Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gweithio Gyda'n Gilydd!

Defnyddio gemau syml i ddangos pa mor bwysig yw gweithio fel tîm.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio gemau syml i ddangos pa mor bwysig yw gweithio fel tîm.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen 10 o sgwariau carped bach - mae´r rhain i´w cael yn aml yn rhad neu am ddim mewn siopau gwerthu carpedi. Os na allwch gael darnau bach o garped fe wnaiff dalennau o bapur maint A4 y tro'r un fath.
  • Ysgrifennwch y gair ‘TÎM’ mewn llythrennau bras yn barod i´w osod i fyny.

  • Geiriadur.

  • Dalennau mawr o bapur i nodi´r diffiniadau.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i un o´r plant ddal y gair ‘TÎM’ i fyny i chi. Gofynnwch i´r plant am syniadau ynghylch ystyr y gair. Gofynnwch i rai ysgrifennu eu diffiniad ar ddarnau papur mawr eraill.

  2. Efallai y gallech chi ofyn i un o´r plant chwilio am ystyr y gair mewn geiriadur. Chwiliwch o dan y gair ‘team’ yn Saesneg hefyd. Cofnodwch y diffiniad. Eglurwch eich bod yn mynd i ofyn i rai o´r plant ddod ymlaen atoch chi i wneud tasgau sy´n gofyn am waith tîm.

  3. Tasg 1. Marciwch linellau dechrau a gorffen, tua 15 metr oddi wrth ei gilydd. Fe fydd arnoch chi angen 2 dîm o 6 phlentyn. Gofynnwch i aelodau´r timau sefyll y tu ôl i´w gilydd a ffurfio rhes y tu ôl i´r llinell gychwyn. Rhowch 5 o´r sgwariau carped i ´r cyntaf ym mhob tîm (neu´r darnau papur). 

    Eglurwch eich bod chi eisiau i´r ddau dîm symud o´r llinell gychwyn i´r llinell orffen trwy ddefnyddio´r carpedi neu´r papurau fel ‘cerrig sarn’ i gamu arnyn nhw. Chaiff y plant ddim rhoi eu troed ar y llawr oni bai bod ‘carreg sarn’ yno iddyn nhw gamu arni. 

    Fe fydd yn rhaid i´r plant weithio fel tîm, gan nad oes digon o ‘gerrig’ yno iddyn nhw gael un bob un a mynd yr holl ffordd. Fe fydd yn rhaid iddyn nhw rannu’r ‘cerrig’, eu pasio i lawr y rhes ac yn ôl i´r un sydd ar y blaen os ydyn nhw eisiau symud ymlaen.

  4. Tasg 2. Fe fydd arnoch chi angen 2 dîm o 6 phlentyn. Gofynnwch i aelodau´r timau sefyll mewn cylch yn wynebu ei gilydd. Gofynnwch i bob un o´r 6 phlentyn estyn ei law i ganol y cylch a gafael yn llaw rhywun o´r tîm. Yna, gofynnwch i´r plant estyn eu llaw arall i´r canol a gafael y tro yma yn llaw rhywun arall o´r tîm, rhywun gwahanol i´r tro cyntaf.

    Eglurwch fod yn rhaid i´r plant ddal gafael yn nwylo´i gilydd, heb ollwng, ond heb fod yn gafael mor dyn nes brifo´r naill a´r llall. Y nod yw i´r 6 phlentyn ‘ddatblethu’ eu hunain fel eu bod yn y pen draw yn gallu llunio cylch cyfan gyda´r dwylo yn dal ynghlwm! (Mae´n debyg y bydd rhai yn wynebu tua chanol y cylch ac eraill yn wynebu allan o ganol y cylch.) Fe fydd yn rhaid i´r plant siarad â´i gilydd a gweithio fel tîm wrth iddyn nhw wau trwy´i gilydd a cheisio ffurfio cylch.

  5. Gofynnwch i´r plant beth fyddai wedi digwydd yn y naill gêm a´r llall pe na bai´r plant wedi gweithio gyda’i gilydd fel tîm. Eglurwch fod Cristnogion yn credu bod Duw wedi ein gwneud ni fel y gallwn ni weithio gyda´n gilydd i gyd i wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo. Mae Duw wedi ein gosod ni mewn teuluoedd sydd fel timau, lle mae´r aelodau yn gofalu am ei gilydd ac yn helpu ei gilydd. Mae Duw wedi rhoi ffrindiau i ni hefyd fel y gallwn ni gael hwyl gyda´n gilydd a gwneud y naill a´r llall yn hapus. Mae Duw wedi rhoi teulu ehangach i ni hefyd yn yr ysgol fel y gallwn ni fod fel un tîm mawr gyda´n gilydd, yn helpu ein gilydd, ac yn cefnogi ein gilydd ym mhob peth y byddwn ni´n ei wneud.

Amser i feddwl

Ydyn ni´n chwaraewyr da mewn tîm? Oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud heddiw i helpu rhywun i allu teimlo´n fwy o ran o´n tîm dosbarth neu ein hysgol? Ydyn ni´n ymroi i helpu ac annog y naill a´r llall?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein rhoi ni mewn teuluoedd,
mewn grwpiau o ffrindiau, ac mewn ysgol sy´n gofalu amdanom.
Helpa ni i chwarae ein rhan a bod yn chwaraewyr da mewn tîm
sydd bob amser yn barod i helpu ac annog eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon