Gwaith Tîm
Meddwl am werth gwaith tîm.
gan Paul Sandford
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Meddwl am werth gwaith tîm, a darlunio hynny mewn ffordd graffig.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch ddau o’r plant hynaf trwy egluro iddyn nhw beth fydd yn digwydd yn y gwasanaeth, a gofyn iddyn nhw gynnal y syniad -- a gorau oll os byddan nhw’n gwneud y symudiadau’n ddramatig, os hoffan nhw! Dewiswch blant fydd yn gallu cyflawni’r tasgau (yn rhif 4) yn synhwyrol a heb anafu eu hunain.
- Fe fydd arnoch chi angen dau fwrdd, wedi’u gosod yn y tu blaen, ychydig i un ochr.
Gwasanaeth
- Siaradwch am ystyr y gair ‘tîm’ a dowch i’r casgliad mai pobl yn cydweithio yw tîm.
- Dychmygwch fod eich athro neu athrawes wedi gofyn i chi wneud llyfr. Efallai y byddai un plentyn yn dda am sgwennu, un arall yn gallu meddwl am stori dda, un arall yn gallu gwneud lluniau deniadol i fynd efo’r stori, ac un arall yn dda am osod y llyfr gyda’i gilydd gyda siswrn, styffylau a glud. Felly, i gynhyrchu rhywbeth o’r fath, rydych chi angen ffurfio TÎM.
- Fe allech chi ofyn nifer o gwestiynau i’r plant a’u cael i godi eu dwylo mewn ymateb i gwestiynau, fel ‘Pwy sy’n dda am wneud … mathemateg?’ ‘Pwy sy’n dda am wneud … ymarfer corff?’ Ategwch y syniad nad oes unrhyw un yn dda am wneud pob peth.
Yn ogystal â bod yn meddu ar wahanol gryfderau, fel TÎM mae’n bosib i bobl trwy weithio gyda’i gilydd, allu gwneud pethau’n haws. - Gofynnwch am ddau ‘wirfoddolwr’. Edrychwch ydyn nhw’n gallu cario bwrdd bob un ar draws tu blaen y neuadd. Am resymau iechyd a diogelwch, gwyliwch fod y plant yn cymryd gofal a sicrhau nad ydyn nhw’n anafu eu hunain na neb arall. Pan fyddan nhw (os!) wedi llwyddo i wneud hynny, gofynnwch iddyn nhw fynd â’r byrddau yn ôl i’r lle gwreiddiol, ond y tro hwn eu bod yn gweithio fel TÎM: y ddau yn cario pob bwrdd, un ym mhob pen.
- Gofynnwch i’r ddau blentyn, ac i weddill y gynulleidfa, pa ffordd oedd yr hawsaf.
- Dewisol: Eglurwch fod Cristnogion yn credu fod Duw yn DÎM, ac enw’r tîm hwnnw yw’r Drindod.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Beth ydw i’n dda am ei wneud?
Sut y gallaf fi weithio’n well gyda phobl eraill?
I ba dîm rydw i’n perthyn?
Ydw i mewn tîm o ffrindiau, yn nhîm fy nosbarth, yn nhîm fy ysgol?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod ni wedi cael ein gwneud i weithio gyda’n gilydd,
i fwynhau sgiliau’r naill a’r llall, ac i helpu ein gilydd.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2009 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.