Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Datblygiad Cynaliadwy (1)

Edrych ar y syniad o ddatblygiad cynaliadwy, a gweld faint y gall pob un ohonom ei gyfrannu.

gan Claire Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Edrych ar y syniad o ddatblygiad cynaliadwy, a gweld faint y gall pob un ohonom ei gyfrannu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch dri darllenydd (fe allech chi ddefnyddio hyd at 12 os rhowch chi baragraff i bob un).

  • Llwythwch i lawr y gân ‘Fragile’ gan Sting.

  • Fe allech chi hefyd wneud montage PowerPoint o luniau perthnasol.  Edrychwch ar http://images.google.co.uk/images?hl=en&q=pollution&gbv=2

Gwasanaeth

Darllenydd 1
Mae arholiadau yn anodd.  Mae’n rhaid i chi fynd drwy lawer o waith caled: nosweithiau hwyr, straen, dim amser i weld ffrindiau nac ymlacio o flaen y teledu.  Pam yn y byd y bydden yn rhoi ein hunain drwy hynny?  Ac eto fe fydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n gweithio’n galed, ac fe gewch chi’r canlyniadau rydych chi eu heisiau ar ôl llawer o nosweithiau hwyr a dyddiau llawn straen.  Pam yn y byd y byddech chi’n gwneud hynny, pryd y gallech chi fod allan yn y parc neu’n gwylio’r teledu?

Darllenydd 2
Rydych chi’n gwneud hynny oherwydd eich bod chi’n gwybod y bydd hynny o fudd i chi yn y dyfodol.  Fe gewch chi ganlyniadau da, fe gewch chi’r swydd rydych chi ei heisiau, neu fe gewch chi fynd i’r brifysgol o’ch dewis.

Darllenydd 3

Dyma beth yw hanfod cynaladwyedd: y dyfodol.  Mae byw’n gynaliadwy yn golygu gwneud aberthau bychan yn awr, er mwyn y bobl a fydd yn byw ar ein planed (gobeithio) am filoedd o flynyddoedd yn y dyfodol.

Darllenydd 1

Fel gwareiddiad, mae ein ffordd gyfredol o fyw yn anghynaladwy mewn sawl ffordd.  Mae hyn yn wir am na allwn ni barhau â’r ffordd rydym yn byw ar hyn o bryd yn ddiddiwedd yn y dyfodol – allwn ni ddim cynnal hynny.  Rydym yn dibynnu ar danwydd ffosil, a fydd yn darfod (yn y dyfodol agos, efallai); rydym yn cynhyrchu rhagor o garbon deuocsid na’r hyn y gall cylch carbon naturiol ein planed fyth ei gynnal, gan arwain at newid yn yr hinsawdd; ac rydym yn cynhyrchu ac yn dosbarthu bwyd mewn ffordd sy’n golygu bod y cyfoethog yn y Gorllewin yn mynd yn dewach fyth, tra bod y tlodion mewn gwledydd annatblygedig yn newynu ac yn marw.

Darllenydd 2

Mae datblygiad cynaliadwy yn ffordd o edrych am atebion i’r pryderon amgylcheddol hyn sydd, mewn gwirionedd, yn ymwneud â chwilio am gydraddoldeb (tegwch) ar draws y cenedlaethau – gan sicrhau y bydd gan genedlaethau’r dyfodol fynediad at yr un adnoddau, ac o ganlyniad yr un ansawdd bywyd, â’r hyn sydd gennym ni yn awr.  Ond y mae hefyd yn cwmpasu’r syniad o gydraddoldeb o fewn y cenedlaethau – felly mae’n chwilio am ffordd o rannu’r defnydd o adnoddau yn fwy teg rhwng gwledydd, pa un ai ydyn nhw’n rhai datblygedig neu’n rhai annatblygedig.

Yn wir, cafodd yr ymadrodd ‘datblygiad cynaliadwy’ ei ddefnyddio gyntaf yn 1987 gan Gomisiwn Byd-eang y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygiad.  Diffiniodd cadeirydd y Comisiwn, Gro Harlem Brundtland, y cysyniad fel datblygiad sy’n ‘cwrdd ag anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i gwrdd â’u hanghenion nhw’.  Mae’r Cenhedloedd Unedig nawr yn cyfeirio at dri edefyn gwahanol sy’n rhan o ddatblygiad cynaliadwy: datblygiad economaidd (h.y. twf, yn enwedig yn y gwledydd hynny y mae eu heconomïau ar hyn o bryd yn cael eu diffinio fel rhai annatblygedig); datblygiad cymdeithasol (h.y. gwella ansawdd bywyd i bob dinesydd ar y ddaear, beth bynnag yw eu cefndir, hil neu ddosbarth), ac amddiffyniad amgylcheddol, sef y syniad o gynaladwyedd sydd yn fwyaf tebygol o fod yn gyfarwydd i ni - gwarchod yr amgylchedd.

Darllenydd 3

Sut mae gwireddu prosiect mor uchelgeisiol?  Ydi hi’n bosibl ei wireddu? Mae’n amlwg mai dim ond ar raddfa ryngwladol, wleidyddol, y gellir datrys llawer o’r mater hwn.  Ond gall dewisiadau personol gael effaith anferth.  Dyma rai o’r mân bethau y gallwch chi eu haddasu yn eich bywyd o ddydd i ddydd a fydd yn lleihau faint o garbon rydych chi’n ei gynhyrchu.

Darllenydd 1

Ailgylchu gwastraff yn hytrach na’i daflu i’r bin, a rhoi’r gwastraff llysieuol sydd gennych ar y twmpath compost yn hytrach na’i daflu ymaith.

Darllenydd 2

Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded pryd bynnag y mae hynny’n bosibl.  Mae ceir yn cynhyrchu llawer o nwyon ty gwydr ac yn llyncu olew, ac mae’n rhaid i ni newid ein ffordd o feddwl amdanyn nhw, a’u trin fel moethau yn hytrach na rhywbeth hanfodol bob dydd.  Os ydych chi angen gyrru car, trefnwch rannu ceir, lle gallwch chi drefnu lifft gyda’ch ffrindiau neu gydag aelodau eich teulu.  Mae nifer o gynghorau nawr yn rhedeg eu cynlluniau rhannu lifft eu hunain fel y gall pobl edrych ar wefan i weld a oes rhywun yn eu hardal nhw yn mynd ar daith i’r un cyfeiriad, a threfnu lifft gyda nhw, gan leihau nifer y ceir sydd ar y ffyrdd.

Darllenydd 3

Inswleiddio: anogwch eich rhieni i fuddsoddi mewn ffenestri gwydr dwbl, ac yn well byth, inswleiddio’r waliau a’r llofft os oes modd.  Fe fydd hyn yn golygu y bydd llai o ynni yn cael ei golli wrth wresogi’r ty; ac fe fydd hefyd yn arbed arian iddyn nhw.

Darllenydd 1

Anogwch eich rhieni i brynu peiriannau effeithlon: prynwch geir hybrid os gallwch chi, a chwiliwch am beiriannau golchi dillad a golchi llestri sydd yn sgorio’n uchel ar y sticer effeithlonrwydd ynni.  Pan fyddwch chi’n defnyddio’r peiriant golchi, trowch y gwres i gylch 30 gradd.  A phan fyddwch chi’n gosod bwyler newydd, newidiwch i un sy’n defnyddio tanwydd yn effeithlon (fe fydd hyn hefyd yn arbed arian!).

