Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Pam ddylech chi gefnogi assemblies.org?

HELPWCH NI I BARHAU I GYNNIG
GWASANAETHAU AM DDIM!


Mae athrawon a phlant yn dwlu ar y sgriptiau gwasanaeth sydd ar gael ar y wefan hon. Dyma rai o’r sylwadau gwych rydym wedi’u cael gan y rheini sy’n defnyddio ein gwasanaethau a’r rhai sy’n gwrando arnynt:

“Roedd hi fel Dydd Nadolig pan ddes i ar draws y safle hwn! Dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i’n ei wneud hebddo erbyn hyn!” Athro Ysgol Gynradd
“A ninnau’n ysgol gymunedol, ry’n ni’n hoffi’r ffaith bod y gwasanaethau’n addas i unrhyw staff a phlant o unrhyw gefndiroedd ffydd” Athro Ysgol Gynradd
“Mae gwasanaethau’n gwneud i chi stopio a meddwl... Ar ôl un gwasanaeth daeth bachgen ataf i ac ymddiheuro gan ei fod wedi bod yn gas y diwrnod cynt. Roedd wedi bod yn meddwl am y peth yn y gwasanaeth a dwi’n hoffi hynny” Plentyn

Mae’n wych gallu cynnig yr adnoddau hyn, yn rhad ac am ddim, i helpu athrawon nad oes llawer o amser ganddynt ac nad ydynt yn siŵr sut mae cyflwyno gwasanaeth sy’n gwneud i’w disgyblion feddwl! Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer ysgolion Cymraeg – does dim llawer o help ar gael ar gyfer y rhain.

Fodd bynnag, mae cost i hyn i gyd yn anffodus! Rydym yn hynod ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Addysg St Christopher a Phwyllgor Cymru Diwrnod Gweddïau Menywod y Byd am gefnogi’r gwaith o ail-ddylunio’r wefan hon, ond mae yna ddiffyg mawr o hyd os ydym eisiau parhau i ychwanegu deunydd newydd a ffres yn Gymraeg.

Allwch chi helpu i gau’r bwlch cyllid hwn?

Efallai eich bod yn athro neu’n weithiwr ieuenctid y mae ein sgriptiau’n gwneud eich boreau’n haws. Efallai eich bod yn rhiant sy’n mwynhau clywed yr hyn ddysgodd eich plentyn yn y gwasanaeth bore ‘ma. Neu efallai eich bod yn credu bod cydaddoli yn rhan allweddol o fywyd yr ysgol ac y dylai athrawon gael adnoddau i’w helpu gyda hyn. Beth bynnag yw eich cysylltiad â gwasanaethau, gwnewch wahaniaeth i fywydau athrawon a disgyblion ledled Cymru drwy gefnogi gwasanaethau Cymraeg!

Helpwch ni i barhau i gynnig gwasanaethau am ddim! Bydd unrhyw swm o gymorth.

Tudalennau eraill
Amdanom ni
Cyflwyniadau
Sut i ddefnyddio'r safle hwn
Adborth
Rhoi
Telerau a Chwcis