Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Newid Man

Nodi’r newidiadau yn nyluniad darnau arian Prydeinig, a meddwl am y ffaith bod anrhegion o newid mân yn gallu helpu i wneud gwahaniaeth mawr.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Nodi’r newidiadau yn nyluniad darnau arian Prydeinig, a meddwl am y ffaith bod anrhegion o newid mân yn gallu helpu i wneud gwahaniaeth mawr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae gwybodaeth ac ystadegau diddorol iawn i’w cael ar wefan Royal Mint. Fe allai grwp o blant actio’r stori fel drama fach syml.

Gwasanaeth

  1. Tynnwch ychydig o ddarnau arian o’ch poced neu’ch pwrs - arian sy’n cael ei alw’n ‘arian mân’. Esboniwch, er gwaethaf y ffaith ein bod yn debygol o gyfrif ein harian mân, dydyn ni ddim yn aml yn edrych yn fanwl ar y darnau eu hunain.    

    Mae pob un wedi cael eu cynllunio’n ofalus ac wedi cael eu bathu yn y Bathdy Brenhinol.  Dangoswch rai ohonyn nhw, gan egluro gwerth pob un os oes plant ifanc yn bresennol.  Mae’r darnau i gyd o faint a siapiau gwahanol. 

    Pa un yw’r lleiaf? (darn 5 ceiniog) 
    A pha un yw’r mwyaf? (darn 50 ceiniog) 
    Sawl ochr sydd ymyl darn 20 ceiniog neu ddarn 50 ceiniog? (7) 
    Pa ddarnau arian sydd â lliw copr iddyn nhw? (darn 1 geiniog a darn 2 geiniog - wedi ei wneud o efydd, neu ddur sydd wedi ei orchuddio â chopr)

  2. Sylwch fod pob darn o arian yn dangos llun o ben y Frenhines, gyda chynllun gwahanol ar yr ochr arall. Mae’r cynlluniau hyn wedi aros yr un fath am gyfnod o 40 mlynedd, ond yn awr mae rhai darnau newydd yn cael eu cyflwyno.  Fe gawson nhw eu dewis yn dilyn cystadleuaeth oedd yn agored i’r cyhoedd - cystadleuaeth a ddenodd 4,000 o geisiadau.  

    Ewch ar y wefan er mwyn gallu cymharu rhai o’r hen gynlluniau gyda’r rhai newydd. Eglurwch fod y cynlluniau newydd yn arddangos rhai o’r Arfbeisiau Brenhinol. Defnyddiwch dudalen we’r Cynlluniau Newydd – ‘New Design’ i egluro sut mae’r dyluniad ar y darnau i gyd, o’r darn 1 geiniog hyd at y darn 50 ceiniog, yn cynnwys rhannau o’r un cynllun cyfan. 

  3. Pwysleisiwch, wrth i’r darnau arian gael eu cyflwyno fesul un, y bydd pawb o bosib eisiau talu mwy o sylw i’w harian mân. Efallai y bydd modd i chi hefyd ddarganfod trysor cudd! Mae rhai darnau 20 ceiniog (tua 250,000 ohonyn nhw) wedi cael eu cynhyrchu, ar ddamwain, heb ddyddiad ar y naill ochr na’r llall.  

    Dangoswch y dudalen we sy'n cyfeirio at y darnau 20 ceiniog heb ddyddiad arnyn nhw.  Gall y rhain fod o werth llawer mwy nag 20 ceiniog i gasglwyr!  A fydd rhywun yn cael hyd i un?  Edrychwch yn ofalus!

  4. Sylwch fod arian mân yn aml yn cael ei gasglu ar gyfer elusennau.  Gallwch gyfeirio, o bosib, at ymgyrch casglu arian a wnaethoch yn ddiweddar yn yr ysgol. Mae stori yn y Beibl yn dweud wrthym y gall y darn lleiaf o arian fod yn bwysig. 

    (Gellir actio’r stori hon gyda grwp o blant, gyda rhai o’r plant yn gwneud sioe o dywallt nifer o ddarnau o arian i mewn i fowlen, gydag un arall yn gosod darn un geiniog yn gyfrinachol yn eu canol.)

    Un diwrnod roedd Iesu a’i ffrindiau yn eistedd yn un o ystafelloedd y deml.  Roedd y deml yn lle prysur iawn. Roedd llawer o bobl yno, yn gadael rhoddion o arian yn y drysorfa. Roedd rhai pobl gyfoethog yn rhoi llawer iawn o arian. Roedden nhw wrth eu bodd yn dangos eu hunain. Roedden nhw eisiau i bawb a oedd yn edrych sylwi arnyn nhw a gweld pa mor gyfoethog a haelionus yr oedden nhw. 
    Ond, gwelodd Iesu wraig weddw dlawd yn cerdded yn dawel ar draws yr ystafell yn y deml.  Gan edrych o’i chwmpas i weld os oedd rhywun yn ei gwylio, gollyngodd y darn arian lleiaf un i mewn i’r drysorfa. 

    ‘Welsoch chi hynna?’ gofynnodd Iesu i’w ffrindiau.  ‘Mae’r wraig weddw hon wedi bod yn fwy hael na neb arall yma. Fe roddodd y bobl gyfoethog yr hyn yr oedden nhw’n hawdd yn gallu ei fforddio, ond y darn lleiaf o arian a roddodd hi oedd y cyfan oedd ganddi i brynu bwyd heddiw.’

  5. Gorffennwch trwy ystyried hyn:

    Gall ddarnau bach o arian olygu llawer.
    Gall arian mân gyda’i gilydd wneud byd o wahaniaeth.
    Efallai y dylen ni edrych yn fwy manwl ar y darnau arian sydd yn ein pocedi neu yn ein pwrs.* 
    Efallai y gallwn ni weithiau roi un darn arian bach i helpu achos da.

    * Neu ´Cadw Mi Gei’ i’r plant lleiaf.

Amser i feddwl

Daw danau arian mewn gwahanol faint a siapiau
a gellir eu gwario mewn gwahanol ffyrdd.
Ond mae i bob darn ddwy ochr,
ac ynghyd â’r llawenydd o dderbyn
gallwn ddarganfod y llawenydd o roi.

Cân/cerddoriaeth

Edrychwch ar yr emyn a nodir yma, efallai y gallech ei haddasu i’r Gynmraeg:
‘Love is something if you give it away’ (Lyrics on http://childbiblesongs.com/song-29-love-is-something-if-you-give-it-away.shtml)

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon