Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Gwrthdaro Rhwng yr Israeliaidd a’r Arabiaid

Archwilio’r sefyllfa yn y Dwyrain Canol a gweld sut y gallai ein hymddygiad ni fod yn adlewyrchu’r un math o anghydfod.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio’r sefyllfa yn y Dwyrain Canol a gweld sut y gallai ein hymddygiad ni fod yn adlewyrchu’r un math o anghydfod.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Mae’r wlad sydd ar arfordir de-orllewin Môr y Canoldir yn wlad hardd.  Ar hyd llain fechan o dir mae anialwch yn cwrdd â godre’r mynyddoedd a cheir traethau syfrdanol yno.  Wedi ei leoli ar gyrion Ewrop, Affrica ac Asia, mae’r tir yn nodi pen draw’r Gorllewin Ewrop a phorth y Dwyrain.  Y ddaearyddiaeth wasgaredig hon yw crud un o’r cenhedloedd mwyaf rhwygedig o ran diwylliant ac ethnigedd yn y byd.

  2. Yn y rhan honno o’r Beibl sy’n cael ei alw’n Hen Destament, mae addewid o wlad o ‘laeth a mêl’ yn cael ei grybwyll, lle byddai’r Iddewon alltud yn cael gwneud eu cartref.  Ond erbyn OC 629 roedd pob Iddew wedi cael ei hel o’r wlad honno.  Ers hynny, mae’r wlad sy’n adnabyddus fel Palestina wedi bod yn dir ymryson, hyd at 1922, pan roddwyd yr hawl i’r Ymerodraeth Brydeinig ei rheoli.  Ond fe symudodd teyrngarwch Prydain oddi wrth y nifer cynyddol o fewnfudwyr Iddewig, oedd wedi derbyn addewid o gartref i’w cenedl yn yr ardal, tuag at yr Arabiaid, a’r olew yr oedd ei angen arni ar gyfer llongau rhyfel y Llynges, fel y disgynnodd y bygythiad o ryfel fel cwmwl tywyll dros Ewrop.

  3. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gyda’r byd yn dal i simsanu o effeithiau’r gwrthdrawiad hwnnw a’r Holocaust, collodd lawer o Iddewon eu hamynedd gydag arweinwyr imperialaidd Prydain a dechreuodd yr ymosodiadau gwrthryfelgar ar dargedau milwrol a sifil.  Wrth i’r rhain waethygu, cynyddodd y gost o feddiannaeth a phenderfynodd llywodraeth Prydain drosglwyddo’r diriogaeth i’r Cenhedloedd Unedig, a rannodd y wlad rhwng yr Iddewon a’r Arabiaid.  Yr oedd Jerwsalem i fod yn ddinas ryngwladol, yn adlewyrchu ei harwyddocâd crefyddol i Gristnogion, Iddewon a Mwslimiaid.  Fodd bynnag, bu rhyfeloedd ysbeidiol rhwng Israel a’i chymdogion, ac erbyn 1967, roedd Israel yn rheoli Jerwsalem gyfan, ynghyd â’r holl diroedd hynny oedd wedi eu haddo i’r Arabiaid Palestinaidd.  Penderfynodd bron i 80% o’r boblogaeth Arabaidd ym Mhalestina ffoi o’r wlad neu cawsant eu hel oddi yno, a dyna yw asgwrn y gynnen hyd heddiw.

  4. Heddiw, mae Israel yn wladwriaeth lwyddiannus a ffyniannus, a’r unig wlad yn y rhan honno o’r Dwyrain Canol sy’n llywodraethu’n ddemocrataidd.  Fodd bynnag, mae’r Palestiniaid sydd yn byw yn y ddwy ardal sydd ganddyn nhw yn ninas Gasa a’r Llain Orllewinol yn destun ymryson rhyngwladol.  Gan fynnu'r hawl i ffoaduriaid gael dychwelyd, a chael o leiaf rhyw fath o genedl iddyn nhw’u hunain, mae terfysgwyr wedi bod yn gwneud ymosodiadau hunanladdiad yn erbyn dinasyddion a milwyr Israel.  Mae Israel wedi ymateb i hynny yn ffyrnig a llawn, yn aml trwy ddefnyddio grym awyrennau.  Mae’r Palestiniaid, yn enwedig yn Llain Gasa, yn byw yno heb waith, yn dlawd ac mewn anobaith.  Ers i Israel adeiladu’r Mur Gwarchodol, mae’r rhyddid i’r Palestiniaid grwydro lle mynnont wedi cael ei atal.  Mae’r ymosodiadau cyson o’r awyr gan awyrennau o Israel wedi gadael aflonyddwch mewnol yn yr ardal a dinistr, gyda’r canlyniad mai ychydig o obaith sydd yna o adluniad.

