Darnau Cam o Fetel a Geiriau Yma ac Acw
Ystyried potensial creadigol rhyfeddol y meddwl dynol.
gan Gordon Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Ystyried potensial creadigol rhyfeddol y meddwl dynol.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fyddwch chi angen llond dwrn o glipiau papur a geiriadur.
- Mae’r syniadau ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi cael eu cymryd o The Confidence Book, a gyhoeddwyd gan Sheldon Press.
- Mae’r awdur yn cynnal Cynhadledd Hyfforddiant ar Greadigrwydd i athrawon ym mis Rhagfyr 2008 (gweler http://www.philipallanupdates.co.uk).
Gwasanaeth
- Rhannwch nifer o glipiau papur i rai o’r myfyrwyr a dywedwch eich bod chi’n mynd i roi dim ond 30 eiliad i bob un ohonyn nhw feddwl am bethau i’w gwneud â’r ‘gwrthrych hwn’ – peidiwch â chyfeirio ato fel clip papur. Gofynnwch i’r myfyrwyr basio’r gwrthrychau o gwmpas fel bod gan bobl eraill gyfle i’w ‘trin a’u trafod’.
- Ar ddiwedd y 30 eiliad, gofynnwch am awgrymiadau: pa syniadau ydych chi wedi meddwl amdanyn nhw ar gyfer defnyddio’r gwrthrych hwn?
Croesawch bob syniad - efallai y bydd gofyn i chi fod yn barod am ambell awgrym sydd heb fod yn mor ystyriol â hynny o hylendid! Os yw syniadau yn araf yn dod, tynnwch sylw at y ffaith eich bod chi wedi gweld nifer o bobl yn plygu’r gwrthrychau, felly dyna un defnydd: tegan desg mewn swyddfa, rhywbeth i liniaru straen, hyd yn oed!
Fe allai syniadau eraill gynnwys: pren mesur bychan; erial teledu ar gyfer ty dol; stensil; rhywbeth i lanhau ewinedd; rhywbeth i gadw dillad gyda’i gilydd; a hyd yn oed … rhywbeth i ddal papurau gyda’i gilydd! - Nodwch eich bod chi wedi osgoi rhoi enw ar y gwrthrych, oherwydd unwaith y byddwn ni’n rhoi enwau ar rywbeth, rydym yn meddwl amdanyn nhw mewn ffordd benodol – drwy ei alw yn glip papur, dyna’r cyfan ydyw, clip i ddal papurau ynghyd.
Awgrymwch i’r myfyrwyr y gallan nhw ddefnyddio’r dull hwn o ‘weld pethau yn wahanol’ gydag unrhyw broblem. Caniatewch eich hun i weld pethau mewn ffordd wahanol, ac efallai y gwelwch chi ffordd ymlaen. - Dewiswch un o’r awgrymiadau ar gyfer yr hyn y gallwch chi ei wneud â’r ‘clip papur’. Dangoswch eich geiriadur, ac eglurwch fod gan y meddwl dynol allu di-ben-draw, mae’n ymddangos, i wneud cysylltiadau a chreu storïau - ac rydych chi i gyd yn mynd i wneud hynny yn awr. Y pwynt cychwynnol yw’r defnydd rydych chi wedi ei ddewis ar gyfer y clip papur; byddwch yn dod o hyd i’r elfen nesaf ar hap drwy ddefnyddio’r geiriadur.
Gofynnwch i un myfyriwr agor y geiriadur ar hap, a myfyriwr arall i bwyntio, heb edrych, at unrhyw air, yna darllenwch ef - os oes angen, yn cynnwys y diffiniad. - Gofynnwch am awgrymiadau – pwy sy’n gallu gwneud stori i gysylltu eich gwrthrych â’r gair rydych chi newydd ddod o hyd iddo?
Cymerwch un awgrym, ac yna dewch o hyd i air arall ar hap, a bwydwch hwn i mewn i’r stori. Pwysleisiwch fod hon yn dechneg ragorol pan fyddwch chi’n methu meddwl am rywbeth wrth ysgrifennu – dewch o hyd i air ar hap, ac edrychwch lle bydd hwnnw’n mynd â chi.
Amser i feddwl
Mae’r meddwl dynol yn rhyfeddol.
Rydym yn gwneud cysylltiadau bob amser. Rydym yn chwilio am rywbeth newydd bob amser.
Sut byddwch chi’n defnyddio eich creadigrwydd heddiw?
Gweddi
Diolch i ti am y fflach greadigol sydd ym mhob un ohonom.
Diolch i ti am storïau, am gysylltiadau, am feddyliau ffres a syniadau newydd.
Hela fi i ddefnyddio fy nghreadigrwydd bob dydd ac ym mhob ffordd y gallaf.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.