Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Hud Bywyd Go Iawn

Cynnig delwedd o obaith, a daioni yn trechu drygioni.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Cynnig delwedd o obaith, a daioni yn trechu drygioni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Er nad yw’n hanfodol, byddai’r gwasanaeth hwn yn elwa’n fawr o gael tric hud neu ledrith ar y dechrau.  Fe allech chi, aelod o staff neu fyfyriwr berfformio tric.  Rydych chi’n edrych am rywbeth sydd ag effaith weledol amlwg, y bydd modd ei gyfleu i bawb yn y neuadd.  Mae digon o driciau syml y gallwch chi eu defnyddio heb gyfarpar arbennig, naill ai mewn llyfrau neu ar safleoedd ar y rhyngrwyd fel www.kidzone.ws/

  • Fe fyddwch chi angen beic (neu lun mawr o feic) a llun o wn (neu wn tegan).

  • Darllenwch drwy stori Sousa Manuel Goao ymlaen llaw, neu paratowch un neu ragor o’r myfyrwyr i’w darllen.

Gwasanaeth

  1. Os oes gennych chi un, perfformiwch eich tric hud.  Os nad oes gennych chi dric, siaradwch am hud a lledrith a’r synnwyr o syfrdandod a rhyfeddod maen nhw’n ei greu.

  2. Ewch ymlaen i grybwyll rhai o brif driciau perfformwyr llwyfan – llifio rhywun yn hanner; gwneud i rywun godi i’r awyr; gwneud i bobl a phethau ymddangos a diflannu; troi un peth yn rhywbeth arall; tynnu rhywbeth o rywle sy’n ymddangos yn amhosibl, fel cwningen o het neu lif diddiwedd o gadachau sidan o flwch bychan.

  3. Siaradwch am ‘hud bywyd go iawn’: y teimlad rhyfeddol hwnnw pan fydd rhywbeth roeddech chi’n meddwl ei fod yn amhosibl yn dod yn wir.  Rhowch enghreifftiau: cael eich dewis i fod yn rhan o dîm chwaraeon, a oedd wedi ymddangos yn amhosibl ychydig fisoedd yn ôl; rhywun yn sâl, ac yna, yn rhyfeddol ac yn groes i’r disgwyl, yn gwella; rhywbeth rydych chi wedi bod yn ei ofni ac yn poeni amdano, fel prawf, yn beth da yn y pen draw – rydych chi hyd yn oed yn ei fwynhau!  ‘Hud bywyd go iawn’ yw hyn; nid triciau, ond digwyddiadau sy’n rhoi’r un teimlad o syndod a rhyfeddod i chi â'r hyn gewch chi â thric da.

  4. Eglurwch fod gennych chi enghraifft o hud bywyd go iawn sydd mor rhyfeddol fel ei fod yn swnio fel tric hud!  Mae’r hud yn troi hwn (dangoswch wn/llun gwn), yn hwn (dangoswch y beic/ llun beic).

    Sut mae hyn yn digwydd?  Yng Ngweriniaeth Mozambique, gwlad yn ne-ddwyrain Affrica, mae sefydliad o’r enw Cyngor Cristnogol Mozambique yn mynd â gynnau sydd dros ben ers amser y rhyfel cartref fu yn y wlad (math o ryfel lle mae pobl gwlad benodol yn brwydro ymysg ei gilydd) a chyfnewid y gynnau rheini am bethau defnyddiol fel aradr, beic neu beiriant gwnïo.  Hud bywyd go iawn yw hyn - maen nhw’n cymryd arfau a oedd wedi gwneud cymaint o niwed i’r wlad, ac abracadabra, maen nhw'n eu troi nhw'n bethau defnyddiol sy'n helpu i adeiladu gwlad well i bawb.

  5. Ond nid yw’r hud yn dod i ben yn y fan honno.  Yn union fel y triciau hud gorau sydd â syrpreis ychwanegol ar eu diwedd i beri i'r gynulleidfa ryfeddu a chymeradwyo, mae’r gynnau yn cael eu rhoi i artistiaid sy’n eu troi nhw’n waith celf - weithiau maen nhw hyd yn oed yn gwneud cadeiriau a byrddau ohonyn nhw. 

    Darllenwch stori Sousa Manuel Goao, neu gofynnwch i’r myfyrwyr a fu’n paratoi i ddarllen y stori wneud hynny.

