Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llyfrau

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos pa mor bwysig yw llyfrau a sut rydyn ni’n eu defnyddio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch gasgliad o lyfrau a’u gosod ar fwrdd yn barod ar gyfer y gêm matsio (fel mae’n nodi yn rhif 3), e.e. geiriadur, cyfeirlyfr ffôn, gwyddoniadur, Beibl, llyfr stori ac unrhyw lyfrau eraill yr hoffech chi eu hychwanegu.
  • Fe fyddai OHP yn ddefnyddiol ar gyfer darllen y gerdd gyda’ch gilydd.
  • Fe fyddai’n bosib cysylltu’r gwasanaeth yma gyda phroject ar lyfrau.

Gwasanaeth

  1. Gallwch ddewis defnyddio’r gerdd yma neu beidio, ond fe allai fod yn ddefnyddiol fel cyflwyniad:

    Ewch i mewn i’r llyfrgell - edrychwch ar y llyfrau
    Ewch i’r byd rhyfeddol sydd i’w gael tu mewn i’r cloriau.
    Mae rhai llyfrau’n llawn storïau am antur a digwyddiadau.
    Eraill yn ddiddorol iawn yn cofnodi llu o ffeithiau.
    Wrth edrych ar y llyfrau gallwn ddysgu cymaint o bethau,
    Mae’n fyd llawn gwybodaeth i chi ac i minnau.

  2. Mae gennym nifer o lyfrau hardd yn llyfrgell ein hysgol. Mae gan y rhan fwyaf ohonom ni ein hoff lyfr stori. Gallwn ddysgu llawer mewn llyfrau am anifeiliaid ac adar, coed a blodau. Gallwn ddarganfod ffeithiau am blant mewn gwledydd eraill. Darganfod sut roedd pobl yn byw flynyddoedd yn ôl. Mae llyfrau i’w cael am geir, trenau, llongau, awyrennau ac am y gofod.  Gallwn ddarllen am fyd Duw ac am grefyddau eraill.  Mae byd llyfrau a gwybodaeth yn ddiddiwedd. Mae rhai yn ffeithiol a rhai yn ffuglen.(Eglurwch hyn).

  3. Pwyntiwch at y llyfrau yr ydych wedi eu casglu.

    Mae gan lawer ohonom lyfrau gartref a byddwn yn mwynhau rhannu stori adeg mynd i’r gwely. Unwaith y byddwn wedi dysgu darllen gallwn fynd i mewn i fyd sy’n llawn o bethau newydd a diddorol. Meddyliwch am yr holl lyfrau yn llyfrgell ein hysgol.
    Treuliwch gyfnod byr yn gofyn i’r plant pa fath o lyfrau y maen nhw’n hoffi eu darllen.  Mae yna gymaint o wahanol rai a rhaid i ni ddysgu sut i’w defnyddio nhw. Gofynnwch i’r plant os ydyn nhw’n gallu dweud wrthych (er enghraifft) pa fath o lyfr y bydden nhw’i angen ei ddefnyddio er mwyn cael hyd i’r lle y mae rhywun yn byw.  Pan gewch chi’r ateb cywir ganddyn nhw, daliwch y llyfr neilltuol hwnnw i fyny.

    Pa lyfr fyddai’n dweud wrthym sut i sillafu gair yn gywir? Ym mha le y bydden ni’n gallu cael hyd i storïau am Iesu?  Pa lyfr fyddai’n dweud wrthym am bethau ddigwyddodd amser maith yn ôl? Cyfeiriwch at gynnwys pob llyfr yn ei dro.  

  4. Fyddwch chi weithiau yn meddwl am yr holl bobl glyfar sy’n ysgrifennu eich hoff farddoniaeth, sy’n ysgrifennu’r holl storïau rhyfeddol, neu sy’n treulio oriau lawer yn ymchwilio i gael hyd i’r wybodaeth? Mae llawer o lyfrau’n cynnwys lluniau hardd; mae arlunwyr medrus wedi tynnu lluniau neu baentio rhai, ac mae eraill yn ffotograffau sydd wedi cael eu tynnu gan ffotograffwyr talentog. Mae yna bobl sy’n dylunio’r cyfan ac yn paratoi’r llyfrau i’w cyhoeddi. Cofiwn hefyd am yr argraffwyr sy’n gwneud y gwaith argraffu a’r rhai sy’n gweithio gyda’r peiriannau eraill i rwymo pob llyfr yn gyfrol ddeniadol.  Maen nhw i gyd yn treulio oriau yn rhoi’r deunyddiau gyda’i gilydd er mwyn i ni gael mwynhau.

  5. Fe allech chi ddweud bod llyfrau fel y ffrindiau da sydd gennym: nid ydym bob amser yn eu defnyddio ond yr ydym yn gwybod ble maen nhw pan fyddwn ni eu hangen. 

Amser i feddwl

Meddyliwch am eich hoff lyfr – allwch chi ddewis dim ond un?

Beth sy’n gwneud y llyfr hwnnw mor arbennig o dda? Dywedwch ‘diolch’ yn ddistaw yn eich meddwl am y bobl sydd wedi ysgrifennu’r llyfr, wedi gwneud y lluniau, a’r bobl eraill sydd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith dylunio ac argraffu’r llyfr, heb anghofio’r rhai sy’n gweithio yn y siop lle'r oedd y llyfr ar werth.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am ein llyfrau a diolch am y bobl sydd wedi eu paratoi ar ein cyfer.
Diolch am yr holl bethau diddorol y gallwn ni eu dysgu o’r llyfrau,
Ac am y pleser a gawn ni wrth eu darllen.
Helpa ni i ddal ati i ddarllen pob math o lyfrau,
Fel y gallwn ni fwynhau byd rhyfeddol llyfrau.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon