Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Geiriau Enwog

Helpu’r plant i ddeall bod geiriau’n gallu ysbrydoli pobl.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall bod geiriau’n gallu ysbrydoli pobl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen lluniau neu ddelweddau o’r Fam Teresa. Mae rhai i’w cael ar y wefan www.motherteresa.org ynghyd â gwybodaeth fywgraffyddol (dewisol).
  • Rhestr o enwau pobl enwog fel Winston Churchill, Ernest Shackleton, Jamie Oliver, Hans Christian Andersen, Cristiano Ronaldo, Mozart, Nelson Mandela, Mother Teresa, Paula Radcliffe, Andy Murray.
  • Cannwyll.
  • Ar y bwrdd gwyn ysgrifennwch y dywediad: ‘Mae tangnefedd yn dechrau gyda gwên.’ (‘Peace begins with a smile.’)

Gwasanaeth

  1. Dewiswch nifer o bobl enwog priodol gan arddangos eu henwau ar y bwrdd gwyn. Neu, yn lle hynny, os hoffech chi, gofynnwch i’r plant am enwau ac ysgrifennwch chi’r enwau hynny ar y bwrdd gwyn fel y byddan nhw’n eu cynnig i chi. 

    All y plant ddweud wrthych chi pam fod y bobl yma’n enwog? Gallwn ddiffinio’r gair enwog fel ‘yn adnabyddus i lawer o bobl.’

  2. Mae’r esiampl ddangosodd rhai o’r bobl enwog yma wedi ysbrydoli pobl eraill i geisio gwneud neu gyflawni pethau mawr. Er enghraifft, mae llawer o fabolgampwyr ifanc, llawer o fynyddwyr ifanc, llawer o feddygon ifanc wedi cael eu hysbrydoli gan esiampl unigolion eraill, ac maen nhw wedi ceisio dilyn ôl troed y rhai hynny y maen nhw’n eu hedmygu. 

  3. Mae’r Fam Teresa yn un enghraifft o berson ysbrydoledig. (dangoswch ddelweddau ohoni oddi ar y wefan. Efallai y byddwch yn teimlo fel ychwanegu rhai ffeithiau am ei bywyd.)
    Weithiau fe fyddai pobl gyfoethog a fyddai’n dod i weld y Fam Teresa yn dweud wrthi, ‘Beth allaf fi ei wneud i ddod â chymorth a gobaith a heddwch i’r byd fel yr ydych chi’n ei wneud?’ Roedd llawer yn disgwyl iddi ddweud, ‘Rhowch yn hael’, ‘Dewch i weithio yma am flwyddyn’, neu ‘Sefydlwch gartref i blant amddifad yn eich cynefin.’

    Ond yn aml y cyfan fyddai’n ei wneud oedd rhoi ateb syml. ‘Mae tangnefedd/heddwch yn cychwyn gyda gwên.’ (Dangoswch y dyfyniad yma ar y bwrdd gwyn).

    Dechreuwch wenu ar bobl. Dechreuwch eu caru gyda gwên. Yn awr, sut y byddai hynny’n newid pethau yn ein cartrefi, yn ein hystafelloedd dosbarth, yn ein trefi a’n siopau, yn ein byd?

  4. (Dewisol) Rydym yn awr yn y cyfnod Cristnogol hwnnw sy’n cael ei alw ‘Y Garawys’, pryd y bydd pobl yn draddodiadol yn gwneud heb rywbeth i ddangos eu bod yn caru Duw, ac rydym yn cael ein hannog i feddwl am y rhai hynny sydd â llai o lawer na’r hyn sydd gennym ni. Efallai y byddech yn hoffi gwenu’n amlach yn ystod y cyfnod hwn, fel modd i helpu’n cymuned i deimlo’n fwy heddychol.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a rhowch gyfle i’r plant feddwl am eiriau’r Fam Teresa mewn moment o ddistawrwydd.

Meddyliwch am unrhyw sefyllfaoedd sydd wedi dod i’ch rhan ers i chi godi bore heddiw, efallai amser brecwast, efallai wrth i chi adael y ty, neu efallai wrth i chi gyrraedd yr ysgol.
Tybed sut y byddai gwên wedi gallu newid y sefyllfa?
Tybed sut y byddai gwên wedi gallu newid teimladau rhywun arall?
Wnaeth unrhyw un wenu arnoch chi, bore heddiw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae gwên yn beth mor syml
Mae’n gwneud i ni deimlo’n hapus,
ac mae pobl wedi profi bod gwenu’n beth da ar ein lles.
Dydi gwên yn costio dim, ac mae’n beth mor hawdd ei wneud, drosodd a throsodd, eto ac eto.
Helpa ni i gwrdd â sefyllfaoedd, a phobl, gyda gwên heddiw.
Helpa ni i fendithio eraill gyda’n gwên, ac i ddod â thangnefedd gyda’n gwên heddiw a phob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon