Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Foment ‘John Terry’ Honno!

Galluogi’r disgyblion i ddeall bod y ffydd Gristnogol yn cynnig y posibilrwydd o gael ail gyfle.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Galluogi’r disgyblion i ddeall bod y ffydd Gristnogol yn cynnig y posibilrwydd o gael ail gyfle.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os ydych chi’n berchen ar y dechnoleg angenrheidiol, fe allech chi ddangos y clipiau fideo o’r ciciau a fethodd Terry.

  • Neu, gan y BBC (ansawdd gwell), ras derfynol 100 metr dros y clwydi i’r merched yn Beijing, ar http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/olympics/athletics/7570922.stm

  • Darlleniad o’r Beibl: Luc 19.1–10.

Gwasanaeth

  1. Y foment hon oedd pinacl y tymor. Roedd y gystadleuaeth chwerw rhwng dau o brif dimau Lloegr, Chelsea a Manchester United, yn cael ei chwarae ar lwyfan mwyaf Ewrop – yn gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Yn ôl y disgwyl, doedd yna ddim i wahanu’r ddau dîm ar ôl 90 munud o chwarae, ac yna cafwyd y cyfnod dirdynnol hwnnw o amser ychwanegol. Y sgôr ar ddiwedd yr amser oedd 1 – 1, ac felly byddai’n rhaid cael ciciau o’r smotyn i benderfynu pwy fyddai’n ennill.

    Yna daeth eiliad o lwc i Chelsea. Methodd Ronaldo, prif seren United, ei gic o’r smotyn, ac felly roedd y gwpan heb os yn eiddo iddyn nhw. Roedden nhw ar fin dod yn Bencampwyr Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes – ym Moscow ac o flaen eu perchennog Rwsaidd. Roedd y sgript wedi ei ysgrifennu, dyma’r foment dyngedfennol iddyn nhw.

    Daeth eu capten ysbrydoledig John Terry ymlaen, dyn oedd yn gallu ymdopi â phwysau. Daliodd y byd ei anadl. Llithrodd Terry, tarodd y bêl bostyn y gôl ac o ganlyniad bu United yn fuddugol. Mae’r delweddau ar ddiwedd y gêm bellach yn rhai eiconig:  Terry yn ddagreuol a digysur.

  2. Nid yw Terry wrth gwrs yn unigryw. Mae eiliadau cofiadwy o fethiant yn rhan o ddrama fawr byd y campau. Yn y Gemau Olympaidd diweddar yn Beijing un o’r rasys mwyaf dramatig oedd y ras 100 medr dros y clwydi i ferched. Y ffefryn clir oedd y ferch â’r enw rhyfeddol hwnnw, Lolo Jones. Roedd hi’n ffit ac yn canolbwyntio, ac o fewn eiliadau ar ôl cychwyn y ras, roedd hi yn gyfforddus ar y blaen i weddill y rhedwyr. 

    Gwelodd y llinell derfyn ddim ond ychydig fetrau oddi wrthi - pedair blynedd o waith caled a llafurus oedd ar fin cyrraedd ei uchafbwynt mewn gorfoledd Olympaidd. Ac yna, tarodd yn erbyn y glwyd olaf ond un, ac ar amrantiad (oherwydd dim ond ychydig gentimetrau) diflannodd freuddwyd y pedair blynedd. Ysgubodd gweddill y rhedwyr heibio iddi a bu raid i Lolo Jones wynebu’r ffaith bod y merched, y gallai hi’n hawdd gael y gorau arnyn nhw, yn mynd i gael y medalau. Cafodd ei gadael heb ddim.

  3. Mae un peth yn sicr – hyd ddiwedd eu hoes, nid aiff diwrnod heibio heb i Lolo Jones a John Terry edrych yn ôl a dweud, ‘Pe byddwn... Pe byddwn i ond yn cael yr eiliad yna unwaith eto.’  (Ar gyfer dyfyniadau o’r hyn ddywedodd John Terry am y digwyddiad yma, edrychwch yn y Sunday Mirror, 25 Awst 2008).

  4. Fel sy’n digwydd yn aml, mae mabolgampau yn adlewyrchu bywyd. Mae yna gyfnodau pan fyddwn ni’n cael popeth yn hollol anghywir, pan fydden ni’n dyheu i dynnu’n ôl y geiriau ddywedon ni, neu ddadwneud ein gweithredoedd. Mae yna eiliadau pan fydd ein hunanoldeb a’n balchder yn cael y gorau arnom ni. Weithiau, fe fyddwn yn cymryd y llwybr anghywir mewn bywyd, ac yn diweddu yn dilyn y dorf anghywir neu wedi mabwysiadu arferion drwg. Mae yna lawer tro pryd y byddwn – fel Lolo Jones a John Terry – yn dymuno cael byw’r eiliad honno unwaith eto.

  5. Y newyddion da yw – mewn difrif calon – fe allwn ni. Yn greiddiol i’r efengyl Gristnogol cawn hyd i’r syniad bod Duw yng Nghrist, yn rhoi dechrau newydd i ni, llechen lân – a’n ffaeleddau yn y gorffennol wedi eu dileu’n llwyr.

  6. Wrth gwrs, dydy hyn ddim yn golygu na fydd raid i ni wynebu canlyniadau’r dewisiadau anghywir wnaethom ni na’n gweithredoedd yn y gorffennol. Ond mae’n golygu nad oes raid i ni fod wedi ein clymu i’r gorffennol am byth gan y gwyddwn y gallwn ni gael maddeuant. Fel y mae’r Beibl yn ei ddweud, gallwn ddod yn ‘greadigaethau newydd’.

Amser i feddwl

Gwrandewch ar stori Sacheus o Efengyl Luc. Fe gafodd Sacheus un o’r ‘momentau John Terry’ rheini - neu nifer ohonyn nhw! Roedd Sacheus wedi dewis gweithio fel casglwr trethi i’r Rhufeiniaid, awdurdod yr oedd ei bobl yn ei gasáu, ac roedd wedi dewis twyllo’i bobl ei hun hefyd. Roedd yn ddyn cyfoethog iawn, ond doedd ganddo ddim ffrindiau - ac mae’n amlwg ei bod hi’n edifar gan Sacheus ei fod wedi dewis gwneud hynny, ac roedd yn dyheu am ddechrau newydd. A dyna a ddigwyddodd pan ddaeth i gwrdd ag Iesu am y tro cyntaf.
Darllenwch Luc 19.1–10.

Gweddi
Arglwydd Dduw, rydyn ni’n gofyn i ti faddau i ni am y momentau rheini yn ein bywydau pryd y gwnaethon ni bethau anghywir,
pryd y gwnaethon bechu yn dy erbyn di, ac yn erbyn pobl eraill.
Rydyn ni’n diolch i ti am y rhodd o ddechrau newydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon