Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Gwefan Gwasanaethau

Mae'r Wefan Gwasanaethau yn cynnig cannoedd o wasanaethau o safon i’w defnyddio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae pob gwasanaeth yn barod i’w gyflwyno ac yn hawdd i’w addasu yn ôl anghenion y defnyddiwr.

Is-adrannau

Gwasanaethau Cyfredol – gwasanaethau newydd sydd wedi’u diweddaru ac sy’n ystyried themâu a gwerthoedd poblogaidd neu sy’n benodol ar gyfer adeg o’r flwyddyn

Gwasanaethau Materion Allweddol – gwasanaethau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o themâu poblogaidd sydd wedi’u dylunio i gefnogi adegau allweddol ym mywyd yr ysgol.

Gwyliau Crefyddau’r Byd – gwasanaethau sydd â’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth a goddefgarwch, gan gynnig gwybodaeth ac ysbrydoli ymatebion ysbrydol a moesol.

Gwasanaethau rhyngweithiol

Dylai gwasanaethau fod yn hwyl yn ogystal â rhoi cyfle i feddwl. I gyflawni hyn, mae’r rhan fwyaf o wasanaethau yn cynnwys cyflwyniadau PowerPoint a chlipiau fideo ochr yn ochr â syniadau i annog myfyrwyr i ryngweithio drwy ddrama neu gemau. Nod y rhyngweithio hwn yw gwella dealltwriaeth a sicrhau bod gan y plant ddiddordeb yn y gwasanaeth, gan wneud y profiad yn hwyl a chofiadwy.

Awgrymiadau ar gyfer gwasanaeth rhyngweithiol llwyddiannus:

  • Ceisiwch sicrhau bod gan y plant ddiddordeb ym mhob rhan o’r gwasanaeth. Cofiwch fod amrywiaeth yn allweddol. Mae myfyrwyr yn ymateb yn gadarnhaol i agweddau gwahanol ar wasanaethau – felly cofiwch sicrhau eu bod yn llawn amrywiaeth a hwyl!
  • Peidiwch â bod ofn arbrofi. Rhowch gynnig ar syniadau newydd – os nad yw pethau’n gweithio dyw hi ddim yn ddiwedd y byd! Meddyliwch am gynllun wrth gefn, fel stori dawel neu funud i feddwl, i helpu i roi’r gwasanaeth yn ôl ar y trywydd cywir os yw’r rhyngweithio’n achosi gormod o gyffro!
  • Gwnewch yn siŵr fod y rhyngweithio, yn arbennig y gemau, yn ysgafn a theg (oni bai taw annhegwch yw Gall gormod o gystadlu ddifetha gwasanaeth.
  • Gwnewch yn siŵr fod y cysylltiad rhwng y gêm/rhyngweithio a phwynt allweddol y gwasanaeth yn glir.
  • Byddwch yn gynhwysol bob amser; dewiswch wirfoddolwyr yn ofalus; peidi wch â thynnu sylw at wirfoddolwr gan nad yw’n gwybod yr ateb cywir; dewiswch wirfoddolwyr o ddosbarthiadau gwahanol a rhannau gwahanol o'r ystafell (nid dim ond y rhes flaen!) Os ydych yn ymwelydd, peidiwch â bod ofn gofyn i athro ddewis y gwirfoddolwyr.
  • Byddwch yn ymwybodol o faterion iechyd a diogelwch ond peidiwch â gadael i’r rhain eich atal rhag gwneud pethau cyffrous!

Tudalennau eraill
Sut i ddefnyddio'r safle hwn
Adborth
Rhoi
Telerau a Chwcis
Amdanom ni
Cyflwyniadau