Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Adfent

Archwilio ystyr tymor yr Adfent.

gan Dan Rogers

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ystyr tymor yr Adfent.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi angen paratoi eich tuniau o fwyd.  Agorwch dri tun gwahanol (e.e. ffa pob, ffrwythau, pys) ar y top, yn ofalus iawn, tynnwch y cynnwys ohonyn nhw, a’u golchi.  Yn awr, cyfnewidiwch gynhwysion y tuniau, a’u selio eto yn ofalus gan ddefnyddio selotep.  Os na allwch chi wneud i hyn weithio yn effeithiol, yna peidiwch ag agor caead y tun i gyd, fel bod gennych chi ‘golfach’, a gwthiwch y top i lawr.  Argymhellir nad ydych yn cynnwys yr holl hylif.  Byddwch yn ofalus gydag ymylon y tuniau hefyd – maen nhw’n finiog!

Gwasanaeth

  1. Mae’r gwasanaeth heddiw ar thema’r Adfent.  Adfent yw’r cyfnod o ddisgwyl cyn y Nadolig.  Dangoswch y tri tun (y mae eu labeli yn dweud: ffa pob, ffrwythau, pys).

  2. Gofynnwch i dri gwirfoddolwr agor y tuniau.  Ydyn nhw’n gweld yr hyn roedden nhw wedi ei ddisgwyl yn y tuniau?  Nid yr hyn sydd ar y labeli sydd yn y tuniau!

  3. Gofynnwch i’r myfyrwyr: Beth ydych chi’n disgwyl ei gael y Nadolig hwn?  Gwahoddwch ymatebion.

    Rhowch enghreifftiau o anrhegion annisgwyl rydych chi wedi eu derbyn: un flwyddyn roeddwn i’n disgwyl cael … ond fe ges i gyfrifiadur! Flwyddyn arall fe ges i … ond doeddwn i ddim ond yn disgwyl …

    Y neges yw, weithiau fe fyddwn ni’n cael pethau nad ydym yn eu disgwyl.

  4. Gadewch i ni ddarllen Eseia 9.6–7, sef darn sy’n proffwydo dyfodiad yr un yr oedd yr Iddewon yn meddwl amdano fel yr Un Dewisedig, yr un roedden nhw’n cyfeirio ato fel y ‘Meseia’:

    Canys bachgen a aned i ni,
    mab a roed i ni;
    a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. 
    Fe’i gelwir, 
    “Cynghorwr Rhyfeddol, Cawr o Ryfelwr,
    Tad Bythol, Tywysog heddychlon”. 
    Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth,           
    nac ar ei heddwch
    i orsedd Dafydd a’i frenhiniaeth,
    i’w sefydlu’n gadarn  barn a chyfiawnder,
    o hyn a hyd byth. 
    Bydd sêl Arglwydd y Lluoedd yn gwneud hyn.

  5. Yn seiliedig ar y broffwydoliaeth hon, roedd yr Iddewon yn disgwyl i’w Un Dewisedig gyrraedd fel rheolwr milwrol pwerus, felly pan ddaeth Iesu, roedd rhai wedi eu siomi ynddo.  Fe wnaeth rhai ohonyn nhw hyd yn oed wrthod yn llwyr y syniad y gallai Iesu fod eu Un Dewisedig nhw, oherwydd nad oedd ef yn debyg i’r hyn roedden nhw wedi ei disgwyl.

    Yr hyn na wnaethon nhw sylweddoli oedd fod yr hyn a ddaeth iddyn nhw yn Iesu yn well na’r hyn roedden nhw wedi bod yn ei ddisgwyl, ac yn gobeithio amdano, mewn rheolwr nerthol!

Amser i feddwl

Y Nadolig hwn, efallai y cewch chi’r hyn y byddwch chi wedi gobeithio ei gael, ond efallai na chewch chi hynny.
Efallai y bydd eich disgwyliadau yn cael eu hateb yn y ffordd roeddech chi wedi ei ddisgwyl, ond efallai na fydd hynny’n digwydd ychwaith.
Weithiau fe gawn ni bethau sy’n wahanol i’r hyn roeddem yn ei ddisgwyl.
Pan fydd Duw ar waith, maen pethau fel arfer yn well na’r hyn roeddem wedi ei ddisgwyl…
Efallai yr hoffech chi ystyried beth rydych chi wedi bod yn gobeithio amdano …
Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r geiriau hyn fel gweddi:

Gweddi
Ein Harglwydd Dduw,
Waeth bynnag beth fydda i ei eisiau,
waeth bynnag beth fydda i ei angen,
helpa fi i gofio pan ddaethost ti i’r byd,
doeddet ti ddim yr hyn yr oedd pobl yn ei ddisgwyl.
Helpa fi i adnabod y cariad a’r gofal
sydd y tu ôl i bopeth y byddaf yn ei gael y Nadolig hwn,
a helpa fi i fod yn ddiolchgar.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon