Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pobl Arbennig

Ystyried beth sy’n gwneud rhywun yn arwr, yng nghyd-destun Dydd y Cofio.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried beth sy’n gwneud rhywun yn arwr, yng nghyd-destun Dydd y Cofio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi chwarae ‘Nimrod’, o Enigma Variations Elgar, sydd yn cael ei chwarae yn aml mewn gwasanaethau Dydd y Cofio, wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth a mynd allan.

Gwasanaeth

  1. Am bwy y byddwch chi’n meddwl, tybed, pan ddyweda i’r gair ‘arwr’?  Chwaraewr pêl-droed enwog fel George Best, efallai?  Neu arwr o’r byd roc fel Jimi Hendrix? Neu un o arwyr y sinema fel John Wayne?

    Bydd rhywun yn dod yn arwr pan fydd storïau gwych yn cael eu hadrodd amdanyn nhw, ymhell ar ôl eu marwolaeth neu pan fyddan nhw fwyaf enwog.  Heddiw, fe wnawn ni ystyried tri arwr o’r fath.

  2. Mae’r ffilm I Am Legend wedi cael ei lleoli yn ninas anial Efrog Newydd yn 2012.  Dair blynedd yn gynharach, roedd gwyddonwyr wedi darganfod yr hyn oedden nhw’n ei gredu oedd yn iachâd firaol i ganser, nes i’r sgil effeithiau beri dinistrio’r byd fel rydym yn ei adnabod.  Roedd Dr Robert Neville (a bortreadwyd gan Will Smith) yn un o’r gwyddonwyr hynny.

    Mae Neville yn dewis aros yn y ddinas wrth i bobl ymgilio ohoni, yr unig fod dynol a oroesodd mewn anialwch trefol lle mae anifeiliaid gwyllt, a bodau dynol a chwn mwtant gwylltach fyth, yn byw.  Bwriad Neville yw gwyrdroi lledaeniad y firws gan ddefnyddio ei imiwnedd ei hunan.  Mae’n dewis peryglu ei fywyd ei hun, a dioddef bod ar ben ei hun yn gyfan gwbl, er mwyn achub dynolryw.

    Mae’n darlledu neges ddyddiol i unrhyw un a oroesodd, yn cynnig bwyd, lloches a diogelwch, gan sicrhau unrhyw un a allai glywed y neges, ‘Cofiwch, dydych chi ddim ar ben eich hun.’

    Mae dynes ifanc a’i mab yn dod ato â storïau am drefedigaeth o oroeswyr.  Mae’r mwtantiaid yn ymosod ar y ty, ar yr union adeg mae Neville yn dod o hyd i’r ateb i wella’r sefyllfa.  Mae’n rhoi ei fywyd i’w warchod.  Mae’r ddynes ifanc yn gofalu na fydd unrhyw un yn anghofio am ei aberth: ‘Cysegrodd Dr Robert Neville ei fywyd i ddarganfod ffordd o iachau’r cyflwr, ac adfer dynoliaeth … Ni yw ei etifeddiaeth.  Dyma ei stori arwrol.’

    Dangosodd y cariad mwyaf oll, rhoi ei fywyd ei hun er mwyn eraill.

  3. Dyma sut mae Iesu yn disgrifio’r un peth, yn Ioan 15.13: ‘Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod dyn yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.’

    Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi dod i’r byd i achub dynoliaeth.  Dewisodd Iesu beryglu ei fywyd ei hun, a dioddef erledigaeth a chael ei wawdio er mwyn yr holl bobl.  Yn ystod ei fywyd ar y ddaear, sicrhaodd pawb a fyddai’n fodlon gwrando y byddai’n eu gwarchod, ac yn darparu ar eu cyfer.  Lleddfodd bryderon ei ddilynwyr drwy ddweud: ‘Ac yn awr, yr wyf fi gyda chi bob amser hyd ddiwedd y byd’ (Mathew 28.20).

    Yn y diwedd, rhoddodd ei fywyd i achub y byd.  Fe ddangosodd ef, hefyd, y cariad mwyaf oll.  Fwy na 2,000 mlynedd yn ddiweddarach, mae nifer o Gristnogion ledled y byd yn parhau i adrodd storïau am Iesu a chofio am ei farwolaeth yn rheolaidd mewn gwasanaethau Cymun Bendigaid a phob blwyddyn adeg y Pasg.

  4. Yr adeg hon o’r flwyddyn, rydym yn cofio pobl eraill a roddodd eu bywydau er mwyn eu gwlad.  Nid ydym yn gwybod eu henwau i gyd.  Nid ydym yn gwybod eu hanesion i gyd.  Ond rydym yn gwybod bod nifer wedi marw mewn rhyfeloedd dros y canrifoedd, i’n gwarchod ni a’r rhai a oedd yma o’n blaenau ni.  Mae’r dynion a’r merched hyn hefyd wedi dangos y cariad mwyaf oll, yn rhoi eu bywydau eu hunain dros eu ffrindiau, eu teuluoedd, a’u cyd-ddinasyddion. 

    Mae pawb sydd wedi aberthu eu bywydau eu hunain er mwyn pobl eraill yn haeddu cael eu cofio.

Amser i feddwl

Felly, gadewch i ni oedi i gofio pawb sydd wedi marw i warchod eu gwlad a’r rhai sy’n byw ynddi.
Gadewch i ni gofio’r esiampl a osododd Iesu drwy roi ei fywyd er mwyn achub pawb ohonom.
Gadewch i ni feddwl am yr hyn y gallwn ni ei wneud heddiw i ddarparu ar gyfer pobl eraill sydd angen help ar hyn o bryd, a’u hamddiffyn.
Boed hynny, felly.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon