei enw’n cael ei alw, ond roedd yn dal i obeithio, er gwaethaf popeth … Galw fy enw i, plîs  ... plîs ... meddai wrtho’i hunDechreuodd yr hyfforddwr ddarllen yr enwau: ‘Owain, Marc, Iwan ...’ (Er mwyn creu diddordeb a rhywfaint o hwyl, fe allech chi alw enwau rhai o blant yr ysgol os hoffech chi, yma.)

    Dechreuodd yr hyfforddwr blygu’r darn papur - roedd yn amlwg ei fod wedi cyrraedd diwedd y rhestr enwau, bron iawn. Daliodd Jac ei wynt. 

    ‘Ar enw olaf sydd gen i o’r rhai yr hoffem eu galw’n ôl am ail dreial yw … Tom!’ 

    O! Roedd Jac yn siomedig. Doedd geiriau cysurlon ei rieni’n fawr o help iddo, ac wrth iddo deithio adref yn y car doedd y dagrau ddim ymhell. Roedd wedi gobeithio’n wir y byddai ei enw wedi cael ei alw!

  2. Yn achos pob un ohonom, efallai ei bod hi’n bwysig iawn bod ein henwau’n cael eu galw er mwyn gwybod ein bod yn cael ein cydnabod ac er mwyn teimlo ein bod yn rhywun. Rydyn ni eisiau cael bod yn rhan o’r tîm. Pan fydd rhywun yn galw ein henwau, (‘Jac, Catrin, Huw, Lisa – tyrd i fod yn rhan o’n grwp ni, mae’n deimlad braf, ac rydyn ni’n teimlo ein bod yn perthyn.

  3. Yr un fath, pan fydd ein henwau ddim yn cael eu galw, pan fyddwn ni’n cael ein gadael allan neu’n hanwybyddu, fe allwn ni deimlo’n unig iawn. Fe allech chi deimlo nad ydych chi’n cyfrif ac nad oes neb yn poeni. Ambell dro, pan fyddwn ni’n teimlo fel hyn, mae’n bosib i ni deimlo fel ymddwyn yn aflonyddgar, yng nghefn y dosbarth, neu gartref  efallai – dim ond er mwyn i rywun alw ein henwau! Mae camymddwyn yn ffordd go bendant o gael clywed rhywun yn galw’ch enw!

  4. Mae galwad Duw yn ganolog iawn i’r neges Feiblaidd, o ddechrau cyntaf  hanes y ffydd. Mae Duw yn galw Abraham i sefydlu ei genedl. Mae Duw yn galw Moses i arwain ei bobl i ryddid. Mae Duw yn galw Paul i ledaenu’r Efengyl a dweud wrth bawb am Iesu. Ac mae Duw yn galw pob un ohonyn nhw wrth eu henwau.

    Ac mae’r ffordd ddramatig y cawson nhw’u galw yn tanlinellu’r ffaith ein bod i gyd yn cael ein galw – pob un ohonom. Un o’r delweddau mwyaf arwyddocaol yn y Beibl yw’r wledd briodas - a bod teyrnas Duw fel gwledd neu barti mawr, a’n bod i gyd yn cael gwahoddiad. Rydyn ni i gyd yn cael ein galw.

  5. Does dim llawer ohonom (yn anffodus) yn cael ein galw i fod yn beldroedwyr proffesiynol. Ond rydyn ni i gyd yn cael ein galw i fod yn perthyn i deulu Duw. Fe gawn ein galw i wneud rhyw dasg neilltuol, i wneud rhywbeth fydd yn gwneud y byd yn well lle i fyw ynddo.

  6. Ond, dydych chi erioed wedi clywed unrhyw lais yn eich galw (fe’ch clywaf yn dweud) - dydych chi ddim wedi cael profiad dramatig fel Moses neu Paul. Y pwynt yw, fe ddylem ni ddysgu gwrando. Mae Duw yn siarad trwy bobl eraill, trwy amgylchiadau, ac yn fwy na dim, mae Duw yn siarad trwy iaith distawrwydd.

    Pe byddem ni ddim ond yn gallu dysgu gwrando, fe fyddem yn gallu clywed galwad Duw - yn galw ar bob un ohonom. Ac fe fyddem yn gwybod beth yw’r dasg arbennig sydd ar ein cyfer.

Amser i feddwl

Myfyrdod
‘Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddeud, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a’m llydnod pasgedig wedi cael eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i’r neithior.” (Mathew 22.4)

(Efallai yr hoffech chi ddarllen y cyfan o’r adnodau o’r rhan hon o’r bennod yn Llyfr Mathew 22.1–10.)
Tawelwch

Gweddi
Arglwydd, agor ein clustiau, fel y gallwn glywed dy lais,
ac agor ein calonnau, fel y gallwn ymateb i dy alwad.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon