Agweddau Ar Malawi 1
Edrych ar y faner, a`í dadansoddi
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Darparu cyflwyniad i wlad Malawi, gan edrych ar faner y wlad er mwyn ysgogi diddordeb mewn cyfres fwy manwl am y wlad.
Paratoad a Deunyddiau
- Delwedd o faner gwlad Malawi ar y sgrin (neu arddangos copi mawr o’r faner).
- Mae ffotograffau ar gael i´w llwytho i lawr i gyd-fynd â’r gwasanaeth yma.
Gwasanaeth
- Sgwn i faint ohonoch chi sy’n gwybod unrhyw beth am y wlad Malawi? Ar ba gyfandir y mae Malawi? (Affrica) Pwy wnaeth fabwysiadu plentyn bach o Falawi yn y flwyddyn 2006? (Madonna).
Dyna o bosib y cyfan yr ydych chi yn ei wybod am y wlad ar hyn o bryd. Ond dyma’r cyntaf o chwech o wasanaethau addoli ar y cyd y byddwn yn darganfod trwyddyn nhw, sut beth yw hi i fod gartref, yn yr ysgol, mewn gwaith, ac yn mwynhau chwarae a bod allan yn y gwyllt ym Malawi. - Yn y gwasanaeth hwn, byddwn yn defnyddio’r faner i’n haddysgu am fywyd yn Malawi. (Dangoswch ddelwedd o’r faner.) Mae pob un o’r lliwiau a’r symbol ar y faner yn cynrychioli rhywbeth sydd o bwys i bobl Malawi.
- Du. Beth yw’r lliw cyntaf? Beth ydych chi’n ei feddwl y mae’r lliw yma’n ei gynrychioli?
Mae’r lliw du yn cynrychioli pobl Malawi.
Mae dwysedd poblogaeth Malawi gyda’r uchaf yn Affrica. Mae hynny’n golygu bod llawer o bobl yn byw yn y wlad fechan.
Mae Malawi yn un o ychydig o wledydd yn Affrica sydd â’i thir heb fod yn cyrraedd y môr. Mae hynny’n golygu bod pobl Malawi yn dibynnu ar wledydd sy’n ffinio â hi i ganiatáu i’r cynnyrch sydd wedi cyrraedd ar ei chyfer, ar longau, gael eu trawsgludo drwy’r gwledydd hynny.
Mae Malawi yn cael ei hadnabod fel calon gynnes Affrica oherwydd bod y bobl yn bositif, yn gyfeillgar a gofalgar. - Coch. Beth yw’r ail liw? Beth ydych chi’n feddwl y mae’r lliw yma’n ei gynrychioli?
Coch yw lliw dioddefaint.
Mae dioddefaint wedi bod yn rhan o hanes Malawi. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, daeth masnachwyr cyfoethog o’r Dwyrain i ymosod ar bentrefi a chipio´r bobl ymaith i fod yn gaethweision. Byddai’r caethweision hynny yn gorfod dioddef taith ddeuddydd ar draws Llyn Malawi mewn amgylchiadau clos a myglyd, mewn cychod oedd wedi eu gorlenwi. Yna, roedd yn rhaid iddyn nhw orymdeithio a chario beichiau trymion ar eu cefnau ar draws gwlad at yr arfordir, ac os oedden nhw’n rhy wan i barhau i gerdded felly, fe fydden nhw’n cael eu lladd.
Erbyn hyn, mae’r fasnach gaethweision yn hen hanes, ond i’r rhan fwyaf o bobl Malawi, mae dioddefaint yn rhywbeth sy’n rhan o’u bywyd beunyddiol. Mae llawer yn dioddef o dlodi enfawr a heintiau. Nid yw’r rhan fwyaf o’r bobl yn goroesi y tu hwnt i 40 oed. - Gwyrdd. Beth yw’r trydydd lliw? Beth ydych chi’n feddwl y mae’r lliw yma’n ei gynrychioli?
Mae’r tir yn ffrwythlon a’r llystyfiant yn doreithiog. Gyda thymhorau rheolaidd o law a sychder, mae’n bosib tyfu cansen siwgr, cotwm, ffrwythau a llysiau. Mae 80% o bobl Malawi yn ymwneud â ffermio, tyfu bwyd ar gyfer eu defnydd eu hunain, ac ar gyfer ei werthu yn y farchnad. - Yr Haul yn Codi. Beth yw’r symbol ar y faner? Beth ydych chi’n ei feddwl y mae’n ei gynrychioli?
Cafodd y symbol o’r haul yn codi ei ychwanegu at faner y wlad pan gafodd y wlad ei hannibyniaeth yn y flwyddyn 1964. Mae’n cynrychioli gobaith y bobl, eu dymuniad i wneud Malawi yn lle gwell i bawb sy’n byw yno, a’r gred bod dydd newydd ar wawrio yng ngwlad hardd Malawi.
Amser i feddwl
Gadewch i ni fyfyrio ar Malawi wrth i ni ddwyn ein hamser gyda’n gilydd i ben.
Mae’n rhyfeddol bod pobl sydd â chyn lleied yn gallu ymddangos mor llawen.
Mae’n anghredadwy bod pobl sydd yn byw gyda chymaint o ddioddefaint yn gallu cael cymaint o obaith yn eu calonnau.
Rydym ni´n lwcus iawn.
Mae gennym ni ddigonedd ac, er hynny, rydym yn aml eisiau mwy.
Wrth i ni ystyried gwlad Malawi, gadewch i ni agor ein meddyliau er mwyn i ni allu dysgu oddi wrth y ffordd y mae’r bobl yn byw ac yn gweithio ac yn chwarae.
Gadewch i ni agor ein calonnau i werthfawrogi'r hyn oll sydd gennym.
Gadewch i ni ddefnyddio ein dychymyg i helpu pobl Malawi i wireddu eu gobeithion.
Cân/cerddoriaeth
Gadewch i ni fyfyrio ar Malawi wrth i ni ddwyn ein hamser gyda’n gilydd i ben.
Mae’n rhyfeddol bod pobl sydd â chyn lleied yn gallu ymddangos mor llawen.
Mae’n anghredadwy bod pobl sydd yn byw gyda chymaint o ddioddefaint yn gallu cael cymaint o obaith yn eu calonnau.
Rydym ni´n lwcus iawn.
Mae gennym ni ddigonedd ac, er hynny, rydym yn aml eisiau mwy.
Wrth i ni ystyried gwlad Malawi, gadewch i ni agor ein meddyliau er mwyn i ni allu dysgu oddi wrth y ffordd y mae’r bobl yn byw ac yn gweithio ac yn chwarae.
Gadewch i ni agor ein calonnau i werthfawrogi'r hyn oll sydd gennym.
Gadewch i ni ddefnyddio ein dychymyg i helpu pobl Malawi i wireddu eu gobeithion.