    Fy enw i yw Sousa Manuel Goao.  Rwy’n byw mewn pentref bychan yn Mozambique. Pan oeddwn i’n 23 oed, cefais fy herwgipio gan filwyr oedd yn gwrthryfela yn erbyn y llywodraeth.  Cefais fy rhoi gyda dynion ifanc eraill a oedd wedi cael eu herwgipio.  Cawsom ein gorfodi i orymdeithio am 150 milltir - heb esgidiau! 

    Ar ôl diwrnodau o gerdded, o’r diwedd fe wnaethon ni gyrraedd gwersyll hyfforddi yng nghanol unman.  Fe wnaethon ni ddysgu sut i oroesi.  Fe wnaethon ni hefyd ddysgu sut i gynnal cyrchoedd ar ffermydd ac ymosod ar bobl eraill.  Roedden ni’n cymryd beth bynnag oedden ni ei eisiau.  Roedden ni hefyd yn herwgipio dynion a’u hyfforddi i fod yn filwyr, yn union fel roeddem ninnau wedi cael ein cipio.  Doedden ni ddim yn malio pwy oedden ni’n eu lladd - milwyr, dynion, merched neu blant.  Doedd hynny ddim yn bwysig.

    Yna, ar ôl ychydig o amser, fe ddaeth y fyddin wrthryfelgar a oedd wedi fy herwgipio i ddealltwriaeth â’r llywodraeth.  Felly, fe wnaethon ni roi’r gorau i ymladd a gofynnodd y llywodraeth i ni roi ein harfau iddyn nhw.  Ond fe wnaethon ni guddio llawer ohonyn nhw.  Roedd angen i ni oroesi, felly fe wnaethon ni gadw’r gynnau fel y byddai gennym fodd wedyn o gael bwyd ac arian amdanyn nhw. 

    Yna, fe wnes i glywed am Gyngor Cristnogol Mozambique.  Roedd yn cynnig rhoi offer i bobl - pethau fel aradr neu beiriant gwnïo, yn gyfnewid am eu gynnau.  Roeddwn i’n obeithiol.  Roeddwn ei eisiau rhoi’r gorau i fod ar ffo.  Roeddwn i eisiau rhoi’r gorau i ymosod ar bobl. Felly, yn nerfus, fe wnes i fynd ag ychydig o’r gynnau atyn nhw.  Mi gefais syndod o weld beth ddigwyddodd: fe wnaethon nhw fy mharchu i.  Rhoddodd y bobl yn y Cyngor beiriant gwnïo i mi - heb holi dim.  Roedd gen i gyfle i ennill bywoliaeth wedyn!

    Ers hynny, rydw i wedi mynd â rhagor o ynnau atyn nhw, ac yn gyfnewid, rydw i wedi cael dau beiriant gwnïo arall.  Erbyn hyn, rydw i'n gweithio gyda fy mrawd a'm hewythr, ac rydym yn gwneud dillad i'w gwerthu yn y farchnad leol.  Rydw i mor hapus erbyn hyn am fod fy mywyd i mor heddychlon.

  6. Fe allech chi orffen trwy ddweud rhywbeth fel hyn: Rydw i’n meddwl y dylem ddangos ein gwerthfawrogiad o hud bywyd go iawn rhyfeddol Mozambique – gadewch i ni eu cymeradwyo!

Amser i feddwl

Myfyrdod  
Mae hud a lledrith weithiau’n glyfar ac yn ein rhyfeddu ni gyda thriciau a lledrith rhyfeddol.  Felly, rydym yn gofyn: sut y gwnaethon nhw hynny?
Ambell dro, mae hud yn fwy arferol; rydym yn gwybod sut mae’n digwydd, ond mae’n parhau i’n rhyfeddu ni a rhoi gwên ar ein hwynebau.  Felly, rydym yn teimlo syndod a rhyfeddod.

Ac weithiau mae hud fel pe bai’n perthyn i’r ddau gategori, fel troi gynnau yn feics a gwneud cerfluniau hefyd!

Pa fath o hud allwch chi ei wneud heddiw?  I bwy y gallwch chi roi syrpreis, a pheri iddyn nhw ryfeddu?

Gweddi  
Annwyl Dduw,
Helpa ni i wneud hud yn ein bywydau o ddydd i ddydd i roi syrpreis i bobl a pheri iddyn nhw ryfeddu ar syniadau newydd gwych, yn union fel y gwnaeth pobl Mozambique pan wnaethon nhw droi gynnau yn bethau defnyddiol a chelf gyffrous.
Helpa ni i wneud pethau bach hudolus drwy fod yn gymwynasgar, efallai pan na fydd pobl yn ei ddisgwyl.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon