Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llawenydd Bywyd Teuluol

Ystyried beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o deulu a sut i gefnogi’r rhai hynny sydd ag anawsterau gartref.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o deulu a sut i gefnogi’r rhai hynny sydd ag anawsterau gartref.

Gwasanaeth

  1. Pan fyddwch chi’n clywed yr ymadrodd ‘ llawenydd bywyd teuluol’ neu ‘the joys of family life’, fydd hynny’n gwneud i chi wenu neu wingo? Efallai y bydd yn gwneud i chi deimlo’n ddig neu’n drist. Fydd clywed yr ymadrodd yn gwneud i chi deimlo fel diolch i’ch rhieni neu fel eu tagu? 

    Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â’r ddelwedd o’r teulu perffaith - priodas hapus, dau blentyn (un bachgen ac un ferch, wrth gwrs), cartref delfrydol … 

    Ond, mae’r gwirionedd yn aml, neu fel arfer hyd yn oed, yn wahanol iawn. Mae rhai ohonom yn gorfod byw â realiti ymgiprys rhwng brodyr a chwiorydd, tor-priodas a disgwyliadau afresymol gan rieni. Mae rhai ohonom yn gorfod byw â chanlyniadau gwaeledd, pwysau emosiynol a gofidiau yn ymwneud ag arian. Mae rhai ohonom yn byw ar wahân i’r teulu y ganwyd ni iddo.

  2. Yn ddiweddar, holwyd yr arweinydd crefyddol Iddewig, Rabbi Lionel Blue, am ei fywyd teuluol cynnar. Bydd llais Lionel Blue i’w glywed yn aml ar y rhaglen Thought for the Day ar Radio 4, ond yn ei gyfweliad  ar dudalennau’r papur newydd The Guardian, ar 10 Ionawr 2009, fe wnaeth sylwadau treiddgar a oedd yn gwneud i rywun feddwl yn ddwys. Efallai y bydd ei sylwadau’n gallu ein helpu ninnau wrth i ni ystyried bywyd teuluol yn yr oes sydd ohoni, heddiw.

    Cofiai Lionel Blue fel y byddai ei rieni’n dadlau o hyd pan oedd ef yn fachgen. Fe fyddai’n aml yn gorfod ymddwyn fel canolwr. Yn nhrefn naturiol bywyd, y rhieni fydd yn gofalu am eu plant. Ond weithiau, fe fydd pethau’n wahanol. Teimlai Lionel Blue mai ef oedd yn chwarae rôl y rhiant, a’i dad a’i fam oedd y plant.

    Mae llawer o blant yn cymryd rôl y gofalwr yn y cartref - yn gofalu am eu rhieni, efallai, neu am eu brodyr neu eu chwiorydd. Efallai y bydd hyn yn digwydd oherwydd bod y rhieni’n ymddwyn yn afresymol. Neu, efallai bod mam yn rhy wael i ofalu am ei phlant. Gall rhieni fod allan yn gweithio oriau anghymdeithasol, ac yn methu bod gartref i ofalu am eu plant.

    Gadewch i ni gofio am y plant hynny heddiw.

  3. Un diwrnod wedi i Lionel Blue dyfu’n oedolyn, fe ddywedodd ei fam wrtho: ‘Lionel, paid byth â chael plant, cariad. Maen nhw’n gallu peri cymaint o boen i ti, a does gen i ddim eisiau i ti ddioddef fel gwnes i.’ Wel, dyna beth i’w ddweud wrth eich plentyn eich hun!

    Hyd yn oed heddiw, mae rhai pobl yn gweld plant fel baich. Mae’n costio cymaint o arian i’w magu! Maen nhw’n gallu gwneud cymaint o lanast! Maen nhw’n gallu achosi pryder a gofid. Mae rhieni rhai plant yn gwneud iddyn nhw deimlo y byddai’n well gan eu rhieni fod hebddyn nhw. 

    Gadewch i ni gofio am y plant hynny heddiw.

  4. Pan ddywedodd Lionel Blue wrth ei rieni ei fod â’i fryd ar fod yn rabi, roedd y ddau yn siomedig. Roedd ei dad yn awyddus iddo fod yn athletwr neu’n focsiwr, tebyg iddo ef. Roedd ei fam yn awyddus iddo fod yn un fyddai’n datblygu eiddo, fel y gallai ennill arian da a gwaredu’r teulu o dlodi.

    Yn aml, fe fydd rhieni’n awyddus i’w plant gyflawni’r hyn y gwnaethon nhw fethu ei gyflawni. Fe fyddan nhw’n rhoi pwysau ar eu plant i ddilyn llwybr gyrfa neilltuol. Maen nhw’n ei chael hi’n anodd gadael i’w plant ddilyn eu calon a’u meddyliau eu hunain. 

    Gadewch i ni gofio am y plant hynny heddiw.

  5. Wrth dyfu i fyny fel Iddew yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, fe etifeddodd Lionel Blue holl ofnau a phryderon ei rieni. Nid oedd yn disgwyl y byddai’n byw’n hir. Roedd wedi rhoi’r gorau i obeithio unrhyw beth ar gyfer ei ddyfodol.

    Ambell dro, fe all y byd ymddangos yn lle llawn dychryn i blant. Caiff y byd ei ddarlunio fel lle trist, llawn drygioni, lle mae pob math o demtasiynau a pheryglon. Gall plant ein hoes ni, heddiw, edrych ar yr argyfwng ariannol presennol, ac ar y dystiolaeth fod yr hinsawdd yn newid, a dyfalu beth sydd ar eu cyfer yn y dyfodol.

    Gadewch i ni gofio am y plant hynny heddiw.

Amser i feddwl

Nid yw’r Rabbi Lionel Blue yn teimlo ei fod yn gallu galw Duw yn ‘Dad’ neu ‘Fam’. Mae bob amser yn cyfeirio at Dduw fel ‘fy ffrind mewn mannau uchel’.

Gwrandewch ar eiriau’r weddi yma, a gwnewch nhw’n weddi i chi eich hunan, os hoffech chi.

Ein ffrind mewn mannau uchel,
rydyn ni’n diolch i ti am lawenydd bywyd teuluol.
Efallai nad oes llawer, ond mae gan y rhan fwyaf ohonom deulu,
ac weithiau fe fydd llawenydd.
Rydym yn cofio am y rhai hynny sy’n ofalwyr yn eu cartref eu hunain.
Helpa ni i’w cefnogi, a gofalu amdanyn nhw pan fyddwn ni’n gallu.
Rydym yn cofio am y rhai hynny sy’n teimlo eu bod yn faich ar eu rhieni.
Helpa ni i’w gwerthfawrogi, a mwynhau bywyd gyda nhw pan fyddwn ni’n gallu.
Rydym yn cofio am y rhai hynny sy’n teimlo dan bwysau gan eu rhieni i lwyddo.
Helpa ni i’w derbyn ac i ymlacio yn eu cwmni pan fyddwn ni’n gallu.

Rydym yn cofio am y rhai hynny sy’n pryderu am y dyfodol.

Helpa ni i dawelu eu meddwl ac i gael hwyl gyda nhw pan fyddwn ni’n gallu.

Rhai ohonom ni yw rhai o’r plant hynny.
Helpa ni i siarad â rhywun pan fydd angen cyngor arnom ni,
ac i ofyn am help os byddwn ni angen help.
Ein ffrind mewn mannau uchel,
dangos i ni ein ffrindiau mewn mannau o’n cwmpas o ddydd i ddydd.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon