Yn Yr Ddaear Ac Uwch Ben Y Ddaear
Dathlu ein bod yn gallu mwynhau llysiau, a meddwl am sut y bydd llysiau’n tyfu ac yn cael eu cynaeafu.
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Dathlu ein bod yn gallu mwynhau llysiau, a meddwl am sut y bydd llysiau’n tyfu ac yn cael eu cynaeafu.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o lysiau, llysiau ffres sydd heb gael eu pecynnu a fyddai orau. O bosib, fe fyddai eich rhestr yn cynnwys llysiau fel: moron a betys (gyda’r dail?) radisys, tatws, swêds, cennin, nionod, bresych, blodfresych, letys, ciwcymbr, tomato, corn cob, pupur, sbigoglys, pwmpen, ffa dringo.
- Trwy gydol y gwasanaeth, cofiwch ddefnyddio’r arwydd ‘bawd i lawr’ neu 'fawd i fyny’ er mwyn nodi ai yn y ddaear neu uwch ben y ddaear y mae’r llysieuyn yn tyfu.
- Chwiliwch ar y rhyngrwyd am ddelweddau addas o bobl yn cynaeafu cnydau. Fe allech chi drefnu i arddangos y rhain, os bydd hynny’n briodol, yn ôl amodau hawlfraint.
Gwasanaeth
- Cyfeiriwch at eich casgliad o lysiau, a meddyliwch am y ffaith mai un o bleserau mawr adeg y cynhaeaf yw gweld yr holl amrywiaeth lliwgar o bethau sydd gennym y gallwn ni eu bwyta. Mae amrywiaeth hefyd, nid yn unig yn y ffordd y mae llysiau yn edrych ac yn blasu, maen nhw hefyd yn tyfu mewn ffyrdd gwahanol ac yn cael eu casglu mewn ffyrdd gwahanol.
- Eglurwch fod hadau’r holl lysiau yn cael eu hau yn y pridd. Ond, fel mae’r planhigyn yn tyfu, mae rhai o’r llysiau’n datblygu gwreiddiau a chloron (tubers) sydd o’r golwg o dan y ddaear. Mae rhai mathau eraill, wedyn, yn tyfu’n ddail, ac yn godennau (pods) ac yn ffrwythau sy’n tyfu ar wyneb y tir, neu uwch ben y ddaear.
- Dewiswch rai o’r llysiau. Gyda’r plant, nodwch y mathau gwahanol. Gofynnwch i’r plant ymateb i’r cwestiwn: ‘Yn y ddaear neu uwchben y ddaear?’ (bodiau i lawr neu fodiau i fyny).
Disgrifiwch wahanol batrymau tyfiant. Er enghraifft, yn achos tatws rhaid codi’r pridd yn y rhesi at y tatws wrth i’r gwlydd dyfu er mwyn i’r cnwd ddatblygu heb i olau’r haul fynd at y cloron neu’r tatws. Rhaid gosod polion neu ffyn i gynnal planhigion ffa dringo wrth iddyn nhw dyfu. Mae planhigyn y ffa dringo’n ymestyn i fyny’r ffyn ac yn cydio ynddyn nhw (mae’r planhigion yma’n tyfu’n gyflym!). Bydd rhaid ‘teneuo’ rhai cnydau fel moron, er mwyn i’r llysiau gael lle i dyfu. - Soniwch am y gwahanol ffyrdd y bydd llysiau’n cael eu cynaeafu.
Yn y ddaear: Caiff y tatws eu codi o’r pridd, a’u gwahanu oddi wrth y gwlyddyn. Caiff y moron eu tynnu o’r pridd - ar ôl cael eu rhyddhau yn gyntaf â fforch.
Uwch ben y ddaear: Bydd llysiau fel bresych, blodfresych, letys a phwmpenni, yn cael eu torri oddi ar y coesyn. Bydd y pupur a’r tomatos, y pys a’r ffa, ac ati, yn cael eu casglu oddi ar y planhigyn. - Pa lysiau y mae’r plant yn eu hoffi orau? Ydyn nhw’n tyfu yn y pridd o’r golwg yn y ddaear neu uwch ben y ddaear? Soniwch fod y prydau bwyd, y bydd pobl yn eu mwynhau fwyaf, yn aml yn cynnwys rhai llysiau sy’n tyfu o dan y ddaear a rhai sy’n tyfu uwch ben wyneb y ddaear, y ddau fath gwahanol gyda’i gilydd ar y plât. Ar adeg diolchgarwch am y cynhaeaf, rydyn ni’n diolch am y ddau fath. (Un bawd i lawr a’r llall i fyny!)
- Canwch y gân fach syml hon i alaw ‘Polly put the kettle on’, gyda’r symudiadau priodol ar gyfer y dull o gynaeafu.
Canwn gân cynhaeaf
Canwn gân cynhaeaf
Canwn gân am foron (bodiau i lawr)
A dynnwn ni fel hyn. (tynnu)
Canwn gân cynhaeaf
Canwn gân cynhaeaf
Canwn gân am fresych (bodiau i fyny)
A dorrwn ni fel hyn. (torri)
Canwn gân cynhaeaf
Canwn gân cynhaeaf
Canwn gân am datws (bodiau i lawr)
A godwn ni fel hyn. (codi tatws gyda fforch)
Canwn gân cynhaeaf
Canwn gân cynhaeaf
Canwn gân am ffa dringo (bodiau i fyny)
A gasglwn ni fel hyn. (casglu)
(Fe allwch chi addasu’r penillion wrth i rai o’r plant awgrymu gwahanol lysiau i´w henwi neu ddal llysieuyn neilltuol i fyny i’w ddangos. Fe allech chi ddiweddu’r gân gyda’r pennill canlynol.)
Diolch am gynhaeaf,
Diolch am gynhaeaf,
o’r ddaear fawr ac uwch ei phen
Diolchwn nawr i Dduw.
Amser i feddwl
Gallwch addasu’r weddi hefyd yn ôl y llysiau sydd gennych chi.
O Dduw'r Creawdwr,
Rydyn ni eisiau dweud ‘Diolch’ am y llysiau rydyn ni´n eu mwynhau:
Am hadau bach sy´n tyfu’n bwmpenni mawr, rydyn ni’n dweud
Diolch.
Am y ffa dringo sy’n hongian fel clychau iâ,
Diolch.
Am y radis coch a’r betys porffor,
Diolch.
Am y bresych deiliog gwyrdd sy’n tyfu mewn rhesi,
Diolch.
Am y moron oren sy’n cuddio yn y pridd,
Diolch.
Am y tomatos coch sy’n aeddfedu’n araf yn yr haul,
Diolch.
Am y cyneuaf sy’n tyfu o’r golwg yn y ddaear, ac sy’n tyfu uwch ben y ddaear,
Diolch.