Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Eiddew A'r Gelynnen

Meddwl am arwyddocâd y planhigyn bythwyrdd celyn o fewn y traddodiad Cristnogol a thraddodiadau eraill.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am arwyddocâd y planhigyn bythwyrdd celyn o fewn y traddodiad Cristnogol a thraddodiadau eraill.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen recordiad o’r gerddoriaeth ‘The Holly and the Ivy’ neu fe allech chi ymweld â’r wefan http://www.carols.org.uk/the_holly_and_the_ivy.htm

  • Ceisiwch sbrigyn o gelyn, ac enghreifftiau o gelyn mewn dyluniadau Nadoligaidd.

  • Torrwch, allan o gerdyn, siapau mawr o ddail celyn.

  • Argraffwch y ffeithiau a’r coelion sy’n ymwneud a phlanhigion bythwyrdd i’w defnyddio gyda’r cardiau siâp dail celyn (gwelwch rhif 4.).

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y gerddoriaeth wrth i bawb ddod i mewn i’r gwasanaeth. Rhowch groeso i’r plant, a gofynnwch: Sut beth fyddai’r Nadolig heb sbrigyn o gelyn? Meddyliwch am y ffaith bod y celyn yn ‘arwydd o’r tymor’ ac yn nodwedd amlwg ar gynlluniau cardiau Nadolig a phapur lapio ac ati. Mae’n cael ei ddefnyddio i addurno cartrefi ac eglwysi; ac, yn draddodiadol, roedd sbrigyn bach o gelyn yn cael ei roi ar ben y pwdin ‘Dolig!

  2. Mae’r gelynnen, a’i haeron coch yn llonni pawb yng nghanol y gaeaf. Fe welwch chi'r planhigyn yn aml mewn gerddi a pharciau. Oes coeden gelyn yn tyfu yn rhywle heb fod ymhell o’r ysgol?

  3. Mae’n hawdd adnabod y gelynnen oddi wrth ei dail pigog bythwyrdd (eglurwch y term - bythwyrdd). Gofynnwch i rai o’r plant ddal i fyny eu siapiau dail celyn mawr sydd gennych chi wedi’u torri allan o gerdyn.

  4. Mae’r gelynnen yn goeden arbennig, gyda llawer o draddodiadau a choelion yn gysylltiedig â hi - fel y gwelwch chi oddi wrth y ffeithiau a’r coelion canlynol am y planhigion bythwyrdd. Gall y plant gyflwyno’r rhain fesul un - fe fyddai’n bosib eu hargraffu, a’u gludio ar gefn y dail cerdyn.

    • Yn ôl yng nghyfnod y Rhufeiniaid, roedd pobl yn credu bod celyn yn dod â  lwc dda iddyn nhw.

    • Yn ystod gwyliau canol y gaeaf, fe fyddai celyn yn cael ei ddefnyddio i addurno’r cartrefi, ac roedd y bobl yn cyfnewid canghennau o goed celyn er mwyn dangos caredigrwydd a chyfeillgarwch.

    • Roedd rhai pobl yn credu bod cael coeden gelyn wedi’i phlannu yn ymyl y ty yn cadw’r diafol draw … ac yn gwarchod y lle rhag cael ei daro gan fellt!

    • Roedd pobl yn tybio bod dail pigog y gelynnen yn cadw gelynion a gwrachod draw. Efallai mai dyna pam y gwelwn ni gelyn mewn torchau sydd yn cael eu hongian erbyn hyn ar ddrysau tai ar adeg y Nadolig fel arwydd o groeso. 

    • Mae’r gelynnen yn goeden i’w pharchu. ‘Holly tree’ yw’r enw Saesneg arni, ond ganrifoedd yn ôl roedd mynachod yn arfer ei galw’n ‘Holy Tree’, sef y ‘Goeden Sanctaidd’. Roedden nhw’n credu y deuai anffawd pe byddai rhywun yn torri coeden gelyn i lawr.

    • Hen enw arall ers talwm gan bobl y wlad am y gelynnen oedd ‘Nadolig pigog’. Roedd hefyd yn cael ei galw’n ‘Ddraenen Crist’.

    • Mae’r pigau’n symbol o bigau’r goron ddrain a roddwyd am ben Iesu wrth iddo ddioddef ar y groes. Ond sylwch fod y dail sy’n tyfu’n uwch ar y goeden, ac allan o gyrraedd anifeiliaid sy’n pori, yn llawer mwy llyfn a heb fod mor bigog!

    • Mae’r aeron coch llachar yn symbol o ddafnau gwaed Iesu Grist. Peidiwch byth a’u bwyta, maen nhw’n wenwynig, fe fyddech chi’n sâl!  

    • Pren golau, caled iawn, yw pren y goeden gelyn. Fe fyddai pobl yn ei ddefnyddio i gerfio’r darnau gwynion rheini sydd mewn gêm gwyddbwyll.

    • Nid yw pob llwyn celyn yn cynhyrchu aeron - dim ond y coed benyw. Ond, mae blodau bach gwyn i’w gweld ar y coed benyw a’r coed gwryw yn ystod misoedd Mai a Mehefin.

    • Yn achos dathliadau’r Nadolig, mae’r dail bythwyrdd yn arwydd o fywyd tragwyddol. Maen nhw’n aros yn ir a gwyrdd trwy gydol y flwyddyn.

  5. Cyflwynwch eiriau’r gân ‘The holly and the ivy’. Gorau oll os cewch chi eiriau’r cyfieithiad, ‘Yr eiddew a’r gelynnen’. Hen gân werin o Loegr yw hi, o Swydd Caerloyw (Gloucestershire) neu Wlad yr Haf (Somerset), sydd wedi’i bwriadu i’w chanu’n frwdfrydig a llawn egni. Anogwch bawb i ymuno’n hwyliog yn y canu, yn enwedig yn y cytgan. Fe allech chi drefnu bod rhai cantorion unigol yn canu’r penillion a phawb yn uno i ganu’r cytgan.

Amser i feddwl

Mewn distawrwydd, gadewch i ni fod yn ddiolchgar am draddodiadau’r Nadolig;
diolch am harddwch rhyfeddol dail y gelynnen,
a diolch am y gallu i ddathlu’n llawen,
hyd yn oed yn nyddiau tywyll ac anodd y gaeaf.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon