Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Os yw siarad yn Arian . . .

Mae gwrando’n bwysig!

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i fod yn wrandawyr da.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch Sleid 1.

    Eglurwch fod dihareb o wlad Twrci yn dweud, 'Os yw siarad yn arian, yna mae gwrando yn aur.’

    Gofynnwch i'r plant beth maen nhw’n ei feddwl yw ystyr y dywediad hwn.

    Awgrymwch ei fod yn golygu, er ei fod yn beth pwysig iawn siarad â phobl eraill, mae hyd yn oed yn fwy pwysig gwrando arnyn nhw.

  2. Dangoswch Sleid 2.

    Gofynnwch i'r plant droi at y person agosaf atyn nhw a thrafod pam ei fod yn bwysig gwrando ar bobl eraill, a beth sy'n gwneud gwrandäwr da.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  3. Eglurwch eich bod yn mynd i adrodd stori o'r Beibl. Mae llawer o storïau am blant yn y Beibl. Mae'r straeon yn ein dysgu bod Duw yn gwerthfawrogi plant yn fawr iawn ac yn aml mae ganddo swyddi pwysig i blant eu gwneud. Mae'r stori yma'n sôn am fachgen bach o'r enw Samuel. Roedd Samuel yn wrandäwr da iawn. Anogwch y plant i wrando'n ofalus a cheisio gweld pa swydd bwysig yr oedd Duw eisiau i Samuel ei gwneud.

  4. Dangoswch Sleid 3.

    Stori Samuel ac Eli

    Amser maith yn ôl, roedd gwraig o'r enw Hanna yn byw. Roedd Hanna yn drist iawn gan nad oedd yn bosib iddi gael babi bach. Bu'n rhannu ei thristwch mewn gweddi gyda Duw dros gyfnod hir, nes yn y diwedd fe gafodd hi fab bach. Rhoddodd Hanna a'i gwr yr enw Samuel ar eu mab bach newydd. Er mwyn rhoi diolch i Dduw am ei mab, fe aeth Hanna â Samuel i'r deml pan oedd yn Samuel yn dal i fod yn fachgen ifanc, i fyw gydag offeiriad o'r enw Eli. Arhosodd Samuel gydag Eli a gwasanaethodd yn y deml, dyna’r lle yr oedd p= y bobl yn dod ynghyd i addoli Duw. Yn ystod y nos roedd Eli'n cysgu yn un pen o'r deml a Samuel yn cysgu yn y pen arall.

    Un noson, fe ddeffrodd Samuel yn sydyn oherwydd ei fod yn clywed llais rhywun yn galw ei enw.

    Gofynnwch i’r plant alw gyda’i gilydd, ‘Samuel, Samuel!’

    Neidiodd Samuel o'i wely a rhedodd at wely Eli. ‘Dyma fi! Fe wnest ti alw arnaf!’ meddai.
    ‘Na, wnes i ddim,’ meddai Eli. ‘Dos yn ôl i dy wely!’
    Aeth Samuel yn ôl i'w wely a chysgodd. Fodd bynnag, yn fuan wedyn, fe ddeffrodd Samuel unwaith eto, oherwydd fe glywodd yr un llais yn galw ei enw.

    Gofynnwch i’r plant alw eto gyda’i gilydd, ‘Samuel, Samuel!’ ond ychydig yn uwch y tro hwn.

    Rhedodd Samuel yn ôl at Eli, ond fe ddywedodd Eli wrtho, ‘Na, yn wir, wnes i ddim galw arnat ti, Samuel! Dos yn ôl i dy wely a chysga!’
    Yn union fel roedd Samuel yn llithro'n ôl i gysgu, fe glywodd y llais yn galw ei enw am y trydydd tro.

    Gofynnwch i’r plant alw eto gyda’i gilydd, ‘Samuel, Samuel!’ ond gweiddi’n uchel y tro hwn!

    Y tro hwn, sylweddolodd Eli mai Duw oedd yn galw ar Samuel. Pan gyrhaeddodd Samuel at wely Eli, fe ddywedodd Eli wrtho, ‘Dos yn ôl i dy wely, ond os byddi di'n clywed y llais unwaith eto, dywed fel hyn, “Llefara Arglwydd, canys y mae dy was yn gwrando.”’

    Aeth Samuel yn ôl i'w wely a chyn bo hir, clywodd ei enw yn cael ei alw eto.

    Gofynnwch i’r plant alw unwaith eto gyda’i gilydd, ‘Samuel, Samuel!’ ond gweiddi’n uwch eto y tro hwn!

    Yn union fel y dywedodd Eli wrtho am ddweud, fe atebodd Samuel, ‘Llefara, Arglwydd, canys y mae dy was yn gwrando.’ Ac fe siaradodd Duw â Samuel, er mai dim ond plentyn oedd o. Rhoddodd Duw'r neges gyntaf o amryw negeseuon i Samuel i'w trosglwyddo i Eli, negeseuon am ei deulu ac am y dyfodol. Yn aml, roedd y negeseuon yn rhai eithaf anodd, ond oherwydd bod Samuel yn sicr eu bod yn negeseuon oddi wrth Dduw, fe'i trosglwyddodd nhw i gyd i Eli.

    Fe ddechreuodd Duw siarad â Samuel pan oedd yn ddim ond bachgen ifanc, gan roi negeseuon iddo i’w trosglwyddo i bobl eraill, a dyna beth oedd y gwaith yr oedd Duw am iddo'i wneud ar ei ran am weddill ei oes hefyd.

Amser i feddwl

Dangoswch Sleid 4.

Gofynnwch i'r plant i droi at y plentyn sydd nesaf atyn nhw a thrafod y cwestiwn sydd ar y sleid.

- Sut ydych chi'n meddwl fod Samuel yn teimlo pan ddeffrodd yn ystod y nos a chlywed rhywun yn galw ei enw, yn arbennig felly gan i hynny ddigwydd pedair gwaith?

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Eglurwch ei fod yn amlwg yn brofiad eithaf rhyfedd i Samuel glywed rhywun yn galw ei enw, ond ei fod yn beth digon naturiol iddo hefyd dybio mai Eli oedd yn galw arno. Fodd bynnag, pan ddigwyddodd hynny dair gwaith, rhaid ei fod wedi meddwl beth ar y ddaear oedd yn digwydd! Rhaid ei fod wedi ei synnu'n fawr iawn pan sylweddolodd mai Duw oedd yn siarad ag ef, er mai dim ond plentyn oedd o.

Arweiniodd y ffaith fod Samuel yn wrandäwr da at ei ddewis i fod yn negeseuwr arbennig. Anogwch y plant i fod yn wrandawyr da, gan ddefnyddio eu sgiliau gwrando i helpu a chefnogi pobl eraill.

Dangoswch Sleid 5 a darllenwch y gerdd yn glir.

Dangoswch Sleid 6.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi siarad â Samuel pan oedd o’n dal i fod yn blentyn.
Helpa bob un ohonom ni i fod yn wrandawyr da fel Samuel.
Helpa ni i wneud amser er mwyn gwrando ar eraill.
Helpa ni bob amser i gofio bod gwrando yn llawer pwysicach yn aml na siarad.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon