Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ddeugain Mlynedd yn ôl i’r Adeg Yma

Dathlu hediad y llong ofod Apollo 8, adeg y Nadolig 1968.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu hediad y llong ofod Apollo 8, adeg y Nadolig 1968.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr y gân ‘Space Oddity’ gan David Bowie.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y gerddoriaeth wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth, a’i adael i chwarae i’r diwedd. Mae’n bwysig bod y gynulleidfa’n clywed y rhan olaf, lle mae ‘Major Tom’ yn mynd ar goll yn y gofod.

  2. 40 mlynedd yn ôl, ar 21 Rhagfyr 1968, cychwynnodd tri gofodwr, Commander Frank Borman, James Lovell a William A. Anders, ar daith i’r gofod, o’r ganolfan ofod, y Kennedy Space Centre, yn Florida. Roedden nhw’n anelu am y lleuad. Eu cenhadaeth oedd mynd â’r llong ofod Apollo 8 allan i’r gofod ac oddi amgylch y lleuad, troi o gwmpas y lleuad 20 gwaith mewn 10 awr, ac yna dod yn ôl i’r ddaear. Swnio’n hawdd?

  3. Cofiwch mai dyma’r bobl gyntaf erioed i wneud hynny. Roedd robots wedi glanio ar y lleuad cyn hyn, ond doedd y rheini ddim wedi gallu dod yn ag unrhyw beth yn ôl i’r ddaear. Roedd penawdau’r newyddion bryd hynny’n llawn ansicrwydd ac yn besimistaidd – roedd y bobl yn ofni na fyddai’r gofodwyr yn gallu dod yn eu holau’n ddiogel.

    Y Nadolig hwnnw, daliodd y byd ei anadl wrth i’r llong ofod Apollo 8 ddiflannu allan o gyswllt radio yr ochr arall i’r lleuad am gyfnod cyn dychwelyd i gyrraedd trosglwyddiad radio a throi o gwmpas y lleuad eto. Cwblhawyd y genhadaeth, ac o'r diwedd fe laniodd y llong ofod yn ôl yn y môr, yn y Pasiffig, ar 27 Rhagfyr 1968 am 10:52 a.m. Amser Dwyrain America.

  4. Wrth i ni ddathlu’r Nadolig ar y Ddaear, y flwyddyn honno, fe anfonodd y gofodwyr eu cyfarchion arbennig eu hunain. Fe wnaethon nhw ddarllen adnodau o lyfr cyntaf y Beibl, Llyfr Genesis, yr adnodau sy’n sôn am Dduw’n creu’r byd. 

    Chwaraewch ddarlleniad y BBC o’r adnodau rheini o lyfr Genesis, neu chwaraewch y clip oddi ar YouTube yma.

    Doedd hwn ddim wedi’i nodi ar gynllun y daith, a derbyniodd ymateb cryf - rhai’n ymateb yn gadarnhaol, eraill yn negyddol - i’r gofodwyr yn mynegi eu cred Gristnogol yn y ffordd yma.

  5. Mae’n anodd i ni, 40 mlynedd yn ddiweddarach, werthfawrogi peryglon y daith honno i’r gofod. Yn eironig iawn, taith nesaf James Lovell i’r gofod oedd y daith honno ar Apollo 13, pryd y bu bron iddo â cholli ei fywyd. 

    Ond roedd i’r Apollo 13 fodiwl lloerol, a dyna’r rhan o’r llong ofod yr oedd y gofodwyr yn dychwelyd i’r ddaear ynddi. Doedd dim modiwl lloerol fel hynny ar yr Apollo 8. Pe byddai rhywbeth wedi mynd o’i le ar daith y gofodwyr oedd ar Apollo 8, fel ag a allai fod wedi digwydd yn hawdd, doedd dim ‘cwch achub’ iddyn nhw yn honno ar ffurf y modiwl.

  6. Os ydych chi wedi gweld y ffilm Apollo 13, fe fydd gennych chi ryw syniad o ba mor gyfyng oedd hi ar y llong ofod, a pha mor anodd oedd yr amgylchiadau yr oedd yn rhaid i’r gofodwyr fyw ynddyn nhw, a gweithio ynddyn nhw. Felly, eleni, ar adeg y Nadolig, gadewch i ni gofio am rai o wir awyr y ganrif ddiwethaf - y dynion oedd yn ofodwyr ar y llongau gofod Apollo.

Amser i feddwl

Gwrandewch ar rywfaint o’r gerddoriaeth eto.

Yn eich dychymyg, meddyliwch am sut adeg oedd honno i’r gofodwyr. Roedden nhw wedi’u gwregysu mewn adran fechan o’r modiwl. Roedden nhw’n gadael diogelwch cymharol ein planed ni, ac yn hedfan i’r lleuad ac yn ôl.
Meddyliwch am eu teuluoedd, yn gwylio ac yn disgwyl trwy gyfnod y Nadolig.
Meddyliwch am sut roedd pethau ar y ddaear: pobl y byd i gyd yn gwylio ac yn disgwyl am y tri dyn dewr yn ôl i’r ddaear, gan wybod yn iawn fod siawns fawr na ddeuen nhw byth yn ôl, efallai.
Treuliwch ychydig o funudau’n meddwl am emosiwn y gofodwyr, wrth iddyn nhw ddarllen yr hanes am Dduw’n creu’r byd.
Meddyliwch am yr emosiynau rhyfeddol a deimlodd y gofodwyr a’u teuluoedd a’u cyfeillion pan godwyd y tri o’r Pasiffig.
A sylweddolwch ein bod ni erbyn hyn yn tueddu i gymryd teithio yn y gofod yn ganiataol iawn, yn achos y gofodwyr rheini sydd wrth eu gwaith, a rhai miliwnyddion sy’n fodlon talu am y profiad!

Gweddi
Arglwydd Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am ddewrder y dynion a’r merched rheini sy’n peryglu eu bywydau yn archwilio’n byd a’r gofod o’i gwmpas.
Heddiw, rydyn ni’n diolch i ti am bob un sydd wedi bod allan yn archwilio’r lleuad a’r gofod;
am yr arbrofion y maen nhw wedi’u gwneud;
ac am y manteision rydyn ni wedi’u hennill yn sgîl y ras i gyrraedd y lleuad.
Rydyn ni hefyd yn diolch i ti am yr ysbryd hwnnw sy’n perthyn i ni, i fod yn barod i gymryd risg, i ddal ati, ac i fynd y tu draw i’r hyn rydyn ni eisoes yn gwybod amdano.
Amen.

Chwaraewch y gerddoriaeth eto wrth i’r myfyrwyr ymadael â’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon