Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Hau a Medi

Caiff y myfyrwyr eu hannog i ystyried y ffordd y mae llwyddiannau academaidd yn seiliedig ar baratoi gofalus.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Caiff y myfyrwyr eu hannog i ystyried y ffordd y mae llwyddiannau academaidd yn seiliedig ar baratoi gofalus.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o ffrwythau a llysiau ffres tymhorol.

Gwasanaeth

  1. Yng nghymunedau amaethyddol hemisffer y gogledd mae hi’n dymor y cynhaeaf. Cyfeiriwch at yr arddangosfa o ffrwythau a llysiau. Bydd ffrwythau, llysiau a chnydau grawn yn cael eu torri a’u storio ar gyfer y gaeaf sydd ar ddod. Bydd canu, dawnsio, bwyta ac yfed oherwydd bod y tymor wedi bod yn un llwyddiannus a bach iawn fydd y siawns o bobl yn newynu yn ystod y gaeaf.

    (Saib.)

  2. O leiaf fel yna oedd pethau, cyn i rywun ddyfeisio’r oergell a’r rhewgell, cyn i gnydau gael eu hoeri a’u cludo mewn awyren dros y byd fel ein bod yn gallu cael mefus a grawnwin ym mis Ionawr, pannas ac ysgewyll ym mis Gorffennaf. Dyna sut roedd pethau cyn i ganio a phrosesu olygu ein bod yn gallu pentyrru pysgod a chig i’w bwyta pryd y mynnwn.

    (Saib.)

  3. Felly, beth yw pwynt cofio am y cynhaeaf? Rwy’n credu bod dau reswm paham ei bod hi’n ddefnyddiol i barhau ag arferion dathlu’r cynhaeaf. Mae’r cyntaf yn ymwneud â hapusrwydd. Cawn ein peledu’n feunyddiol gan hysbysebion sy’n amcanu i’n gwneud ni’n anhapus. Cawn gynnig nwyddau newydd a chyffrous er mwyn gwneud i ni edrych yn well, i deimlo’n well, a mwynhau ein bywyd yn fwy. Cawn yr argraff bod ein bywyd ar hyn o bryd yn fyr o ryw un cynhwysyn holl bwysig. Cawn ein perswadio i deimlo’n anhapus. Mae adeg y cynhaeaf yn ein hannog i aros i feddwl a rhoi cyfrif am y pethau hynny sy’n dda ac yn ein bodloni yn ein bywyd. Mae’n ein hannog i ganolbwyntio ar yr hyn sydd gennym yn hytrach na’r hyn nad oes gennym. Mae’n dechrau gyda’r cyflenwad digonol o fwyd a diod yn y siopau ac yna mae’n ein hannog i ledaenu’n ffocws i dderbyn y dechnoleg, y bobl, a’r cyfleoedd sydd o’n cwmpas. Mae’r cynhaeaf yn annog hapusrwydd.

  4. Yr ail reswm paham y dylem ni barhau â thraddodiadau’r cynhaeaf yw oherwydd eu bod yn ein hatgoffa mai proses barhaol yw bywyd. Mae ansawdd y cynhaeaf yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni’n gynharach. Bydd angen braenaru’r tir; bydd aredig a gwrteithio’r caeau yn creu’r amgylchfyd addas ble y gellir plannu’r had gorau. Bydd chwynnu, dyfrhau a bwydo yn helpu’r had i egino a thyfu’n blanhigion ifanc. Bydd yr heulwen a thywydd cynnes yn gymorth i’r ffrwythau a’r hadau i aeddfedu’n barod i’w cynaeafu.

  5. Defnyddiodd Iesu’r ddelwedd o’r broses yma o dyfiant i’n dysgu am y modd y dylem fyw ein bywydau. Soniodd am y ffordd y gall yr un had gynhyrchu cynhaeaf gwahanol, yn dibynnu ar ansawdd y pridd y rhoddir ef ynddo. Fe awgrymodd bod hyn yn debyg i’r ffordd y byddwn yn ymateb mewn modd gwahanol i’r cyngor a’r ddysgeidiaeth a roddir i ni. Efallai y byddwn yn ei anwybyddu, yn ei anghofio, yn cael ein digalonni gan bethau neu’n elwa ohonyn nhw. Soniodd am y modd y gallai cymydog anghyfeillgar daflu hadau chwyn i ganol y caeau yr ydym eisoes wedi eu paratoi, gan ein hatgoffa o’r modd y gall pobl dynnu ein sylw oddi wrth ein targedau. Soniodd am y modd y mae angen i winwydden gael ei thocio er mwyn annog iddi gnydio’n dda, sy’n dangos bod rhaid aberthu efallai os ydym am gyrraedd ein llawn botensial.

  6. Yn yr ysgol, mae Medi - mis y cynhaeaf - hefyd yn rhoi cychwyn ar broses, o leiaf yn nhermau addysgiadol. Dyma’r amser i ni gael trefn ar y cydbwysedd priodol yn ein gwaith/ hamdden/ bywyd, gwarchod yn erbyn gwrthdyniadau, a all fod yn bobl eraill, neu’n rhyw weithgareddau eraill, a threfnu ein hunain i gyfarfod y terfynau amser hynny y byddwn yn eu hwynebu. Efallai bod angen i ni wneud rhywfaint o aberth yn y tymor byr er mwyn elwa yn y tymor hirach. Os y gwnawn ni baratoi’n gywir yn awr, a bod yr ysgol hon yn plannu hadau ansawdd dysgu da - ac rwy’n hyderus y bydd hi - yna, gobeithio, yr haf nesaf cawn ganlyniadau neilltuol, fydd yn adlewyrchu eich paratoadau. Bydd yn gynhaeaf gwerth ei ddathlu.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Treuliwch ychydig eiliadau yn ystyried y syniadau canlynol. Efallai y byddwch yn dymuno troi’r syniadau’n weddi:

Byddwch yn ddiolchgar am y cyfleoedd i gael llwyddiant mewn chwaraeon, mewn perfformiad, pynciau academaidd ac unrhyw agwedd ar fywyd yr ysgol yr ydych yn ei fwynhau.
Byddwch yn edifar am fethiannau’r flwyddyn sydd wedi mynd heibio, oherwydd nad oeddech chi wedi paratoi’n gywir.
Gwnewch gynllun er mwyn gweithredu ar y syniadau sydd wedi codi yn y gwasanaeth hwn heddiw. Byddwch yn ddigon dewr i wneud rhywbeth fydd yn gwneud gwahaniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon