Mae'n Well Rhoi Na Derbyn!
Defnyddio’r Nadolig fel cyfle i archwilio beth mae’n ei olygu i roi.
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Defnyddio’r Nadolig fel cyfle i archwilio beth mae’n ei olygu i roi.
Paratoad a Deunyddiau
- Wrth ymweld â’r gwefannau canlynol, mae’n bosib dod o hyd i gasgliad o luniau sy’n dangos rhai agweddau ar roi
https://www.google.com/search?q=giving&tbm=isch
http://moneyning.com/wp-content/uploads/2009/02/kiss-kids.jpg
Gwasanaeth
- Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i ddangos nifer o luniau iddyn nhw. Gofynnwch i bawb edrych yn fanwl ar y lluniau a cheisio dweud ar y diwedd beth sy’n gyffredin yn y lluniau i gyd. Dangoswch eich casgliad o luniau (gwelwch y rhestr uchod).
- Beth yw’r cysylltiad rhwng y pum llun? Yr ateb yw eu bod, bob un ohonyn nhw, yn dangos rhyw agwedd ar roi: rhoi blodyn; rhoi arian; rhoi gofal a chariad; Siôn Corn - yn rhoi anrhegion!; rhoi cusan.
- Atgoffwch(!) y plant bod y Nadolig yn nesu. Holwch beth mae’r plant yn ei hoffi fwyaf am y Nadolig.
- Eglurwch i’r plant, er bod cael llawer o anrhegion ar adeg y Nadolig yn beth gwych, mae Cristnogion yn credu hefyd bod y Nadolig yn adeg arbennig o roi. Ar adeg y Nadolig y mae Cristnogion yn cofio am Dduw yn rhoi anrheg arbennig iawn i’r byd – rhoi ei fab Iesu yn anrheg.
- Mae adnod yn y Beibl yn dweud : ‘Dedwyddach yw rhoi na derbyn’ (Actau 20.35). Holwch y plant beth maen nhw’n feddwl yw ystyr hyn, a hefyd ydyn nhw’n meddwl bod hynny’n wir.
- Mae adnod arall yn y Beibl yn dweud : ‘Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw’n ei garu’ (2 Corinthiaid 9.7). Beth mae hynny’n ei olygu, tybed? Ydi hi’n bwysig ein bod ni’n rhoi yn llawen? Beth fyddai’r gwahaniaeth pe bydden ni yn rhoi, ond yn gwneud hynny heb fod yn llawen? Gofynnwch i’r plant sut bydden nhw’n teimlo pe bydden nhw’n cael anrheg Nadolig gan rywun, ond bod yr un sy’n ei roi iddyn nhw yn dweud rhywbeth fel hyn wrth ei roi, ‘Dydw i ddim eisiau rhoi’r anrheg yma i ti mewn gwirionedd, ond dyma ti!’ Sut y bydden nhw’n teimlo tybed wrth ei dderbyn?
- Atgoffwch y plant bod y Nadolig yn adeg ryfeddol o dderbyn anrhegion, ond mae hefyd ar yr un pryd yn gyfle i ni roi i bobl eraill. Does dim rhaid i’r hyn rydych chi’n ei roi gostio llawer o arian - cofiwch am yr enghreifftiau o roi a oedd yn cael eu dangos yn y lluniau. Fe allen ni wneud rhywbeth bach mor syml â cherdyn, neu wneud anrheg fach syml i’w rhoi, neu dim ond dangos cariad a chyfeillgarwch tuag at rywun arall, hyd yn oed.
Amser i feddwl
Meddyliwch am y geiriau ‘Mae’n well rhoi na derbyn.’ Oes rhywun yn dod i’ch meddwl y gallech chi ‘roi’ rhywbeth iddo fo neu hi ar adeg y Nadolig? Cofiwch nad oes raid i anrhegion fod yn bethau drud - gall hyd yn oed dim ond gwên fod yn anrheg i rywun sy’n teimlo’n unig.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y Nadolig, ac am y cyfle i’n hatgoffa ni dy fod ti wedi rhoi anrheg arbennig iawn,
sef Iesu.
Diolch am yr holl anrhegion y byddwn ni’n eu cael.
Helpa ni i gofio am bobl eraill,
A helpa ni i weld beth allwn ni ei roi iddyn nhw i wneud eu Nadolig nhw yn arbennig iawn.
Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2009 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.