Tymor Yr Hadau
Meddwl am yr hadau yn yr hydref, a dweud diolch am barhad bywyd.
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Meddwl am yr hadau yn yr hydref, a dweud diolch am barhad bywyd.
Paratoad a Deunyddiau
- Casglwch luniau hadau, neu casglwch ynghyd amrywiaeth o hadau, e.e. hadau sycamorwydden, mes, hadau’r ffawydden, moch coed oddi ar goed pinwydd, cnau castanwydden, hadau blodau dant y llew, ac ati.
- Torrwch yn eu hanner ffrwythau fel afalau, ceirios, eirin, melon melyn, er mwyn i chi gael gweld yr hadau y tu mewn i’r ffrwyth, a sylwi arnyn nhw. Fe allech chi labelu’r rhain a’u defnyddio fel arddangosfa er mwyn i’r plant eu gweld wrth fynd allan o’r gwasanaeth, neu gael edrych arnyn nhw’n ddiweddarach hefyd.
- Fe fyddai’n bosib i athrawon ddefnyddio’r gerdd ar gyfer ei dysgu i’w chydadrodd, neu ar gyfer ei darllen yn uchel gan grwp neu unigolion. Fe fyddai OHP yn ddefnyddiol er mwyn i bawb allu dilyn y gerdd.
Gwasanaeth
- Mae’n dymor yr hydref, un o adegau harddaf y flwyddyn. All unrhyw un awgrymu pam rydw i’n dweud hynny?
Adeg yr hadau yw’r hydref, adeg pan fydd y ffrwythau’n aeddfed ar y coed - ac mae’r ffrwythau’n llawn hadau. Mae’r ffermwyr yn casglu’r cnydau aeddfed, cnydau fydd yn rhoi bwyd i ni’r bobl ac i’r anifeiliaid drwy’r gaeaf. Dangoswch eich casgliad o ffrwythau a hadau. Gofynnwch i’r plant enwi’r rhai sy’n gyfarwydd iddyn nhw, ac efallai y gallech chi dreulio ychydig o amser yn trafod. - Yr hydref yw’r adeg pan fydd y coed a’r planhigion yn chwalu neu’n gollwng eu hadau. Bydd hadau rhai planhigion yn cael eu cario ar y gwynt. Fe fydd rhai yn cael eu cario gan anifeiliaid. Fe fyddwn ni, bobl a phlant yn cario rhai hefyd. Treuliwch rywfaint o amser yn egluro hyn.
Nid yw pob hedyn bach sy’n cael ei gario neu ei chwalu yn llwyddo i dyfu. Caiff llawer eu bwyta gan adar, gan anifeiliaid, a chan bobl fel ni. Ond mae llawer, diolch am hynny, yn disgyn ar y ddaear ac yn gallu gwreiddio yn y pridd a thyfu’n blanhigion newydd. - Gwrandewch ar y gerdd, ac edrychwch ydych chi’n deall ei neges.
Hadau
addasiad o gerdd gan Jan Edmunds
Gwelwch y ffrwythau ym mhob man o’n cwmpas,
Fel chi a minnau, mae i bob un ei bwrpas.
Mae’r ffrwythau’n llawn o hadau ddigon,
A chyn hir fe ddisgynnan nhw ar y ddaear ffrwythlon.
Bydd yr hadau’n cuddio yn y pridd trwy’r gaeaf,
Ond, pan ddaw’r gwanwyn, fe fyddan nhw’n tyfu’n araf.
Fel yr hadau, fe fyddwn ninnau i gyd yn tyfu,
Byddwn yn blodeuo´n hardd, a phob dydd yn datblygu.
Fel gyda’r ffrwythau, byddwn yn aeddfedu’n sydyn,
Yn byw ein bywydau - ac yn y diwedd - byddwn yn marw wedyn.
Mae pob un ohonom fel hadau bach yn y byd
Gyda Duw’n gofalu am ein hanghenion i gyd.
Mae’n anfon yr haul, mae´n anfon y glaw,
Ac o´r hadau bach, bywyd newydd a ddaw.
Mae Duw’n ein hadnabod, bob un ohonom
Wrth i ni fyw bywyd da, fe fydd Duw yn fodlon.
Cynhaeaf y gerddi, y coed a’r tir,
Duw sy’n rhoi’r rhoddion yma i ni, yn wir.
Miliynau o hadau, bywyd newydd gan Dduw,
I ail lenwi ein byd - dyna sut rydym yn byw. - Treuliwch amser yn trafod y gerdd. Y neges ynddi yw: heb ffrwythau fyddai bywyd ddim yn cael ei ail-greu.
- Dewisol: ‘Tra pery’r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos.’ (Genesis 8.22).
Amser i feddwl
Gweddi
Heddiw, rydyn ni’n meddwl am y wyrth o hadau’n tyfu:
Meddwl am y ffordd y maen nhw’n tyfu i roi bwyd i ni, ac i ail greu bywyd.
Mae ar yr hadau angen haul a glaw i’w helpu i dyfu,
A chyn hir fe gewch chi blanhigion o bob math:
blodau, coed, llwyni, gweiriau, yd a llysiau.
Am y planhigion sy’n hardd i edrych arnyn nhw, ac am y planhigion sy’n rhoi bwyd i ni,
Gadewch i ni roi diolch i Dduw am y cynhaeaf ac am bob un o’r rhoddion hyn.
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2009 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.