Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dwy Gansen Bambw A Dychmyg

Ysgogi’r awydd i helpu pobl dlawd.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ysgogi’r awydd i helpu pobl dlawd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Byddwch angen ychydig o siocledi, plât, dwy gansen bambw tua metr o hyd (gwnewch yn siwr eich bod wedi glanhau’r rhain yn ofalus!). Gwnewch yn siwr fod y gwirfoddolwyr yn cael bwyta siocled, a bod y ddwy gansen bambw yn cael eu defnyddio’n ofalus ac yn synhwyrol.
  • Cannwyll ar gyfer yr Amser i Feddwl.

Gwasanaeth

  1. Gosodwch ychydig o siocledi ar blât ar y llawr.  Gofynnwch am wirfoddolwr.  Rhowch y ddwy gansen bambw i’r gwirfoddolwr. Efallai y byddwch am wneud rhyw orchest eich bod yn glanhau’r pennau gyda rhyw fath o lanhawr neu ddiheintydd er mwyn sicrhau pawb eu bod yn lân. Gofynnwch i’r gwirfoddolwr godi un o’r siocledi gyda’r ddwy gansen.  Pan fydd wedi gwneud hynny, gofynnwch iddo fwyta’r siocled, trwy ddefnyddio dim ond y ddwy gansen fambw i’w godi i’w geg.

    Pan fydd yn methu gwneud hyn, galwch ar blentyn arall i ddod at y plentyn cyntaf.  Dywedwch wrth y ddau y gallan nhw fwyta’r siocledi rhyngddyn nhw ond dim ond trwy ddefnyddio’r cansenni,. Gadewch iddyn nhw ddyfalu beth fydd angen iddyn nhw’i wneud i fwydo’r naill a’r llall a gallu bwyta’r siocledi. Unwaith y byddan nhw'n llwyddo i fwyta un neu ddau o siocledi yr un, fe allan nhw eistedd i lawr. 

  2. Gofynnwch i’r plant beth yw neges y gêm yma: ceisiwch gael y neges drosodd iddyn nhw bod rhoi cyn bwysiced â derbyn. Ac mae’r Iesu’n dweud yn y Beibl bod rhoi yn well na derbyn.  

    Dywedwch fod yna lawer o bobl heb lawer o bethau yn y byd hwn. Rydych am ddangos iddyn nhw sut deimlad yw hynny.  

  3. Adroddwch y canlynol yn araf.  Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid a dychmygu eu bod yn eu cartref. 

    Tynnwch allan bob dodrefnyn yn eich cartref ar wahân i un bwrdd ac un neu ddwy o gadeiriau. Defnyddiwch un flanced ar gyfer gwely. 

    Ewch â’ch dillad i gyd oddi yno ar wahân i’ch crys a’ch trowsus.  Gadewch un par o esgidiau yn unig. 

    Ewch â phopeth allan o’r gegin a gwacáu’r rhewgell, symud popeth oddi yno ar wahân i un bag bach o flawd ac ychydig o siwgr a halen, ychydig o datws, rhywfaint o nionod, a llond bowlen o ffa sych.

    Tynnwch oddi yno yr ystafell ymolchi, a stopiwch y cyflenwad dwr. Tynnwch oddi yno hefyd bob gwifren drydan sydd yn y ty.  

    Yn awr, ewch â’r ty cyfan ei hun i ffwrdd oddi yno a symudwch y teulu i mewn i’r sied.

  4. Dyna sut mae biliwn o bobl y byd yn byw eu bywyd! Beth mae’r plant yn ei feddwl y dylid ei wneud am hyn? Beth allwn ni ei wneud am hyn?

Amser i feddwl

Dywedodd Iesu, ‘Mae’n well rhoi na derbyn.’ Gofynnwch i’r plant feddwl am rywbeth y gallan nhw’i roi i rywun mewn angen.

Goleuwch gannwyll, a rhowch amser i’r plant feddwl am sut beth yw bywyd i laweroedd o bobl yn y byd.

Gweddi
Arglwydd Iesu,
Diolch dy fod wedi rhoi popeth i ni. 
Helpa ni i roi i’r rhai sydd heb ddim.
Amen.

 

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon