Sant Andreas
Meddwl pa ‘newyddion da’ allwn ni ei rannu heddiw.
gan Ronni Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl pa ‘newyddion da’ allwn ni ei rannu heddiw.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fyddwch chi angen dau ddarllenydd.
Gwasanaeth
- Bydd un darllenydd yn rhedeg at y llall, ac yn ysgwyd ei law yn frwdfrydig.
Darllenydd 1: Rydw i wedi dod o hyd iddo, Pedr! Rydw i wedi dod o hyd i’r un yr addawodd Duw ei anfon atom, yr holl flynyddoedd yn ôl! Yr un arbennig, y Meseia!
Darllenydd 2 (yn methu â deall): Beth? Rwyt ti’n dweud dy fod ti wedi dod o hyd i’r Meseia, yr un dewisedig gan Dduw? Ymhle?
Darllenydd 1: Draw yn y fan acw, wrth yr afon! Roedd yn gwylio Ioan yn bedyddio pobl. Tyrd! Gad i ni fynd i chwilio amdano!
Maen nhw’n rhedeg ymaith. (Yn seiliedig ar Ioan 1.40–41.) - Ydych chi erioed wedi dweud wrth rywun fod rhywbeth arbennig yn digwydd? Fod eich hoff seren yn y dref? Fod eich hoff fand yn chwarae gig yn lleol? Fod cyflenwad o’r teclyn diweddaraf, y mae’n rhaid i bawb ei gael, yn y siopau? Neu hyd yn oed, pan oeddech chi’n iau, oeddech chi’n un o’r bobl hynny fyddai’n gweiddi, ‘Cwffio, cwffio!’ ac annog pobl i fynd i wylio hynny?
Roedd y ddau yna a welsom yn awr yn teimlo’n gyffrous oherwydd bod Andreas wedi dod o hyd i rywun roedd o’n meddwl ei fod yn bwysig iawn, y Meseia, yr un dewisedig gan Dduw, y byddai’n ei anfon i’r byd. Ef oedd yr unigolyn roedd yr Iddewon, tua 2,000 mlynedd yn ôl, wedi bod yn disgwyl amdano, ac wedi bod yn chwilio amdano. - Dywedodd Andreas am Iesu wrth ei frawd Pedr, a dyna sut y daeth y ddau ddyn yn rhan o’r grwp oedd yn ddilynwyr i Iesu, y disgyblion. Dywedodd Andreas wrth Pedr, ac aeth Pedr ati wedyn i ddweud wrth bobl eraill.
Ac mewn gwirionedd, wyddom ni ddim wrth sawl un y dywedodd Pedr y newyddion da hynny. Credir yn awr mai Pedr, mewn gwirionedd, a arddywedodd un o lyfrau’r Beibl sy’n adrodd stori Iesu - yr Efengyl yn ôl Sant Marc - ac mae llawer o bobl wedi dod yn Gristnogion trwy ddarllen y Beibl. - Credodd Andreas fod Iesu yn newyddion da. Pa newyddion da ydych chi wedi ei glywed heddiw? Fyddai unrhyw un ohonoch chi’n hoffi rhannu hynny gyda phawb ohonom? Derbyniwch atebion, os cewch chi rai.
- Dros y byd i gyd, bydd pobl yn rhannu newyddion da heddiw. Efallai nad y newydd eu bod nhw wedi dod o hyd i’r Meseia y byddan nhw’n ei rannu, ond newyddion efallai am faban newydd, pasio arholiad, neu gael swydd. Efallai bod dau wedi dyweddïo, neu efallai mai’r newydd da yw eu bod yn caru rhywun.
Amser i feddwl
Pa newyddion da allech chi ei rannu heddiw?
Efallai eich bod chi wedi gwneud eich gwaith cartref i gyd?!
Efallai eich bod chi wedi gwneud yn dda mewn prawf?
Efallai eich bod chi wedi deall y tamaid hwnnw o fathemateg y buoch chi’n ymdrechu i’w ddeall?
Efallai yr hoffech chi ddweud wrth ffrind gymaint rydych chi’n eu gwerthfawrogi nhw?
Efallai yr hoffech chi ddweud wrth aelod o’ch teulu gymaint rydych chi’n eu caru nhw?
Pa newyddion da allech chi ei rannu heddiw?
Gweddi
Arglwydd, helpa fi i rannu newyddion da, nid dim ond y newyddion drwg.
Helpa fi i gofio newyddion da Iesu: dy fod ti’n ein caru ni, a dy fod ti yma i ni.
A helpa fi i rannu’r newyddion da hwnnw yn fy mywyd.
Amen.