Cofio'r Holocost
Galluogi myfyrwyr i ddeall pam ein bod ni’n cadw Diwrnod Holocost.
gan Ronni Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Galluogi myfyrwyr i ddeall pam ein bod ni’n cadw Diwrnod Holocost.
Gwasanaeth
Mae hi’n Ddiwrnod Cofio’r Holocost heddiw/ ddydd Mawrth, 27 Ionawr: diwrnod rydyn ni’n tueddu i’w gysylltu ag Iddewon, a gyda chyfnod yr Ail Ryfel Byd. Heddiw, rydw i eisiau rhannu stori wir gyda hi, i’ch helpu chi i feddwl pam ein bod ni’n parhau i gofio am bawb a fu farw yn ystod y rhyfel yn y ffordd hon.
Ganwyd Johanna-Ruth (Hansie) Dobschiner yn Berlin yn niwedd y 1920au. Iddewon oedd ei theulu, ac am nifer o flynyddoedd roedden nhw wedi byw yn hapus yn yr Almaen. Ond yn y 1930au, pan ddaeth y Natsïaid i rym, dechreuodd bywyd fynd yn anodd i Iddewon. Doedd y Natsïaid ddim yn eu hoffi nhw, yn yr un modd â rhai grwpiau eraill o bobl. Anogodd Natsïaid ddinasyddion cyffredin i sarhau’r bobl Iddewig. Roedd hi’n iawn eu cam-drin nhw, a phoeri arnyn nhw yn y stryd. Roedd bywyd yn mynd o ddrwg i waeth i deulu Dobschiner , nes iddyn nhw benderfynu symud i’r Iseldiroedd, i Amsterdam, lle byddai hi’n fwy diogel.
Ac felly y bu hi am nifer o flynyddoedd. Ond yn ystod y rhyfel, goresgynnodd y Natsïaid yr holl dir at Fôr Udd, yn cynnwys yr Iseldiroedd ac Amsterdam.
Y peth cynaf a ddigwyddodd oedd bod yn rhaid i bob Iddew wisgo llun seren Dafydd mewn melyn ar eu dillad allanol. Gan hynny, gallai pobl weld pwy yn union oedd yn Iddewon. Ac unwaith eto, roedd pobl yn cam-drin yr Iddewon.
Un diwrnod, aeth Hansie a’i theulu am dro. Roedd camlesi yn nodwedd amlwg ar yr ardal lle roedden nhw'n byw. Mae Amsterdam yn ddinas hyfryd, ac mae nifer o gamlesi yng nghanol y ddinas, gyda phontydd drostyn nhw i gysylltu’r tir. Pan aethon nhw adref y diwrnod hwnnw, roedd y pontydd yn eu hardal wedi cau. Roedd yr holl ddynion ifanc a bechgyn hyn wedi cael eu casglu gan y milwyr Natsïaidd, a’u llwytho ar dryciau a oedd yn mynd i’r orsaf. Roedd brodyr Hansie yn eu mysg. Dyna’r tro olaf iddi hi eu gweld nhw.
Fe aethon nhw adref a cheisio parhau â’u bywydau. Ond bob nos, roedden nhw’n clywed rhai’n curo ar ddrysau’r tai yn y stryd. Aeth milwyr â theuluoedd cyfan i ffwrdd, a ddaethon nhw ddim yn ôl. Fe ddiflannodd pobl eraill, a doedd neb yn gwybod i ble’r oedden nhw wedi mynd.
Un noson, curodd y milwyr ar ddrws eu ty nhw. Fe gawson nhw ychydig o funudau i gasglu beth oedden nhw ei eisiau i fynd gyda nhw, ac aethpwyd â nhw i lawr i’r orsaf, ac i mewn i’r tryciau gwartheg a oedd yn aros.
Doedd Hansie ddim wedi bod yn teimlo’n dda y diwrnod hwnnw, a phan aethon nhw i mewn i’r tryc, roedd yn rhaid iddi hi eistedd. Edrychodd un o’r milwyr arni, a phenderfynodd fod y dwymyn goch arni - salwch rydych chi i gyd yma wedi cael eich brechu yn ei erbyn, ond mae’n afiechyd heintus iawn. Felly, trowyd Hansie allan o’r tryc ac fe’i hanfonwyd adref, gan adael gweddill ei theulu yn y tryc gwartheg. Dyna’r tro olaf iddi hi ei gweld nhw.
Cymerodd teulu arall hi i’w cartref, a gofalu amdani. Ymhen tipyn, dechreuodd Hansie weithio fel nyrs. Un diwrnod, yn ystod egwyl, daeth nyrs arall ati. ‘Mi fedra i drefnu ffordd i ti ddianc,’ meddai. ‘Tyrd i’m cyfarfod heno yn yr orsaf.’
Doedd Hansie ddim yn gwybod beth i’w wneud - roedd hi’n siwr mai trap gan y Natsïaid oedd hyn, ond yn y diwedd penderfynodd fynd.
Yn yr orsaf roedd nyrs arall, gyda phapurau adnabod er mwyn iddyn nhw allu teithio. Fe aethon nhw ar drên, ac yn ddiweddarach fe ddaethon nhw oddi ar y trên mewn pentref bychan. Roedd beiciau wedi cael eu gadael ar eu cyfer, ac fe aethon nhw ar hyd y gamlas. Yna, fe wnaethon nhw gerdded, gan gyrraedd ty ymhell o bobman yng nghanol y nos.
Eglurwyd wrth Hansie y byddai hi, ac eraill, yn byw yn atig y ty. Ond, er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw un yn dyfalu bod y teulu hwn yn cuddio Iddewon, roedd yn rhaid iddyn nhw fod yn llonydd ac yn dawel yn ystod y dydd. Dim siarad, na dim gwneud unrhyw beth a allai roi arwydd i unrhyw un eu bod nhw yno.
A dyna wnaethon nhw. Nid oedd unrhyw beth arall i’w wneud heblaw darllen, felly fe ddarllenodd Hansie. Un o’r llyfrau a ddarllenodd oedd Beibl Cristnogol, a oedd yn cynnwys y storïau am Iesu. Fel Iddew, doedd hi erioed wedi clywed y storïau hyn o’r blaen, ond dros amser fe ddaeth hi’n Gristion. Darganfu fod y bobl oedd yn ei chuddio hi hefyd yn Gristnogion – roedd y dyn yn weinidog.
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, daeth y rhyfel i ben. Roedd Hansie a’i ffrindiau yn gallu dod o’u cuddfan a mynd yn ôl i fyw gyda phobl eraill. Ar ôl ymchwilio, deallodd bod ei theulu i gyd - pob un ohonyn nhw ‘ wedi marw yng ngwersyll crynhoi Ravensbruck. Priododd, a daeth i Glasgow a byw bywyd digon arferol. Bu farw ychydig o flynyddoedd yn ôl. Yr etifeddiaeth a adawodd oedd llyfr yn dwyn y teitl Selected to Live. Mae’r llyfr ar gael o hyd, fel y gallwch chwithau ddarllen ei stori ryfeddol.
Amser i feddwl
Bu farw chwe miliwn o bobl, a theulu Hansie yn eu mysg, yn yr Holocost. Chwe miliwn o bobl; nid Iddewon i gyd. Roedd rhai ohonyn nhw’n sipsiwn Romani, ac eraill yn hoywon. Pobl eraill yr oedd y Natsïaid eisiau cael gwared ohonyn nhw.
Os na allwch chi ddirnad y ffigwr o chwe miliwn, meddyliwch am 9/11, a’r Ddau Dwr yn cael eu dinistrio yn Efrog Newydd. Ar y diwrnod hwnnw, bu farw 3,000 o bobl. Yn ystod yr Holocost, roedd fel petai 9/11 wedi digwydd bob diwrnod am bum mlynedd a hanner. (Saib)
Ac mae hyn yn parhau i ddigwydd. Ar y newyddion bore heddiw, clywais am wahaniaethu, a rhagfarn rhwng pobl yn peri marwolaeth. (Fe allech chi roi enghraifft.)
Mae dynion a merched ifanc wedi cael eu llofruddio oherwydd eu bod nhw’n perthyn i gang a oedd ar waith yn yr ardal ‘anghywir’. Mae rhai cefnogwyr pêl-droed yn ymosod ar gefnogwyr eraill. Yn Affrica, Asia, yma ym Mhrydain Fawr, yn Iwerddon. Oherwydd eich bod chi’n fachgen, oherwydd eich bod chi’n ferch, oherwydd eich bod chi’n perthyn i’r naill grwp crefyddol neu’r llall ….
Yr unig ffordd y gall hyn ddod i ben yw pan fydd pawb ohonom yn gwneud safiad ac yn gofyn: ‘Pam wyt ti’n ymddwyn felly?’ Petai pawb ohonom yn ddigon dewr i wneud safiad yn erbyn y math hwn o ragfarn, yna fe allwn ni rwystro holocost arall.
Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r geiriau hyn fel gweddi:
Chwe miliwn, am fod cyn lleied wedi cwestiynu beth oedd yn digwydd.
Chwe miliwn o bobl yn marw oherwydd casineb.
Chwe miliwn.
Helpa fi i ddweud ‘Na’.
Helpa fi i wneud safiad dros y lleiafrif, yn erbyn y dyrfa, er gwaetha’r gost.
Helpa fi i ddweud ‘Dim mwy o holocost’.
Amen.