Dwr Rhyfeddol
Annog y plant i ystyried pa mor bwysig yw dwr, ac i feddwl am eu cyfrifoldeb o ofalu am yr adnodd gwerthfawr hwn.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Annog y plant i ystyried pa mor bwysig yw dwr, ac i feddwl am eu cyfrifoldeb o ofalu am yr adnodd gwerthfawr hwn.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen wyth o ddarllenwyr.
Gwasanaeth
- Tybed pwy fydd yn gallu dyfalu beth rydyn ni’n mynd i sôn amdano heddiw? Dyma i chi rai cliwiau. Mae’n gorchuddio 75 y cant o arwynebedd y byd. Allech chi ddim byw mwy nag wythnos heb hwn. Dyma beth yw dwy ran o dair o’ch corff.
Rydych chi wedi dyfalu. Ie, am ddwr rydyn ni’n sôn. - Beth mae dwr yn ei olygu i chi? Gadewch i ni wrando ar ymateb rhai pobl i’r cwestiwn yma.
Darllenydd 1: Rydw i wrth fy modd yn y dwr. Rydw i’n hoffi mynd i nofio gyda fy ffrindiau. Rydyn ni’n sefyll ar ein dwylo yn y dwr ac yn nofio rhwng coesau’r naill a’r llall. Rydw i wrth fy modd yn gwisgo gogls er mwyn gallu gweld o dan y dwr.
Darllenydd 2: Rydw i’n casáu’r dwr. Dydw i ddim yn hoffi rhoi fy wyneb yn y dwr o gwbl. Fydda i byth yn gallu codi fy nhraed oddi ar waelod y pwll. Rydw i wirioneddol, o ddifrif, ofn boddi.
Darllenydd 3: Mae fy mam wrth ei bodd yn cael bath. Bob nos, fe fydd hi am hydoedd yn gorwedd yn y dwr cynnes llawn swigod. Mae hi’n dweud bod hynny’n cael gwared â straen y diwrnod ac yn gwneud iddi deimlo’n hapus ac wedi ymlacio.
Darllenydd 4: Mae fy chwaer yn gobeithio cael bod yn fodel ryw ddiwrnod, felly mae hi’n yfed tua wyth llond gwydr o ddwr bob dydd. Mae hi’n dweud ei fod yn beth da i gael corff a chroen iach.
Darllenydd 5: Ffermwr mewn gwlad yn Affrica yw fy nhad i. Mae’n gweithio’n galed i dyfu bwyd i fwydo ein teulu. Ond os na ddaw’r glaw, fydd y cnydau ddim yn tyfu. Yna, fydd gennym ni ddim digon o fwyd ac fe fyddwn ni’n newynu ac yn mynd yn sâl. Yn ein hachos ni, mae dwr yn golygu glaw, ac mae glaw yn golygu y bydd gennym ni fwyd i’n cadw ni’n fyw ac yn iach.
Darllenydd 6: Rydw i’n byw mewn pentref bach yn India. Rhaid i mi gerdded am awr cyn cyrraedd yr afon i gael dwr i’n teulu ni. Mae’r dwr yn drwm iawn i’w gario, ac mae’r tywydd yn boeth iawn. Rhaid i mi wneud hyn bob dydd. Dyma’r cyfan o ddwr a fydd gan fy nheulu cyfan am y diwrnod.
Darllenydd 7: Mae gennym ni ffynnon yn ein pentref ni yn Kenya. Mae’r dwr yn edrych yn ddigon glân, ond weithiau fe fydd germau yn y dwr sy’n amhosib eu gweld ac sy’n gallu ein gwneud yn sâl iawn os yfwn ni’r dwr. Rhaid i ni yfed y dwr, ond wyddon ni ddim pa bryd bydd y dwr yn ein gwneud yn sâl.
Darllenydd 8: Yn ein ty ni fe fyddwn ni’n casglu ceiniogau ac arian mân ac yn rhoi’r arian tuag at elusen o’r enw WaterAid. Dyma elusen sy’n gweithio mewn gwledydd tlawd ledled y byd er mwyn darparu dwr glân sy’n ddiogel i’w yfed i’r bobl yn y gwledydd hynny.
Amser i feddwl
Rydyn ni i gyd yn meddwl am ddwr mewn gwahanol ffyrdd. Ac eto, mae’n bwysig iawn i fywyd pob un ohonom ni. Gadewch i ni ystyried pa mor bwysig yw dwr wrth i ni feddwl am y geiriau canlynol yn awr. (Gofynnwch am saib rhwng pob brawddeg.)
Darllenydd 1: Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am yr hwyl y gallwn ni ei gael yn y dwr.
Darllenydd 2: Gadewch i ni fod yn ymwybodol o beryglon dwr, a bod yn ystyriol tuag at y rhai hynny sydd ddim yn hyderus iawn yn y dwr.
Darllenydd 3: Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am y ffordd y mae dwr yn gallu ein glanhau a gwneud i ni edrych a theimlo’n well.
Darllenydd 4: Gadewch i ni gofio pa mor bwysig yw dwr i’n cyrff ni, a pha mor bwysig yw hi i ni yfed digon ohono.
Darllenydd 5: Gadewch i ni feddwl am y bobl hynny sydd angen dwr i dyfu cnydau.
Darllenydd 6: Gadewch i ni feddwl am y bobl hynny sy’n gorfod cerdded milltiroedd i nôl dwr a’i gario i’w cartrefi.
Darllenydd 7: Gadewch i ni feddwl am y bobl hynny sydd yn methu cael dwr glân i’w yfed.
Darllenydd 8: Gadewch i ni gefnogi asiantaethau cefnogi fel WaterAid, asiantaethau sy’n helpu pobl ledled y byd i gael dwr glân er mwyn iddyn nhw allu byw.
Yn awr, gwrandewch ar eiriau’r weddi hon.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae dwr yn beth rhyfeddol, ac rydyn ni’n diolch i ti amdano.
Gall dwr fod yn hwyl, ond eto fe all fod yn beth peryglus.
Helpa ni i ymddwyn yn gyfrifol pan fyddwn ni’n ymwneud â dwr.
Fe allwn ni fod wedi ein hamgylchynu â dwr, ac eto fe allwn ni gael anhawster i ddod o hyd iddo.
Helpa ni i beidio â chymryd dwr yn ganiataol.
Mae dwr yn rhad ac am ddim, eto mae’n adnodd gwerthfawr.
Helpa ni i beidio â gwastraffu dwr.
Diolch i ti unwaith eto am y rhodd werthfawr o ddwr.
Amen.