Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy sy'n eich gwylio

Ystyried y gwahanol ddefnydd o wneir o loerennau gan lywodraethau ac eraill.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5 - Gwasanaeth Sylwadau

Nodau / Amcanion

Ystyried y gwahanol ddefnydd o wneir o loerennau gan lywodraethau ac eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am ddelweddau o loerennau modern.

  • Chwiliwch am gerddoriaeth o wlad Sudan i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Miloedd o filltiroedd uwch ein pennau, mae'r ffurfafen yn llawn o loerennau di-griw. Mae'r llongau-gofod bach, technoleg uwch hyn yn darparu gwasanaethau cyfathrebu, teledu a gwybodaeth am ein byd a thu hwnt. Mae lloerennau arsyllu yn cymryd miloedd o luniau o'r Ddaear, sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer dibenion sifil a milwrol.

    Ar 29 Rhagfyr 2010, fodd bynnag, fe ddechreuodd prosiect sy'n defnyddio grym y lloerennau arsyllu i helpu diogelu hawliau dynol.

  2. Cafodd y Satellite Sentinel Project ei sefydlu gan yr actor George Clooney a'r arbenigwr ar Affrica, John Prendergast. Y nod yw defnyddio lloerennau gwyliadwriaeth a ffotograffig i gofnodi ac adrodd ar gamdriniaethau hawliau dynol yn y rhyfel cartref rhwng gogledd a de Sudan, lle mae gwrthdaro yn parhau i ddigwydd.

    Yn y rhanbarth hwn, mae gan y byddinoedd preifat a'r milisia rym aruthrol ac mae llawer ohonyn nhw'n llosgi pentrefi, gan lofruddio a chaethiwo'r pentrefwyr. Mae'r arglwyddi rhyfel yn gwybod tra bod y cyfryngau byd-eang yn gwybod dim am yr erchyllterau, fe allan nhw barhau. Trwy ddefnyddio grym arsyllgar dihafal lloerennau, fodd bynnag, gall y prosiect Satellite Sentinelddarparu tystiolaeth, ar gyfer y cyfryngau'n fyd-eang, o erchyllterau a throseddau yn erbyn y ddynoliaeth.

    Y gobaith yw y bydd tystiolaeth o’r fath yn gallu cael ei defnyddio i ddwyn y cyflawnwyr troseddau hyn i gyfrif, ac annog gweithredu gwleidyddol i sicrhau bod setliad yn digwydd a fydd yn arwain at heddwch yn y rhanbarth. Mae hynny gryn ffordd i ffwrdd, ond, trwy ddarparu tystiolaeth o erchyllterau, mae'r Satellite Sentinel Project yn gallu amddifadu'r milisia o un o'u grymoedd mawr. Maen nhw wedi gosod y sylfaen ar gyfer gweithredu pellach ac wedi gosod sialens i'r byd i weithredu yn erbyn y trais hwn.

  3. Mae George Clooney yn defnyddio'i gyfoeth, ei enwogrwydd a'i ddylanwad i helpu datrys creisis ac yn ceisio gwella bywydau miloedd o bobl. Rhaid i ninnau, hefyd, ddefnyddio ein doniau i helpu eraill sy'n llai ffodus na ni ein hunain.

  4. Mae cwestiwn yn aros, fodd bynnag, sy'n gofyn pwy arall allai fod yn cadw golwg arnom. Defnyddir awyrennau 'drone' yn aml y dyddiau hyn gan lywodraethau mawr y byd i ymosod ar 'elynion' honedig a gall unigolion brynu awyrennau 'drone' bychan iawn yn weddol rwydd.

  5. Rydym hefyd yn byw gyda'r Camerâu Cylch Cyfyng (y CCTV) o'n cwmpas ymhob man. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i leihau trosedd, ond mae hefyd yn golygu bod rhan helaeth o'r amser a dreuliwn ni y tu allan i'n cartrefi, wrth i ni fynd o gwmpas yn byw ein bywydau, yn cael ei gofnodi.

Amser i feddwl

Mae'r mwyafrif o bobl yn ddigon bodlon i berson anhysbys fod yn gwylio drosom ni pan fyddwn allan o gwmpas y lle, ac ychydig a fyddai'n codi llais yn erbyn y prosiect y mae George Clooney wedi ei sefydlu i helpu'r sefyllfa yn y Sudan. Ond, ymhle mae tynnu'r llinell? Hefyd, pa bryd y byddwn ni angen cadw hyn mewn cof - a yw'n newid ein hymddygiad?

Ar gyfer Ysgolion Eglwys
Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn gwylio drosom bob amser. A yw'r wybodaeth hon yn newid y ffordd yr ydym yn ymddwyn tuag at bobl eraill neu a yw'n ffordd o'n deffro weithiau, i'n helpu ni weld yr angen i adfer perthnasoedd toredig ar adegau anodd?

Cerddoriaeth

Chwaraewch gerddoriaeth o wlad Sudan.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon