Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Undod Cristnogl: Wythnos weddi

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Annog y plant i weithio dros undod yn eu hardal.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae 18 – 25 Ionawr yn Wythnos Weddi dros Undod Cristnogol.
  • Fe fydd arnoch chi angen cannwyll.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant ddweud wrthych am eu profiadau eu hunain mewn eglwysi a chapeli.  Dywedwch air am y gwahanol fathau o eglwysi yn eich ardal chi (er enghraifft, yn ein pentref ni mae dwy eglwys, un Anglicanaidd ac un Fethodistaidd).

  2. Dywedwch pa mor drist yw hi fod yr eglwysi i gyd ar wahân - nid oedd Iesu wedi cynllunio i ni fod mewn gwahanol grwpiau; roedd ef am i ni weithio gyda’n gilydd er ei fwyn.

    Ond ychwanegwch fod yna newyddion da - yr wythnos hon, bydd Cristnogion dros y wlad i gyd yn cydaddoli ac yn cydweithio yn ystod yr Wythnos Weddi dros Undod Cristnogol. Siaradwch am y pethau da sy’n digwydd yn eich ardal chi.

  3. Darllenwch Mathew 5.23-24:

    ‘Felly os wyt yn cyflwyno dy offrwm wrth yr allor, ac yno’n cofio bod gan dy frawd neu chwaer rywbeth yn dy erbyn, gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos ymaith; myn gymod yn gyntaf â’th frawd a’th chwaer, ac yna tyrd a chyflwyno dy offrwm.’

    Eglurwch fod Iesu wedi ein haddysgu pa mor bwysig yw hi i gyd-dynnu â’n gilydd, er pa mor anodd yw i weithiau. Fe ddywedodd os ydyn ni’n ddig gyda rhywun, ddylen ni ddim dod i wasanaeth o gydaddoli yn yr eglwys na’r ysgol a chanu a gweddïo fel na fyddai dim o’i le.   Mae bod yn ddig gyda rhywun a heb gymryd y cyfle i ddatrys y broblem rhyngoch chi â nhw yn rhywbeth anghywir iawn. Fe ddywedodd y dylen ni fynd ymaith a siarad gyda’r person hwnnw a cheisio bod yn ffrindiau unwaith yn rhagor.
  1. Byddwn yn gweithredu hyn yn ein gwasanaethau eglwysig trwy ddweud wrth y naill a’r llall, ‘Tangnefedd i chi,’ yn ystod yr addoliad.  Yr ymateb yw, ‘A hefyd gyda thi.’  Mae hyn yn cael ei alw’n ‘Rhannu’r Tangnefedd.’.

    Ceisiwch ymarfer dweud hyn wrth y naill a’r llall. Bydd yr arweinydd yn dweud, ‘Tangnefedd i chi,’ ac yn gofyn i’r plant ymateb trwy ddweud: ‘A hefyd gyda thi.’ Yna, gofynnwch iddyn nhw gyfarch y naill a’r llall a ‘rhannu’r tangnefedd’ (gyda geiriau a gweithred).

  2. Atgoffwch y plant fod yr hyn sy’n cael ei weithredu mewn gwasanaeth yn rhywbeth sy’n bwysig iawn mewn bwyd. Fe ddylen ni ddysgu cydfyw â’n gilydd, datrys problemau a cheisio bod yn ffrindiau.  Mae Cristnogion yn galw hyn yn ‘fyw mewn tangnefedd’.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a gofynnwch i’r plant fyfyrio ar yr achlysuron hynny, y maen nhw o bosib wedi eu cael dros y diwrnod neu ddau ddiwethaf, pan wnaethon nhw ddadlau gyda rhywun.

A oes angen i chi gymodi â’r rhywun hwnnw?

Gweddi
Duw rho dangnefedd yn ein calonnau,
Tangnefedd yn ein teuluoedd,
Tangnefedd yn ein hysgol,
Tangnefedd yn ein pentref (tref/ dinas/ bro),
Tangnefedd yn ein gwlad,
Tangnefedd yn ein byd.
Amen.

Gorffennwch trwy ddweud ‘Tangnefedd a fo gyda chi’ … a gweld os ydyn nhw wedi cofio’r ymateb!

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon