Calon Ddiragfarn
Ystyried ein rhagfarnau ein hunain, a phenderfynu ceisio gweithredu ar sail rhagfarn.
gan Ronni Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried ein rhagfarnau ein hunain, a phenderfynu ceisio gweithredu ar sail rhagfarn.
Paratoad a Deunyddiau
- Nid oes yn rhaid paratoi, ond fe allech chi ddangos posteri’r gwahanol ffilmiau rydych chi’n eu crybwyll. Mae lluniau o’r ffilm Babe ar gael yn: http://www.imdb.com/title/tt0112431/
Gwasanaeth
- Beth yw eich hoff ffilm? Meddyliwch am hynny am funud neu ddau, ac yna fe dderbyniaf enw ambell un o’ch ffefrynnau. Cofiwch barchu dewis pawb – mae ffilmiau yn bethau personol iawn!
(Derbyniwch nifer o atebion – gyda lwc, fe fydd digon o amrywiaeth.) - Fe hoffwn rannu rhai o fy ffefrynnau i gyda chi, a nodi’r rheswm pam rydw i’n eu mwynhau nhw.
(Nodwch enwau rhai o’r ffilmiau a’r rheswm pam rydych chi’n eu mwynhau nhw. Byddai fy rhestr i yn cynnwys: 21 Grams, One Flew Over the Cuckoo’s Nest, Ghostbusters, Wall-e, Before Sunrise, Lost in Translation, It’s a Wonderful Life, Some Like It Hot a Singing in the Rain.) - Ond y ffilm rydw i eisiau siarad amdani heddiw yw ffilm i blant a ddangoswyd gyntaf yn 1995, y byddwch chi o bosibl wedi ei gweld pan oeddech chi lawer iawn yn iau: ei henw yw Babe ac mae’n seiliedig ar lyfr o’r enw The Sheep-Pig gan Dick King-Smith.
Mae Babe yn fochyn bychan sy’n cael ei faethu ar y buarth gan gi defaid. Nid ydym yn cael gwybod pam nad yw gyda’i deulu, ac eithrio’r ffaith bod y ffermwr yn mynd i’w besgi ar gyfer ei ginio Nadolig. Mae Babe y mochyn yn dechrau gwylio ei frodyr a’i chwiorydd maeth o blith y cwn defaid yn cael eu dysgu sut i ddidoli defaid, ac mae’n rhoi cynnig arni ei hun. Ond yn hytrach na didoli trwy weiddi ar y defaid a’u galw nhw’n bethau gwirion, mae’n gofyn yn gwrtais iddyn nhw a fydden nhw’n meindio mynd un ffordd, neu wneud rhywbeth penodol. Mae’r defaid yn cael eu swyno ac yn ufuddhau. A dyna’r cyfan o’r stori rydw i’n mynd i’w ddweud wrthych chi – fe fydd yn rhaid i chi wylio’r ffilm i gael y gweddill! - Roedd y ffilm yn torri tir newydd ar y pryd, gan ei bod yn defnyddio CGI ac animatroneg mewn ffordd newydd, nad oedd wedi cael ei weld cyn hynny. Mae’r dechnoleg bron yn hen ffasiwn erbyn hyn, ond cafodd y ffilm lawer iawn o sylw a bu nifer fawr o bobl yn ei gweld oherwydd y technegau newydd, a hefyd oherwydd cyfaredd y stori.
- Ond pam fy mod i’n sôn am hyn heddiw? Gan mai llinell gyntaf y ffilm yw: ‘Dyma stori’r galon ddiragfarn.’ (This is the tale of an unprejudiced heart.)
Fe wnaf i ailadrodd y frawddeg: ‘Dyma stori’r galon ddiragfarn.’
Ydych chi wedi cyfarfod rhywun ryw dro y gallech chi ddweud hynny amdanyn nhw? Rhywun sy’n meddu ar galon ddiragfarn? - Mae’r rhinwedd honno yn Babe, sef meddu ar galon ddiragfarn, yn rhan allweddol o’i lwyddiant ar ddiwedd y stori: gan nad oes ganddo ragfarn tuag at y defaid, mae’n llwyddo i'w cael nhw o'i blaid. Ac yna maen nhw’n anghofio am eu rhagfarn tuag at gwn defaid, anifeiliaid y mae’r defaid yn eu hystyried yn fwlis digywilydd.
Fe allwch chi weld beth sydd gen i dan sylw. Rydw i’n gwybod bod gen i ychydig o ragfarn yn fy nghalon, a dydw i ddim yn falch o hynny. Ond mae hynny’n wir am y rhan fwyaf ohonom, er nad ydym yn ymwybodol o hynny fel arfer. Mae’r rhagfarn honno’n effeithio ar y ffordd rydym yn ymwneud â phobl eraill, ac yn aml nid ydym yn ymwybodol o gwbl o’r hyn sy’n digwydd. - Sut beth fyddai'r ysgol hon, a’ch cartrefi a’ch cymdogaethau, petaem ni i gyd yn penderfynu peidio gweithredu yn unol â’n rhagfarnau? Beth petaem ni’n cwestiynu arferion ymddygiad a fu gennym erioed ac arferion rydym bob amser wedi gweithredu arnyn nhw? Wn i ddim beth yw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw, ac eithrio fy mod i’n siwr y byddai hynny’n well i bawb ohonom.
Mae hi’n dymor newydd, yn flwyddyn newydd. Gadewch i bawb ohonom geisio bod yn ddiragfarn yn ein calonnau.
Amser i feddwl
Mewn ennyd dawel, meddyliwch am y bobl sydd, yn eich golwg chi, yn anodd gwneud â nhw, y bobl nad ydych chi’n eu hoffi, o bosibl.
Ydych chi erioed wedi oedi i gwestiynu pam eich bod yn dal yr agweddau hynny tuag atyn nhw?
Ai'r rheswm yw bod gennych chi ychydig o ragfarn yn eich calon?
Gweddi
Gad i mi fod yn un sydd â chalon ddiragfarn.
Waeth pa mor anodd fydd hynny i mi,
Waeth faint o amser y bydd hynny’n ei gymryd.
Boed i mi feddu ar galon ddiragfarn.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2009 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.