Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae'r Gwanwyn Wedi Dod

Meddwl am wanwyn ein bywydau.

gan Helen Levesley

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Meddwl am wanwyn ein bywydau.

Gwasanaeth

  1. Yn ôl seryddiaeth, mae’r gwanwyn yn dechrau pan fydd y flwyddyn wedi cyrraedd y pwynt y mae pobl yn ei alw’n gyhydnos y gwanwyn (vernal equinox),  sef 21 Mawrth. Ond yn achos y rhan fwyaf ohonom mae dechrau’r gwanwyn yn ymwneud â’r hyn rydyn ni’n gallu ei weld. 

    Meddyliwch am foment, sut rydyn ni’n gwybod pan fydd y gwanwyn ar ei ffordd? Ai gweld y blagur ar y coed, yr wyn bach yn y caeau, cywion hwyaid neu anifeiliaid bach eraill newydd eu geni, y cennin Pedr neu flodau cynnar eraill yn ymwthio trwy’r pridd o’r ddaear oer, neu flodau gwyn a phinc ar frigau’r coed?

    Beth bynnag, mae’r gwanwyn yn ymwneud â dechrau newydd. Y gwanwyn yw’r tymor pan fydd pethau’n dechrau o’r newydd. Y tymor cyntaf mewn cylch blwyddyn newydd arall.

  2. Fe hoffwn i chi ddychmygu am foment, os gallwch chi, eich bod chi’n fwlb yn y ddaear, lle mae’n hollol dywyll – does dim golau yno o gwbl. Y cyfan wyddoch chi yw eich bod yn tyfu ac yn ymestyn allan ac i fyny. Ar ôl beth sy’n ymddangos yn amser hir iawn, mae’r pridd rydych chi’n gwthio yn ei erbyn yn rhoi. Er mor fach, mae’r eginyn ifanc yn ymwthio o’r ddaear sydd wedi bod yn galed iawn am amser hir. Rydych chi’n gweld golau’r haul ac yn teimlo’r cynhesrwydd.

  3. Rhaid bod hynny’n deimlad braf! Cael mynd o fod yn teimlo’n gaeth i fod yn rhydd i symud yn yr awyr agored. Gallwch ddefnyddio’r syniad yma mewn sawl cyd-destun, yn cynnwys disgrifio’r ffordd y daethom i gyd i’r byd. Mae genedigaeth bod dynol yn debyg iawn, tyfu a datblygu mewn lle cyfyng, ac yna dod allan i’r byd mawr.

  4. Fel y dywedais, mae’r gwanwyn yn ymwneud â dechrau newydd. Ar ôl tywyllwch ac oerni’r gaeaf, rydym yn dechrau ar dymor sydd â’i ddyddiau’n hirach ac yn gynhesach, dyddiau sy’n oleuach yn y bore a chyda’r nos. Mae popeth o’n cwmpas yn brafiach. Mae’r anifeiliaid sy’n cysgu dros y gaeaf fel pe bydden nhw wedi’i gweld hi - mae’r syniad gorau ganddyn nhw, maen nhw’n cysgu yn ystod misoedd oer y gaeaf ac yn deffro mewn pryd i’r dyddiau cynhesach.

  5. Mae rhai pobl yn cael eu heffeithio gan y dyddiau byr a’r diffyg golau haul yn ystod misoedd y gaeaf, ac yn dioddef cyflwr o’r enw Seasonal Affective Disorder (SAD). Gobeithio y bydd y bobl hynny’n teimlo’n well gyda dyfodiad y gwanwyn. Hyd yn oed os nad ydych chi’n un sy’n dioddef fel hyn, fe fyddwch chi’n gwybod sut fath o deimlad yw teimlo’r awel dyner neu weld blodau’r gwanwyn ar ôl cyfnod mor hir pan oedd popeth yn edrych hyn llwydaidd.

  6. Mae’r gwanwyn yn adeg o dyfu a newid hefyd. Mae’r gaeaf yn gallu bod yn amser o fyfyrio a meddwl amdanoch eich hun ac am eich bywyd, ac am newid efallai. Sut mae pethau wedi newid yn eich bywyd chi? Allwch chi weithredu ar y pethau hynny? Sut beth fydd eich gwanwyn chi? Fyddwch chi’n dal i grwydro ymlaen yn yr un ffordd, neu a fyddwch chi fel blodau’r gwanwyn yn hapus ynghylch y newidiadau sydd i ddod, ac yn eu cofleidio ac yn chwifio yn awel dyner y gwanwyn?

  7. Mae’r gwanwyn yn rhywbeth i fod yn hapus yn ei gylch, hyd yn oed os byddwch chi ddim ond yn cydnabod bod y gaeaf rydyn ni wedi ei gael eleni wedi bod yn un o’r rhai oeraf ers rhai blynyddoedd. Gallwn ddechrau edrych ymlaen at y tymor a fydd yn dilyn, sef yr haf. Ond peidiwch ag anghofio am y gwanwyn; edrychwch o’ch cwmpas ar fyd natur, gan werthfawrogi fel mae popeth yn adfywio, a sylweddoli y gall cynnwrf y gweithgaredd fod yr un mor gyffrous i chithau hefyd.

Amser i feddwl

Arwyddion o fywyd
Cyrraedd dechreuadau newydd
Newidiadau mewnol ac allanol
Newydd a chyffrous
Adegau da o’n blaenau, i bawb ohonom.

Cerddoriaeth

 ‘Spring’ o gerddoriaeth y ‘Four Seasons’ gan Vivaldi

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon