Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Neges y Ffilmiau

Darlunio’r ffaith mai gwneud yr hyn sy’n iawn fel unigolyn yw tasg pob un ohonom, dim gwahaniaeth beth yw’r ots

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Darlunio’r ffaith mai gwneud yr hyn sy’n iawn fel unigolyn yw tasg pob un ohonom, dim gwahaniaeth beth yw’r ots

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pum darllenydd.

  • Llwythwch i lawr gerddoriaeth traciau sain rhai ffilmiau, er enghraifft, sgôr sydd wedi’i gyfansoddi gan John Williams ar gyfer ffilmiau Stephen Spielberg. Fe fyddai cerddoriaeth o’r gyfres o ffilmiau Indiana Jones yn ardderchog. Chwaraewch y gerddoriaeth wrth i’r disgyblion ddod i mewn i’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Darllenydd 1: Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull - Mae Indiana Jones yn rasio yn erbyn amser ac asiantau Sofietaidd i helpu dyn ifanc dirgel ddod o hyd i arteffact chwedlonol.

    Darllenydd 2: Iron Man - Mae dylunydd arfau sydd wedi’i ddal gan derfysgwyr yn defnyddio’i ddyluniad diweddaraf er mwyn dianc a threchu’r rhai sy’n ei ddal yn gaeth.

    Darllenydd 3: The Incredible Hulk - Mae gwyddonydd yn anfwriadol yn gwenwyno’i hun, a’r canlyniad yw ei fod yn troi’n anghenfil. Nawr, mae’n gorfod osgoi’r gwasanaethau milwrol sy’n ceisio ecsploetio’i allu, tra mae ar yr un pryd yn ceisio dod o hyd i ffordd o droi’n ôl i fod fel yr oedd o’r blaen, ac achub ei hun.

    Darllenydd 4: The Chronicles of Narnia: Prince Caspian - Mae pedwar plentyn yn mentro i wlad bell ac yn helpu i ddiorseddu gormeswr ac adfer safle'r brenin cyfreithlon.

    Darllenydd 5: Batman: The Dark Knight - Mae Batman yn cydweithio â’r heddlu er mwyn gwrthwynebu dihiryn seicotig.

  2. Ym mhob un o’r ffilmiau yma, mae thema gref o frwydr yr unigolyn moesol yn erbyn grym drwg (terfysgwyr, a rhai sy’n gormesu) yn ogystal â brwydr yr unigolion yn erbyn eu hunain hefyd. Mae arwyr y ffilmiau hyn yn gorfod profi eu bod yn deilwng o’r hyn y maen nhw’n ei geisio, trwy brynedigaeth troseddau blaenorol neu helpu eraill sydd mewn achos mwy difrifol. Dydyn nhw byth yn anorchfygol - mae diffygion mawr yn perthyn iddyn nhw’i gyd, ond maen nhw’n ymdrechu i oresgyn yr anawsterau, a dyna sy’n eu gwneud yn wirioneddol fawr. Yr ymdrech i ddod yn rhydd o’u troseddau eu hunain yw’r wir dasg yn aml.

  3. Mae’r holl gymeriadau yn ymwneud â rhyw elfen o ddychwelyd neu ddod yn ôl. Mae Indiana Jones yn dod yn ôl o fwlch hir i ddilyn cwest arall. Mae Iron Man yn dychwelyd wedi carchariad i ymladd dros gyfiawnder. Mae’r Hulk yn dod yn ôl i fod yn ddyn ar ôl bod yn anghenfil i ddal ati â’i waith. Mae’r plant yn dychwelyd i Narnia i gwblhau’r dasg roedden nhw wedi’i dechrau. Mae hyn i gyd yn dangos bod yn rhaid dal ati i chwilio am y da a’r cyfiawn, ac nad yw hynny’n dasg hawdd. Ond mae rhywbeth sy’n gyrru rhywun yn ei flaen, beth bynnag, rhywbeth  nad oes modd ei stopio, ac mae’r cymeriadau yn y ffilmiau’n arddangos hyn. Hyd yn oed os nad yw rhywbeth yn hawdd cyrraedd ato, neu’n hawdd i’w gael, dydi hynny ddim yn rheswm dros beidio ag ymdrechu i gyrraedd y nod. Mae hyd yn oed yr amhosib yn werth ymdrechu amdano os yw’n iawn.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Yn y ffilmiau hyn, mae gofyn i’r cymeriadau wneud yr hyn sy’n iawn ac yn gyfiawn, er gwaetha’r gorthrwm. Yn anffodus, mae hyn yn digwydd yn ein byd go iawn heddiw. Mae cenhedloedd a chyfundrefnau yn brwydro i ddarparu cymorth i bobl Burma, a ddioddefodd mor ofnadwy  o ganlyniad i seiclon Nargis, brwydro yn erbyn agweddau ac arferion gwrthgynhyrchiol eu llywodraeth ormesol. I’r gwrthwyneb, mae canlyniad y daeargryn yn Tsieina wedi bod yn amlwg a’r digwyddiadau wedi bod yn cael eu dilyn gan y byd i gyd. Mae hynny’n beth cymharol ddiweddar yn hanes gwlad Tsieina. Hyd yn ddiweddar fyddai gweddill y byd ddim wedi cael fawr iawn o’r hanes. Ond erbyn hyn mae llywodraeth Tsieina  wedi llacio’r cyfyngiadau ynghylch adrodd am beth sy’n digwydd yno ers clywed bod y gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn y wlad.
Ddylai neb gymryd y gyfraith i’w ddwylo ei hun. Ond nid yw’r gyfraith, a’r hyn sy’n iawn, yr un peth bob amser - gwneud yr hyn sy’n iawn fel unigolyn yw tasg pob un ohonom, dim gwahaniaeth beth yw’r ots.
Yn y Beibl, roedd y proffwyd o’r Hen Destament, Micha yn byw mewn oes pan oedd pobl yn cael eu gormesu a’u trin yn annheg, ac fe leisiodd ei farn ynghylch hawliau’r bobl. Dyma grynodeb o’i neges:
‘Dywedodd wrthynt, feidrolyn, beth sydd dda, a’r hyn a gais yr Arglwydd gennyt: dim ond gwneud beth sy’n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio’n ostyngedig gyda’th Dduw’ (Micha 6.8)
Dyma beth mae ei harwyr a’n harwresau yn ceisio’i gyrraedd yn y ffilmiau hyn; a dyma beth ydyn ni’n ceisio’i gyrraedd yn yr ysgol hon hefyd.
Yr hyn a gais yr Arglwydd gennyt: dim ond gwneud beth sy’n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio’n ostyngedig gyda’th Dduw.

Gweddi
Helpa fi i fod yn gyfiawn,
ac yn ffyddlon,
A helpa fi i gerdded yn ostyngedig gyda thi, fy Nuw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon