Heb Fod Yn Union Fel Mae'n Ymaddangos!
Mae’r gwasanaeth yma’n gysylltiedig â Dydd y Cofio. Ei nod yw annog y plant i sylweddoli y gall rhywbeth fod yn wahanol i’r hyn welwch chi ar yr olwg gyntaf. Nid yw pethau bob amser yn union fel maen nhw’n ymddangos!
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Mae’r gwasanaeth yma’n gysylltiedig â Dydd y Cofio. Ei nod yw annog y plant i sylweddoli y gall rhywbeth fod yn wahanol i’r hyn welwch chi ar yr olwg gyntaf. Nid yw pethau bob amser yn union fel maen nhw’n ymddangos!
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr luniau o Irene Sendler yn ystod ei bywyd, a lluniau o’r plant y gwnaeth hi eu helpu:
(1)http://2.bp.blogspot.com/_YwU4mZB7Jog/SCi3ncXip3I/AAAAAAAAATA/dPjRoi0a48o/s400/Irena+Sendler
(2)http://en.wikipedia.org/wiki/File:2005.02.15._Irena_Sendlerowa_Foto_Mariusz_Kubik_01.JPG
Gwasanaeth
- Dangoswch y llun cyntaf o Irene Sendler i’r plant. Gofynnwch iddyn nhw ddisgrifio sut un oedd hi. Efallai yr hoffech chi wneud rhestr o’r geiriau sy’n addas i’w disgrifio.
Gofynnwch i’r plant edrych arni’n ofalus a cheisio dyfalu pa fath o waith yr oedd hi yn ei wneud. Gofynnwch i’r plant egluro’u syniadau. - Dangoswch yr ail lun i’r plant, er mwyn gweld a gaiff y plant ryw syniad ychwanegol am y gwaith yr oedd Irene yn ei wneud.
Atgoffwch y plant ein bod ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn cymryd amser i feddwl am bobl sydd wedi gwneud aberthau mawr er mwyn i ni allu byw mewn heddwch. Fe fyddwn ni’n cofio’n arbennig am y rhai a roddodd gymaint trwy fynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a´r Ail Ryfel Byd. - Mae llawer o bobl wedi cael eu galw’n arwyr yn y rhyfeloedd hyn - milwyr, peilotiaid, meddygon, nyrsys ac eraill - a’r wraig yma yr ydym yn meddwl amdani heddiw. Roedd hi hefyd yn arwres. Eglurwch i’r plant pwy oedd Irene Sendler:
Cafodd Irene Sendler ei geni yng Ngwlad Pwyl ym mis Chwefror 1910. Roedd hi’n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol. Ond pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd llwyddodd i gael gwaith fel plymwr ac arbenigwr carthffosiaeth yn Geto Warsaw (lle wedi ei neilltuo i Iddewon fyw). Doedd hi ddim wedi deall o gwbl pam yr oedd yr Iddewon yn cael eu cam-drin, ac roedd hi’n awyddus i’w helpu.
Gwyddai Irene mai’r bwriad oedd cymryd plant yr Iddewon oddi wrth eu rhieni a’u cam-drin, felly fe benderfynodd hi geisio eu hachub. Gyda chymorth eu rhieni, fe smyglodd Irene y plant allan o’r Geto yn ei thryc, yn ei bocs offer, neu mewn sachau. Roedd ganddi hi gi gyda hi bob amser, a dysgodd y ci i gyfarth pan oedd yn mynd i mewn a dod allan o’r Geto. Byddai’r swn yn ddigon i gadw’r milwyr rhag archwilio’i thryc, ac roedd y swn cyfarth yn cuddio unrhyw swn y byddai’r plant yn debygol o’i wneud, pe bydden nhw’n ofidus.
Unwaith yr oedden nhw allan o’r Geto, byddai Irene yn trefnu cartrefi diogel i’r plant fyw ynddyn nhw. Cadwodd Irene gofnod arbennig o bob plentyn a theulu y llwyddodd i’w helpu. Ond rhag ofn y byddai’r Almaenwyr yn dod i chwilio am ei chofnodion, fe'i cuddiodd nhw mewn pot jam a'i gladdu o dan goeden yn ei gardd gefn!
Llwyddodd Irene i smyglo 2,500 o blant allan o’r Geto.
Yn ystod y rhyfel cafodd Irene ei dal un tro a chael ei chwestiynu a’i cham-drin. Ond ni fu hynny’n ddigon i’w hatal rhag helpu eraill.
Ar ôl y rhyfel, cloddiodd Irene am ei phot jam a cheisiodd ddarganfod teuluoedd yr holl blant yr oedd hi wedi eu helpu er mwyn iddyn nhw gael mynd yn ôl at ei gilydd unwaith eto.
Dangoswch y trydydd llun. Dyma Irene yn 2005 gyda rhai o’r plant y gwnaeth hi eu hachub yn ystod y rhyfel.
- Soniwch wrth y plant fod y syniadau oedd ganddyn nhw am y ddynes yma pan welson nhw ei llun hi am y tro cyntaf, o bosib, ymhell oddi wrth y gwirionedd am ei bywyd! Pan fyddwn ni’n edrych ar bobl, ddylen ni ddim barnu sut rai ydyn nhw yn ôl sut y maen nhw’n ymddangos. Os gwnawn ni hynny, byddwn yn aml yn creu darlun anghywir o bobl. Mae angen i ni gymryd amser i ddod i adnabod pobl yn gyntaf, a chael gwybod o ddifrif sut rai ydyn nhw.
- Mae adnod yn y Beibl sy’n dweud, ‘Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae’r ARGLWYDD yn gweld beth sydd yn y galon.’ (1 Samuel 16.7). Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn malio mwy am yr hyn ydyn ni oddi mewn nac am y ffordd yr ydym yn edrych oddi allan.
- Mae’r darlun cyntaf o Irene Sendler yn dangos llun o hen wraig fach annwyl i ni … ond mewn difrif, fe fu ei bywyd yn fywyd arwres.
Amser i feddwl
Oedwch am foment i feddwl am sut un oedd y wraig hon, Irene Sendler. Gadewch i ni benderfynu yn ein calonnau, i garu pobl eraill fel y gwaeth hi, a meddwl am bobl eraill o’n blaen ni ein hunain.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am bobl fel Irene Sendler,
a oedd yn gofalu am bobl, hyd yn oed pan oedd hynny’n waith peryglus.
Helpa ninnau i ofalu am y bobl hynny sydd o’n cwmpas ninnau.
Help ni i gymryd amser i ddod i adnabod y bobl, a deall sut rai ydyn nhw o’r tu mewn,
ac nid i’w barnu nhw yn ôl sut maen nhw’n edrych.