Gwerth Ymprydio
Archwilio cysyniad ymprydio.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio cysyniad ymprydio.
Gwasanaeth
- Mae cyfnod Garawys y Cristnogion yn dechrau ar Ddydd Mercher y Lludw. Mae hwn yn gyfnod 40-diwrnod (ac eithrio’r chwe Sul) o fyfyrio ac ymprydio. Mae’r cyfnod yn cynrychioli’r cyfnod a dreuliodd Iesu yn yr anialwch, pan gafodd ei demtio gan y diafol, ac y llwyddodd i wrthsefyll y demtasiwn. Mae Cristnogion yn ceisio dangos eu bod yn cefnogi’r ddelfryd hon, ac yn cyd sefyll â hi, drwy roi’r gorau i wneud rhai pethau penodol.
- Nid oes dyddiad penodol ar gyfer Ddydd Mercher y Lludw, gan fod dyddiad Sul y Pasg, sydd â chysylltiad uniongyrchol â'r Garawys, yn newid bob blwyddyn. Ar y diwrnod cyn hynny, mae’n draddodiad y dylai’r rhai sydd ar fin dechrau ymprydio ddefnyddio’r bwydydd moethus sydd ganddyn nhw ar ôl, fel wyau, menyn a siwgr, i wneud crempogau. Mae’r arfer hwn yn parhau hyd heddiw, ond ar ffurf fwy secwlar.
- Os mai dim ond gwerth seremonïol sy’n perthyn i ymprydio, pam fod pobl yn ei wneud? Mae’r effeithiau uniongyrchol yn amlwg: mae rhywun yn arbed arian ac yn bwyta’n iachach. Mewn gwirionedd, mae ein cymdeithas yn annog hyn: cymerwch olwg mewn siopau llyfrau am lyfrau ar ddadwenwyno, diet ac iechyd. Mae nifer o bobl yn dechrau’r ‘ymprydiau’ hyn am resymau syml, fel colli pwysau. Ond mae rhywun yn profi effaith arall, yn aml: gwelliant yn eu lles meddyliol.
- Mae Cristnogion sy’n ymprydio yn ystod y Garawys yn aml yn profi rhywbeth tebyg i hyn. Mae modd llawenhau wrth reoli eich hunan ac wrth ymwrthod â phleserau corfforol y tymor byr sy’n cael effeithiau gwael yn y tymor hir. I Gristnogion, mae ymprydio yn ystod y Garawys yn dadwenwyno’r enaid: gwrthod temtasiwn er mwyn cadw at yr hyn sydd wirioneddol yn bwysig i Gristion: cyfeillgarwch ag eraill, a bod yn agos at Dduw.
- Wrth gwrs, dim ond un rhan o ympryd llwyddiannus yw rhoi’r gorau i fwyd: fe ddylech chi hefyd ymddwyn fel y byddech chi’n disgwyl i rywun da ymddwyn. Y Proffwyd Muhammad a grynhodd hyn orau, gan ddangos pwysigrwydd ymprydio mewn crefyddau eraill. Dyma aralleiriad o’r hyn a ddywedodd:
‘Os nad ydych yn rhoi’r gorau i ddweud celwyddau, ni fydd Duw yn cael budd ohonoch chi’n rhoi’r gorau i fwyd a diod. Mae cymaint o bobl yn ymprydio drwy’r dydd ac yn gweddïo drwy’r nos, ond y cyfan maen nhw’n ei gael yw newyn a diffyg cwsg.’ - Mae’n rhaid bod yn gymedrol wrth ymprydio: ni ddaw budd o wneud dim ond llwgu. Mae Mwslimiaid yn ymprydio yn gyfan gwbl yn ystod oriau golau dydd yn ystod mis Ramadan. Mae prydau’n cael eu bwyta cyn iddi wawrio ac ar ôl iddi fachlud. Er bod y cyfnod ymprydio yn angenrheidiol, mae hyn yn dangos fod ymprydio’n gweithio’n well pan geir cyfnod o ysbaid, er mwyn rhoi cyfle i werthfawrogi’n llawn beth y rhoddwyd gorau iddo.
- A beth amdanoch chi? Ydych chi’n ymprydio? Oes manteision yn dod yn ei sgil, hyd yn oed os nad oes gennych chi ffydd, neu ddim ond ychydig o ffydd. Felly beth am ymprydio yn ystod y Garawys hwn? Rhoi’r gorau i fwyta siocled, efallai? Rhy anodd? Peth am ddewis rhywbeth y gallwch chi roi’r gorau iddo’n llwyddiannus: creision, efallai, a rhoi’r arian y byddech chi wedi ei wario at elusen?
Neu, efallai roi cynnig ar rywbeth newydd, fel eich bod chi’n rhoi rhywfaint o’ch amser. Neu, beth am benderfynu bod yn fwy hwyliog ben bore yn eich cartref? Tacluso eich ystafell heb i rywun orfod dweud? Neu hyd yn oed olchi’r llestri, neu eu rhoi yn y peiriant golchi llestri? Nawr, dyna her i chi!
Amser i feddwl
Bwyd,
Rwyf wrth fy modd yn ei fwyta.
Rhoi’r gorau i fwyta rhai pethau am 40 diwrnod?
Rydych chi’n tynnu fy nghoes i.
Amser,
Mae gen i gymaint ohono,
Eto i gyd, wn i ddim i ble’r aeth o.
Rhoi o’m hamser ar gyfer rhywun arall?
Rhoi’r gorau i fwyta rhai pethau er mwyn helpu pobl eraill?
Mae hynny’n anodd.
Gwneud rhywbeth gartref?
Mae hynny’n anodd.
gwneud y byd yn lle gwell?
Dyna i chi beth ydi her.
Gweddi
Gwna fy ngweithredoedd da fel crychdonnau ar lyn.
Boed iddyn nhw ledaenu nes eu bod nhw’n cyrraedd mwy a mwy o bobl,
Fel, yn araf bach,
y bydd y byd yn dod yn lle gwell.
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2009 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.