Darllenydd 2

Bwytewch lai o gig, yn enwedig cig eidion.  Mae ardaloedd mawr o goedwigoedd glaw yn cael eu clirio bob dydd i wneud lle i wartheg bori; mae’r gwartheg hyn wedyn yn bwyta symiau mawr iawn o fwyd, ac yn pasio tunelli o fethan (nwy ty gwydr grymus) yn ystod eu bywydau cyn iddyn nhw gyrraedd y lladd-dy.  Yna, mae’r cig yn cael ei gludo filoedd o filltiroedd i gyrraedd ein harchfarchnadoedd.  Mae’r holl broses yn cynhyrchu llawer iawn o garbon, ac yn wastraffus, mewn ffordd nad yw’n digwydd wrth gynhyrchu llysiau.  Nid oes yn rhaid i chi ddod yn llysieuwr; dim ond peidio â bwyta cig mor aml - unwaith yr wythnos, efallai.

Darllenydd 3

Os ydych chi eisiau mynd ymhellach, mae pethau eraill y gallwch chi eu gwneud i helpu: ymgyrchu, ysgrifennu at eich AS, mynd ar orymdeithiau ac i wrthdystiadau.  Dangoswch i lywodraethau mai hyn yw’r mater pwysicaf rydym erioed wedi ei wynebu fel gwareiddiad, ac na wnawn ni oddef ei weld yn cael ei anwybyddu.  Fe allech chi hefyd gyfrifo eich ‘ôl troed carbon’ eich hunan ar gyfrifiannell carbon (gallwch wneud hyn ar-lein), a dechrau gweithio ar leihau’r ôl troed hwnnw.  Rhywbeth arall y gallech chi ei wneud yw ‘gwneud yn iawn’ am garbon teithiau ar awyren a gweithgareddau sy’n cynhyrchu llawer o garbon, os na ellir eu hosgoi nhw – dyma lle’r ydych chi’n talu i ‘wneud yn iawn’ am y carbon rydych chi’n ei gynhyrchu trwy blannu coeden er mwyn gwrthwneud y niwed sy’n cael ei achosi.

Arweinydd

Fe fydd yn rhaid i bawb ohonom wneud newidiadau i’n ffordd o fyw er mwyn lleihau ein defnydd o bethau.  Maen nhw’n aberthau bychan, fel y rhai rydych chi’n eu gwneud cyn arholiad; ond mae’r daioni fydd yn cael ei wneud i’r amgylchedd, ac i’r ddynoliaeth yn y tymor hir, yn ei gwneud nhw’n fuddiol.  Ac maen nhw’n aberthau a fydd yn arbed arian i chi yn y pen draw, a hefyd yn gwneud i chi deimlo’n fwy iach – felly nid yw’r pethau hyn yn ddrwg i gyd!

Yn olaf, fe fydd rhai pobl yn ceisio dweud wrthych chi mai myth yw newid yn yr hinsawdd, a bod y ffeithiau gwyddonol yn amhendant.  Ac eithrio’r ffaith bod consensws byd-eang erbyn hyn fod newid yn yr hinsawdd yn digwydd o ddifrif, sy’n cael ei ategu gan adroddiadau gan y Cenhedloedd Unedig a rhai annibynnol gan lywodraethau, fe fyddai peidio gweithredu yn awr yn beth ffôl a dweud y lleiaf.  Fe fyddai’n golygu gamblo ar ddyfodol ein gwareiddiad a’n planed, a mynd yn groes i swm enfawr o dystiolaeth.  Os gwnaiff pawb ohonom ein rhan i helpu, fe fydd yr effaith yn enfawr.

Amser i feddwl

Chwaraewch y gerddoriaeth a dangoswch y montage os ydych chi’n ei ddefnyddio.

Gofynnwch i’r myfyrwyr ystyried y ffyrdd y gallen nhw newid eu bywydau a’u ffyrdd o fyw er mwyn cyfrannu tuag at gynnal y ddaear.

Gweddi
Helpa ni i gymryd cyfrifoldeb:
drosom ein hunain;
am y llanast rydym yn ei wneud;
am y llygredd rydym yn ei achosi.
Boed i ni fyw fel pobl sydd â’n golwg ar y dyfodol,
yn bod yn fwy gofalus ag adnoddau’r byd,
fel y bydd ein byd ni’n cael byw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon