Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Vaisakhi

Darganfod pwysigrwydd y Khalsa i Sikhiaid, a gweld pam eu bod yn dathlu diwrnod sefydlu’r Khalsa.

gan Helen Levesley

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Darganfod pwysigrwydd y Khalsa i Sikhiaid, a gweld pam eu bod yn dathlu diwrnod sefydlu’r Khalsa.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi ddefnyddio myfyrwyr i ailberfformio lluniau llonydd er mwyn darlunio’r stori os hoffech chi – mae’n gyfrwng da i ganolbwyntio arno. Hefyd, fe fydd arnoch chi angen dau lefarydd fydd yn gallu creu rhywfaint o awyrgylch yn eu darllen.

Gwasanaeth

  1. Fe hoffwn i chi feddwl am y cymunedau sydd gennym ni yn ein gwlad. Ond, yn gyntaf, gadewch i ni ddiffinio beth yw cymuned. Mae Geiriadur Caergrawnt yn diffinio’r gair community fel: ‘the people living in one particular area or people who are considered as a unit because of their common interests, background or nationality’ - sef y bobl sy’n  byw mewn un ardal neilltuol neu bobl sy’n cael eu hystyried yn uned oherwydd eu diddordeb cyffredin, eu cefndir neu eu cenedligrwydd.

  2. Mae’r ysgol hon yn gymuned. Rydyn ni’n uned o bobl sy’n rhannu diddordeb cyffredin. Sylwch ar y mathau o gymunedau sydd o’n cwmpas: pobl sy’n dod o’r un math o gefndiroedd; gall eich cymdogaethau lle rydych chi’n byw fod yn gymunedau; ac mae pobl sy’n dilyn yr un grefydd yn gymuned hefyd.

  3. Enghraifft ardderchog o gymuned grefyddol yw’r grefydd Sikh. Mae’r gymuned yn hanfodol i Sikhiaid sy’n digwydd byw mewn gwledydd eraill; maen nhw’n gwybod y bydd ganddyn nhw grwp o bobl yn ymyl y maen nhw ar unwaith yn gwybod y byddan nhw’n perthyn iddo. Dychmygwch mor braf yw gwybod, ble bynnag y byddwch chi yn y byd, y bydd rhywun y gallech chi ddod o hyd iddo ar unwaith a fyddai â rhywbeth yn gyffredin i chi ganddo. Dyna gysur fyddai gwybod hynny, yn enwedig pe byddech chi’n gweld nad yw pobl eraill, ar y cyfan, yn rhai croesawus iawn!

  4. Mae’r syniad o gymuned yn bwysig iawn i Sikhiaid, ac mae ganddyn nhw enw neilltuol am eu cymuned: y Khalsa. Fel gyda’r rhan fwyaf o hanes Sikhiaeth, mae stori’n gysylltiedig â sut y dechreuodd y Khalsa. Dyma’r stori: 

    Darllenydd 1:  Mae stori sefydlu’r Khalsa yn dechrau gyda merthyru’r Guru Teg Bahadur, y 9fed Guru, y torrwyd ei ben yn gyhoeddus gan lywodraethwyr y wlad ar y pryd, am warchod yr hawl i Sikhiaid ac i Hindwiaid addoli. 

    Darllenydd 2:  Daeth mab Guru Teg Bahadur, sef Guru Gobind Singh, yn Guru ar ei ôl. Fe ddatganodd Guru Gobind Singh y dylai pob Sikh fod yn barod i amddiffyn ei gred, waeth beth fyddai’r gost. Hyd yn oed os oedd hynny’n golygu colli eu bywyd! Wedi’r cyfan, roedd ei dad wedi rhoi ei fywyd ei hun er mwyn parhad eu crefydd.

    Darllenydd 1:  Yn 1699, daeth Sikhiaid o bob rhan o ardal y Punjab ynghyd, i ddathlu gwyl Hindwaidd o ddiolchgarwch am y cynhaeaf, sef gwyl Baisakhi. Mae ffermio’n agwedd bwysig iawn ar fywyd yn y Punjab, ac os yw’r cynhaeaf yn dda, fe fydd y ffermwyr yn gyfoethog.

    Darllenydd 2:  Rywbryd yn ystod yr wyl hon oedd hi, pan ddaeth Guru Gobind Singh allan o babell yn cario cleddyf. Cyhoeddodd, os oedd unrhyw un yn barod i roi ei fywyd dros ei ffydd, gofynnai iddo gamu ymlaen. Gallwch ddychmygu’r olygfa.

    Darllenydd 1:  Ymhen munud, fe ddaeth dyn ifanc Sikhaidd ymlaen. Diflannodd i mewn i’r babell gyda’r Guru. (Oedwch) Yna, fe ddaeth y Guru allan o’r babell ar ben ei hun, gyda’i gleddyf yn diferu o waed, a gofynnodd a oedd unrhyw un arall am wirfoddoli. 

    Darllenydd 2:  Digwyddodd hyn wedyn, bedair gwaith. Aeth pump o Sikhiaid i mewn i’r babell, a doedd dim un o’r pump wedi dod allan yn ei ôl gyda’r Guru. Roedd pawb oedd yno’n bryderus; roedden nhw’n tybio bod y Guru Gobind Singh wedi lladd y dynion.

    Darllenydd 1:  Yn sydyn, fe ddaeth y pump allan o’r babell yn holliach, gyda’r Guru Gobind Singh. Roedd pob un yn gwisgo twrban am ei ben. Galwyd y dynion yn Panj Piare, neu’r ‘Pump Annwyl’. Gweddïodd y Guru dros y pump, ac fe ysgeintiodd hylif arbennig o’r enw amrit drostyn nhw. Y pum Sikh yma oedd aelodau cyntaf y Khalsa. Dyma’r pump a fabwysiadodd y Pum K am y tro cyntaf. Y Pum K yw’r pum peth allweddol sy’n ymwneud â’u hymddangosiad ac sy’n parhau i gael eu hanrhydeddu gan Sikhiaid hyd heddiw, yn cynnwys gwisgo twrban a pheidio â thorri’r gwallt.

  5. Efallai ei bod hi’n anodd i ni ddeall y byddai pobl yn barod i farw er mwyn eu crefydd a’u cymuned, ond roedd y Sikhiaid yn credu mor gryf fel bod y pum dyn arbennig yma’n barod i wneud yr aberth mwyaf . Go brin y byddai neb sydd yma heddiw’n barod i fy nilyn i mewn i babell a bod yn barod i farw dros yr ysgol!! Dwylo i fyny os oes rhywun am wirfoddoli! Na? – ond mae hyn yn dangos pa mor arwyddocaol yw’r Khalsa a’r grefydd Sikhaidd i’w dilynwyr.

  6. Mae gwyl Vaisakhi yn dathlu’r ffaith bod Sikhiaid, 300 mlynedd yn ôl, wedi  derbyn unigolrwydd a hunaniaeth glir a chod ymddygiad i’w ddilyn. Pe byddech chi’n meddwl am ein cymuned ni fel ysgol, mae gennym ni hunaniaeth sy’n ein gwahaniaethu oddi wrth ysgolion eraill, a’n rheolau yw ein cod ymddygiad. Rydym yn falch o hynny, ac yn teimlo ein bod yn perthyn.

Amser i feddwl

Ledled y byd, ar adeg y Vaisakhi, fe fydd Sikhiaid yn myfyrio ar yr egwyddorion a ddysgwyd iddyn nhw gan eu Gurus, ac yn dathlu dechreuad y Khalsa. Maen nhw’n dathlu’r ffaith eu bod wedi eu ffurfio’n grwp unigol, ar wahân, a bod ganddyn nhw eu llwybr eu hunain i’w ddilyn - a’r llwybr hwnnw wedi’i osod gan eu harweinydd cyntaf, Guru Nanak. Mae adeg y Vaisakhi yn amser da hefyd i aelodau newydd ymuno â’r Khalsa, ac yn amser da i’r rhai sydd wedi bod yn aelodau atgoffa’u hunain o’r hyn a ddisgwylir ganddyn nhw.

Meddyliwch heddiw am yr aberth yr oedd y pump cyntaf rheini, y Panj Piare, neu’r ‘Pump Annwyl’, yn barod i’w wneud. Meddyliwch am rywbeth arall, sydd heb fod yn gofyn cymaint, efallai, sef meddwl beth allech chi ei wneud i’r cymunedau rydych chi’n byw ynddyn nhw.

Gweddi
Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r testun canlynol fel gweddi:
Diolch i ti am y cymunedau rydyn ni’n perthyn iddyn nhw.
Rydyn ni’n diolch am y rhan y gallwn ni ei gymryd yn ein cymunedau,
diolch am y gefnogaeth a’r anogaeth y mae ein cymunedau yn ei roi i ni  
a’r synnwyr o berthyn a gawn ni pan fyddwn ni gyda’r bobl eraill yn ein cymuned.
Gad i ni werthfawrogi ein cymunedau,
a deall y bydden ni, hebddyn nhw, yn colli rhywfaint ar ein hunaniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon