Gwneud Ffrindiau Newydd
Helpu´r plant i feddwl am bwysigrwydd cyfeillgarwch ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd.
gan The Revd Sophie Jelley
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Helpu´r plant i feddwl am bwysigrwydd cyfeillgarwch ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen amlen enfawr, gyda´ch enw arni, a honno´n cynnwys llythyr mawr neu gerdyn gwahoddiad enfawr yn eich gwahodd i´r gwasanaeth.
- Chwiliwch am stori Sacheus (Luc 19.1–9).
Gwasanaeth
- Dywedwch eich bod yn teimlo´n dda eich bod yn cael bod yma yn y gwasanaeth heddiw.
Os ydych chi´n newydd, cyflwynwch eich hun a rhannwch eich teimladau ynghylch eich pleser o fod yn bresennol heddiw. Os nad ydych chi´n newydd, cyflwynwch eich hun i´r plant sy´n newydd yn yr ysgol, a siaradwch am sut roedden nhw´n teimlo wrth ddod i ysgol newydd.
Mae nifer ohonoch chi´n newydd - plant y dosbarth derbyn, plant newydd yn ymuno â dosbarthiadau eraill. Holwch oes rhywun yn dod o wlad arall, ac ati. Dewiswch wirfoddolwr i ddod ymlaen i agor eich amlen a dangos beth sydd ynddi. Dywedwch eich bod wedi teimlo´n dda wrth ddod i´r gwasanaeth am fod rhywun wedi mynd i´r drafferth i´ch gwahodd yno. - Dywedwch wrth y plant yr hoffech chi ddweud stori am Iesu yn gwneud ffrindiau newydd. Un o´r rheini oedd Sacheus, a dyma´r stori.
Dyn bychan oedd Sacheus. Wrth ei waith roedd yn casglu trethi - eglurwch fod hynny´n golygu nad oedd pobl yn hoff iawn ohono am ei fod yn mynnu gwneud iddyn nhw dalu arian. Roedd Sacheus wedi clywed bod Iesu´n dod i´r dref lle´r oedd yn byw, ac roedd Sacheus yn awyddus iawn i gwrdd ag Iesu. Er mwyn cael ei weld yn iawn, fe benderfynodd Sacheus ddringo i ben coeden. Oddi yno fe allai weld dros ben y dyrfa.
Wrth i Iesu fynd heibio, fe welodd Sacheus ar ben y goeden. Galwodd Iesu ar Sacheus gan roi croeso iddo a gofyn a gai fynd gydag ef i´w dy wedyn i gael te. Roedd Sacheus wrth ei fodd bod ganddo ffrind newydd o´r enw Iesu, ac roedd Iesu´n hapus i fod yn ffrindiau â Sacheus, er bod llawer o bobl yn gwgu gan nad oedden nhw´n hoff iawn o Sacheus ac yn meddwl nad oedd yn ddyn da iawn. - Ar ddechrau blwyddyn newydd, dydi pawb ddim yn adnabod pob un sydd yn yr ysgol. Mae bob amser rywun newydd i gwrdd ag o neu hi, waeth i ba ddosbarth rydych chi´n perthyn, ar y buarth amser chwarae neu yn y neuadd ginio.
Byddwch yn barod i groesawu cyfeillion newydd y gallech chi gwrdd â nhw. Efallai nad ar ben coeden y byddan nhw, ond efallai y byddan nhw´n teimlo´n ansicr ac yn unig braidd, fel roedd Sacheus yn y stori. Byddwch yn gyfeillgar â rhai dydych chi ddim yn eu hadnabod yn dda. Efallai y gallech chi roi gwahoddiad iddo ef neu hi ddod i chwarae â chi ar yr iard neu i eistedd wrth eich ymyl amser cinio. - Roedd Iesu´n un da am wneud ffrindiau, hyd yn oed gyda phobl nad oedd pobl eraill yn eu hoffi rhyw lawer. Mae Iesu eisiau i ni wneud ffrindiau newydd hefyd.
Amser i feddwl
Meddyliwch am eich ffrindiau - beth sy´n eich gwneud chi´n hapus pan fyddwch chi yn eu cwmni? Efallai eich bod yn cael hwyl ac yn mwynhau chwerthin gyda´ch gilydd, yn mwynhau chwarae gyda´ch gilydd, yn meddwl am gemau newydd, ac yn gwneud pethau arbennig gyda´ch gilydd. Meddyliwch sut beth fyddai ein bywyd heb ffrindiau. Mae ffrindiau´n rhan bwysig iawn o fywyd.
Gweddi
Dduw Dad,
Diolch i ti am ffrindiau newydd.
Helpa ni i fod yn ffrindiau da.
Helpa ni i fod yn ffrindiau i ti,
Ac i allu dod i dy adnabod di yn well yn ystod yr amser rydyn ni yn yr ysgol yma.
Yn enw Iesu.