  5. Bu ymgais i gael trafodaethau heddwch, ond hyd yn hyn ni chafwyd llwyddiant.  Fodd bynnag, mae’r byd cyfan yn dyheu am heddwch yn y rhanbarth.  Cafodd trafodaethau heddwch ac awgrymwyd llwybrau heddwch gan yr UDA, sydd yn cael ei gweld fel ffrind mawr i Israel, a’r Gynghrair Arabaidd, sy’n ffafrio’r Palestiniaid.  Fodd bynnag, mae Israel yn gwrthod negydu gyda’r rhai y mae hi’n eu hystyried fel terfysgwyr, ac mae rhai Palestiniaid yn haeru bod gwrthsafiad milwrol yn hawl.  Er mwyn cael heddwch, bydd yn ofynnol i un ochr newid ei meddylfryd, neu bydd y ddwy garfan wedi eu dal mewn magl dragwyddol yn ymladd am gyrchnod na chaiff ei gyrraedd byth.

  6. Efallai eich bod chi’n meddwl bod Israel yn bell iawn o’r fan lle rydym ni ar hyn o bryd (eich tref/dinas/pentref), ond mae’r hyn a welwn yn digwydd yn y Dwyrain Canol yn digwydd ymhob man - yn cynnwys yr ysgol hon. Yr angen i ddwy garfan eistedd i lawr a negydu – i gyfaddawdu ar yr hyn sydd ei angen, er mwyn i’r naill gynorthwyo’r llall i gyrraedd at ei anghenion.

    Sut ydych chi’n dygymod â chweryl neu anghytundeb rhyngoch chi a ffrind?  A fyddwch chi’n dod i gytundeb, ynteu a fyddwch chi’n mynd o gwmpas yn creu trafferth i’ch gilydd, edrych yn gas ar eich gilydd, ac yn gyffredinol yn tynnu ar eich gilydd?  A ydych yn aelod o gang, gyda thiriogaeth yr ydych yn ystyried bod gennych hawl drosti?  Faint o drafferthion y mae hynny wedi ei achosi?  Efallai bod ffrind i chi wedi cael ei frifo trwy anghytundeb o’r fath – sut gwnaethoch chi ddygymod â hynny?

  7. Mae dod i gytundeb â phobl yr ydych wedi cweryla â nhw, neu weithio ar y cyd â phobl nad ydych yn eu hoffi, yn rhywbeth anodd ei wneud.  Ond, mae’n rhaid i ni wneud hynny os ydym am symud ymlaen fel cymuned ynghyd.  Ac mae cymuned gref yn werth mwy o lawer na balchder un grwp, boed hynny’n anodd i chi feddwl am y peth ai peidio.

Amser i feddwl

Treuliwch ychydig o amser yn meddwl am y bobl rydych chi’n anghydweld â nhw, neu’n cweryla â nhw, neu’n ei chael hi’n anodd cydweithio â nhw.
A yw’n werth yr egni a’r boen i gynnal perthnasoedd sydd heb fod yn rhai da?
Ydych chi’n annog pobl eraill i ddechrau cweryla? Ac i ymddwyn heb barch tuag at bobl eraill?
Ydych chi’n hoffi chi eich hunan pan fyddwch chi’n gwneud hynny?
Dywedodd Iesu, ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw’ (Mathew 5.9)
(Saib)

Gweddi
Dyma addasiad o weddi Sant Ffransis o Assisi.
Efallai yr hoffech chi wneud hon yn weddi i chi eich hun, neu fe allech chi ddim ond gwrando ar y geiriau’n unig.
Arglwydd, gwna fi’n offeryn dy hedd.
Lle mae casineb, boed i mi hau cariad,
Lle mae camwedd, maddeuant,
Lle mae amheuaeth, ffydd,
Lle mae anobaith, gobaith,
Lle mae tywyllwch, goleuni,
Lle mae tristwch, llawenydd.
O Feistr Dwyfol, caniatâ fy mod 
nid yn gymaint yn ceisio cysur ond yn ei roi,
nid yn gymaint yn dymuno cael fy neall, ond yn ceisio deall,
nid yn gymaint yn dymuno cael fy ngharu, ond yn rhoi cariad;
oherwydd, wrth roi y derbyniwn,
wrth roi maddeuant y derbyniwn faddeuant,
wrth farw y deffrown i fywyd tragwyddol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon