Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mordeithiau O Ddarganfyddiadau - Charles Darwin a’r Beagle

Nodi dau ganmlwyddiant geni Charles Darwin, ac annog pwerau arsylliadau gwyddonol.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Nodi dau ganmlwyddiant geni Charles Darwin, ac annog pwerau arsylliadau gwyddonol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen papur £10 (sydd â llun Charles Darwin arno). Nodwch fod rhaid i chi gael caniatâd gan Fanc Lloegr (Bank of England) i atgynhyrchu’r dyluniad ar gyfer ei roi ar OHP (www.bankofengland.co.uk/banknotes/reproappform.asp).

  • Glôb, chwyddwydr, ffosil, planhigyn, pensil a llyfr nodiadau, wedi’u gosod ar fwrdd. Bydd y rhain yn gyfrwng i’ch helpu chi adrodd hanes Charles Darwin.

  • Fe welwch ar wefan amgueddfa’r Natural History Museum gyflwyniad ardderchog ar lwybr taith y llong y teithiodd Charles Darwin arni, sef y Beagle (http://www.nhm.ac.uk/nature-online/science-of-natural-history/expeditions-collecting/beagle-voyage/)

  • Byddwch yn barod i egluro rhai o’r termau sy’n cael eu defnyddio yn y gwasanaeth yma.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y thema - arsylwi - trwy roi her i’r rhai sydd yn y gwasanaeth ddisgrifio lliwiau a dyluniad papur £10. Pwysleisiwch y ffaith ein bod yn aml yn cymryd pethau cyfarwydd yn ganiataol. Rhowch her i bob un fod yn fwy sylwgar.

  2. Dangoswch y papur £10, a chyflwynwch y llun o Charles Darwin. Roedd Charles Darwin yn byw rhwng 1809 a 1882. Eleni, rydym yn dathlu daucanmlwyddiant ei eni, ac i nodi’r dathliad fe fydd arddangosfeydd arbennig yn cael eu trefnu, llyfrau’n cael eu cyhoeddi, a rhaglenni teledu arbennig yn cael eu darlledu. 

    Naturiaethwr oedd Darwin. Fe’i gwahoddwyd i fynd ar daith yn hemisffer y de, yng nghwmni rhai eraill, fel yntau, oedd â diddordeb mewn mynd i archwilio’r byd, ar long o’r enw HMS Beagle. Llong fechan oedd hon, yn cario 66 o deithwyr, ei hyd oedd 27.5m ac roedd yn 7.5m o led. Parhaodd eu taith am bum mlynedd, ac fe wnaethon nhw deithio 40,000 o filltiroedd! Dyna beth oedd antur! Mae llun llong debyg i’r HMS Beagle hefyd ar y papur £10.

  3. Gan ddefnyddio’r glôb (neu’r cyflwyniad oddi ar wefan y National History Museum), dangoswch sut y teithiodd y Beagle hemisffer y de er mwyn i’w chriw archwilio’r gwahanol wledydd. Fe wnaethon nhw ymweld â De America, De Affrica ac Awstralia, a llawer iawn o ynysoedd anghysbell, fel ynysoedd y Galapagos. Yn ystod y daith, fe welodd Charles Darwin olygfeydd rhyfeddol, ac anifeiliaid ac adar o bob math yng ngwahanol rannau’r ddaear. Yn aml, fe fyddai’r fforwyr hyn yn glanio ar yr ynysoedd neu’r cyfandiroedd, ac yn teithio cannoedd o filltiroedd i mewn i’r tir. 

    Cyfeiriwch at y chwyddwydr, y ffosil a’r llyfr nodiadau. Gwelodd Darwin blanhigion a chreaduriaid rhyfeddol, a thynnodd luniau manwl ohonyn nhw ac ysgrifennu amdanyn nhw yn ei lyfrau nodiadau. Casglodd filoedd o sbesimenau o bryfed, adar a phlanhigion. Roedd yno ffosiliau hefyd, oedd yn ei helpu i ddysgu am greaduriaid a oedd wedi byw filiynau o flynyddoedd yn ôl. Ar ynysoedd y Galapagos, fe fu Charles Darwin yn marchogaeth ar gefn crwbanod mawr, sef y ‘giant tortoises’, ac fe ddaeth o hyd i fadfallod igwana a oedd yn edrych fel dreigiau bach. 

  4. Tybed sut deimlad oedd darganfod ffosiliau a chreaduriaid mor rhyfeddol? Pa greaduriaid sy’n cyfareddu’r plant, a pham? Treuliwch foment yn meddwl am rai o’r nodweddion sy’n cael eu disgrifio. Mae lliw rhai anifeiliaid yn guddliw i’w gwneud yn anodd eu gweld. Mae cynffon gan rai eraill sydd wedi datblygu fel ei bod yn gallu gafael a helpu’r creaduriaid i ddringo, crafangau cryf a dannedd cryf i ddal eu hysglyfaeth gan rai eraill, neu lygaid craff i weld yn dda. Defnyddiwch enghreifftiau y mae’r myfyrwyr yn eu hawgrymu i gyferbynnu gwahanol greaduriaid – anifeiliaid sy’n byw yn ein hoes ni a rhai sydd wedi diflannu o’r tir. Pwy fyddai wedi hoffi bod gyda Charles Darwin ar ei deithiau?

  5. Oedwch i herio gallu’r plant i sylwi. Ydyn nhw’n gallu enwi’r aderyn sydd i’w weld yn y llun ar y papur £10? Ydyn nhw’n gallu dod o hyd i lun y ffosiliau? (Aderyn y si, gwyrdd a choch, yw’r aderyn, ac mae’r ffosiliau  amonit i’w gweld ar waelod y patrwm diogelwch i’r chwith o lun pen y Frenhines.)

  6. Ar ôl ei deithiau, treuliodd Charles Darwin nifer o flynyddoedd yn meddwl yn galed am yr holl bethau a welodd. Roedd yn meddwl tybed sut y daeth cymaint o wahanol rywogaethau o blanhigion a chreaduriaid i fod. Yn y pen draw, fe ddaeth i’r casgliad fod bywyd wedi datblygu’n raddol mewn proses o’r enw ‘esblygiad’. Mae’r holl wahanol blanhigion a chreaduriaid sy’n byw ar y ddaear (heb anghofio bodau dynol!) wedi cael eu ffurfio trwy ymdrech i oroesi, a hynny wedi parhau am gannoedd o filiynau o flynyddoedd. Fe ysgrifennodd Darwin ei syniadau am hyn yn ei lyfr The Origin of Species. Fe helpodd hwnnw bobl i weld eu hunain a’r byd mewn ffordd newydd.

  7. Dewch i ddiwedd y gwasanaeth trwy feddwl am y ffaith bod gwyddonwyr, 200 mlynedd ar ôl geni Charles Darwin, yn parhau i archwilio’r byd rydyn  ni’n byw ynddo. Heddiw, fe allwn ni ddysgu am eu darganfyddiadau cyffrous trwy raglenni teledu neu ar y rhyngrwyd, yn ogystal ag mewn llyfrau. Mae dathliadau daucanmlwyddiant, a’r papur £10, yn ein hatgoffa am bwysigrwydd  gwyddoniaeth. 

    Does dim rhaid i ni fynd ar deithiau pell dros y môr! Ble bynnag yr ydym ni, mae pethau i’w darganfod, os gwnawn ni, fel Darwin, arsylwi’n fanwl a meddwl am yr hyn rydyn ni’n ei weld.

Amser i feddwl

Dduw’r Creawdwr, 
Diolch i ti am y cyffro sydd ynghlwm ag archwilio a darganfod, 
am syniadau a meddyliau newydd, 
ac am wyddoniaeth, sy’n ein helpu ni i ddeall dy fyd.

Cerddoriaeth

Fe allech chi chwarae cerddoriaeth Beethoven, Pastoral Symphony, wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon