Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Amdanom ni

Nod y Wefan Gwasanaethau yw cynnig gwasanaethau cynradd ac uwchradd o safon uchel, y gellir cael mynediad iddynt ar unwaith, i athrawon a phobl eraill sy'n arwain cydaddoli. Ein nod yw hyrwyddo arfer da a helpu ysgolion i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol ar gyfer cydaddoli. Ysgrifennir yr holl wasanaethau gan ymarferwyr profiadol, y mae llawer ohonynt wedi bod yn defnyddio’r safle ers cryn amser. Dros y blynyddoedd, ers y dechreuad ym 1999, mae’r Wefan Gwasanaethau wedi datblygu’n gymuned ar-lein go iawn, gyda syniadau'n cael eu cyfnewid a dyfnder o gefnogaeth sy’n hynod o ddefnyddiol i lawer.

Mae’r gwasanaethau’n Gristnogol eu hagwedd, ond mae’r safle’n ceisio cynnig adnoddau i’w defnyddio mewn amrywiaeth eang o ysgolion, ac mae’r deunydd wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio gyda phob plentyn, waeth beth fo’i ffydd neu gefndir diwylliannol. Mae’r adran Gwyliau Crefyddau’r Byd yn ymestyn y cysyniad hwn drwy annog dealltwriaeth o brif gredoau’r byd drwy eu cyfnodau a’u dathliadau arbennig.

Darperir y Wefan Gwasanaethau gan SPCK, fel rhan o’u hymrwymiad i hyrwyddo dealltwriaeth o Gristnogaeth.

Gallwch ddysgu mwy am y safle drwy glicio ar sut i ddefnyddio’r safle hwn neu bori drwyddo ar eich liwt eich hun.

 

Cydnabyddiaethau

Mae’r safle hwn yn cynnwys cyfieithiadau o gyfran fawr o wasanaethau SPCK o 2009 i fis Gorffennaf 2017. Tan 2017, roedd fersiwn Gymraeg Gwefan Gwasanaethau Ysgol SPCK yn cael ei rheoli gan Ganolfan y Santes Fair.

Am wasanaethau newydd a rhai sydd wedi’u diweddaru ewch i’r wefan Saesneg: www.assemblies.org.uk

Bu’r gwaith o greu’r fersiwn Gymraeg newydd hon o’r safle yn bosibl diolch i rodd caredig gan Ymddiriedolaeth Addysg St Cristoffer a Phwyllgor Cymru Diwrnod Gweddïau Menywod y Byd.

I ddatblygu’r safle hwn ymhellach, bydd angen mwy o gyllid. Cysylltwch â os gallwch helpu.

Tudalennau eraill
Rhoi
Telerau a Chwcis
Amdanom ni
Cyflwyniadau
Sut i ddefnyddio'r safle hwn
Adborth