Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gweithredoedd Caredig A Chariadlon

Archwilio’r syniad o fod yn garedig a chariadlon heb ddymuno cael unrhyw elw personol neu fod ar eich ennill trwy fod yn garedig.

gan Kirk Hayles

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad o fod yn garedig a chariadlon heb ddymuno cael unrhyw elw personol neu fod ar eich ennill trwy fod yn garedig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch i ddweud y storïau sy’n dilyn, ac unrhyw storïau eraill, yn enwedig rhai o’ch profiad personol chi eich hun.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant bod y gwasanaeth hwn yn ymwneud â gweithredoedd o garedigrwydd a chariad.  Darllenwch y stori ganlynol am Ghandi:

    Un diwrnod, pan ddringodd Ghandi ar y trên, llithrodd un o’i esgidiau i ffwrdd oddi am ei droed a glanio ar gledrau’r rheilffordd.  Nid oedd yn gallu ei chael yn ôl oherwydd bod y trên yn symud.  Mewn syndod i’w gyd-deithwyr, plygodd Ghandi i lawr ac yn hamddenol, tynnodd ei esgid arall oddi am ei droed. Fel yr oedd y trên yn parhau i symud ymlaen, taflodd yr esgid yn ôl ar hyd trac y rheilffordd fel ei bod yn glanio’n agos at y llall.  Pan ofynnodd cyd-deithiwr iddo pam y gwnaeth o wneud hynny, fe wenodd Ghandi ac fe atebodd trwy ddweud, ‘Fe fydd gan y dyn tlawd, fydd yn dod o hyd i’r esgid yn gorwedd ar y cledrau, bar o esgidiau yn awr, ac fe fydd yn gallu eu defnyddio.’

  2. Eglurwch fod Ghandi yn byw yn India, gwlad lle mae yno dlodi mawr. Roedd llawer o bobl y wlad yn cerdded yn droednoeth oherwydd eu bod yn methu fforddio prynu esgidiau. Ail ddarllenwch y stori - bydd hyn yn rhoi cyfle i’r plant gofio’r stori, ac fe fyddwch yn sylwi eu bod yn gwrando’n fwy astud ar y stori yr ail dro.

  3. Os gallwch chi, ceisiwch feddwl am enghraifft gyfoes o garedigrwydd, rhywbeth tebyg i’r canlynol sy’n rhan o’m profiad i.

    Roedd y ddynes a oedd yn sefyll o fy mlaen i wrth ymyl y peiriant tocynnau yn y Maes Parcio yn chwilio’n ddyfal yn ei phwrs a’i bag am arian parod. Trwy’r amser roedd hi’n mwmian y byddai’n hwyr. Gan chwifio papur ugain punt, gofynnodd a oedd gen i unrhyw newid - dim ond punt oedd arni hi ei angen ar gyfer y tocyn, ac yna fe fyddai’n gallu gadael y Maes Parcio a mynd yn ei blaen.  Roedd hi’n mynd i fod yn hwyr yn cwrdd â’i merch i gael cinio pe byddai’n gorfod mynd yr holl ffordd yn ôl i’r dref i gael newid.  Doedd gen i ddim digon o arian mân i roi ugain punt yn lle’r papur iddi, felly’n syml fe gynigiais i ddarn punt iddi fel y gallai hi brynu’r tocyn.  Gofynnodd y ddynes a oedd modd iddi anfon y bunt yn ôl ataf.  Atebais innau nad oedd angen iddi wneud hynny, ac y byddai hithau yn sicr wedi gwneud rhywbeth tebyg i unrhyw un arall yn ei sefyllfa hi.  Gwenodd a dweud diolch wrth wasgu fy llaw a derbyn y darn punt yr oeddwn yn ei gynnig iddi. Talodd am ei thocyn ac i ffwrdd â hi ar frys. Roeddwn i’n ymwybodol yn awr nad oedd gennyf fi ddigon o arian parod wedyn i dalu am fy nhocyn i ar ôl gwneud hyn. Felly, fe fyddai’n rhaid i mi ddychwelyd i’r dref ac i’r siopau i chwilio am newid - ond roedd hi’n ddiwrnod braf, doeddwn i ddim ar frys, ac roeddwn i’n teimlo’n dda.

  4. Anogwch y plant i feddwl am yr hyn y gallan nhw ei wneud, gartref efallai, i ddangos eu caredigrwydd a’u cariad tuag at eraill.  Awgrymwch y gallen nhw roi syrpreis i’w rhieni neu berthynas arall trwy gynnig gwneud paned o de, neu olchi’r llestri. Neu, efallai y gallen nhw wneud rhywbeth mwy annisgwyl fel rhoi cusan i’w rhieni ar eu boch a sibrwd ‘Dw i’n eich caru chi,’ cyn diflannu allan i chwarae. Fel arall, fe allen nhw adael nodyn yn mynegi’r un teimlad er mwyn i rywun ei weld.

  5. Dywedwch wrth y plant y bydd y gwasanaeth yr wythnos nesaf yn ymwneud â’r hyn wnaethon nhw yn ystod yr wythnos i ddangos cariad neu fod yn garedig.  Dywedwch y gallan nhw ddod ymlaen i sefyll o flaen y gynulleidfa i ddweud wrth bawb, neu fe allen nhw ddweud eu stori wrthych chi, neu ysgrifennu nodyn atoch chi, ac fe fyddwch chithau wedyn yn gallu dweud beth wnaethon nhw, a dweud beth oedd yr ymateb gawson nhw ar ôl cyflawni eu gweithred garedig.

  6. Rhowch nodiadau bach o amgylch yr ysgol i atgoffa’r plant, gyda thestun neu symbol arnyn nhw yn debyg i hyn: ‘Cofiwch - ceisiwch ddangos gweithred o garedigrwydd neu gariad yr wythnos hon.  Adroddwch am yr hyn wnaethoch chi yn y gwasanaeth yr wythnos nesaf.’  Fe ddylai’r nodiadau fod yn destun sgwrs ymysg y plant, ac yn gyfrwng i’w hatgoffa y bydd hyn yn rhan o’u gwasanaeth nhw y tro nesaf.

Amser i feddwl

Roedd Ghandi yn ddyn nodedig iawn, dyn a oedd â gallu rhyfeddol ganddo i feddwl mewn ffordd wahanol iawn i bobl eraill.
Byddai fel arfer yn rhoi meddyliau a theimladau pobl eraill o flaen ei rai ef ei hun.
Fe all pawb ohonom ddysgu rhywbeth oddi wrth yr esiampl a dangosodd Ghandi.
Fe fydd hi’n braf clywed yr wythnos nesaf am y gwahanol ffyrdd yr ydych chi wedi bod yn meddwl am bobl eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon