Agweddau Ar Malawi 6
Ysgogi trafodaeth am y manteision a’r anfanteision sydd o fyw ochr yn ochr ag anifeiliaid gwylltion.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ysgogi trafodaeth am y manteision a’r anfanteision sydd o fyw ochr yn ochr ag anifeiliaid gwylltion.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’r arweinydd yn chwarae rôl y cyflwynydd teledu, a bydd pedwar darllenydd yn chwarae’r rhannau eraill.
- Mae delweddau ar gael i’w llwytho i lawr, oddi ar y we, sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth yma.
Gwasanaeth
- Arweinydd: Pnawn da, a chroeso i bennod yr wythnos hon yn y gyfres Penblethau Anodd (Difficult Dilemmas). Heddiw byddwn yn ymweld â Malawi ac yn meddwl am eliffantod, afonfeirch (hippos) a chrocodeiliaid.
Byddwn yn gofyn y cwestiwn: Yn Farw neu’n Fyw? Byddwn yn cyfarfod â phedwar o bobl gyda phedair barn wahanol iawn. Gadewch i ni estyn croeso i’n gwestai cyntaf: cynrychiolydd pobl leol Malawi.
Darllenydd 1: Mae poblogaeth Malawi yn cynyddu trwy’r adeg ac mae angen i ni glirio mwy o dir ar gyfer adeiladu tai a thyfu ein cnydau. Ond mae’r eliffantod yn dod yn ôl ar y tir ac yn sathru ein cnydau a difrodi’n cartrefi. Rydym yn ceisio eu hymlid oddi yma. Un diwrnod, fe daflodd fy nghymydog gerrig at un o’r eliffantod i geisio ei ddychryn, ond fe aeth yr eliffant yn gynddeiriog ac ymosod arno gyda’i ysgithrau, ei fwrw i’r llawr, a’i ladd trwy sathru arno. Rydym yn casáu’r eliffantod am yr hyn oll y maen nhw’n ei wneud i ni.
Malawi - eliffantod
Yn y farchnad, byddwn yn clywed storïau am y modd y mae’r afonfeirch a’r crocodeiliaid yn ymosod ar bobl sy’n mynd i lawr at yr afon i olchi eu dillad ac i nôl dwr. Mae’r llywodraeth eisiau gwarchod yr anifeiliaid hyn, ond ein barn ni yw - beth am warchod pobl Malawi? - Arweinydd: Diolch i chi. Gadewch i ni’n awr gyfarfod â rhywun sydd â barn wahanol iawn ar y mater dan sylw: cynrychiolydd y diwydiant twristiaeth.
Darllenydd 2: Mae twristiaeth yn ffordd bwysig o ddod ag arian i mewn i’n gwlad, a beth mae’r twristiaid yn dod yma i’w weld? Yr anifeiliaid wrth gwrs – yn arbennig felly yr eliffantod, yr afonfeirch a’r crocodeiliaid. Mae mwy o afonfeirch yn afon Shire nag sydd mewn unrhyw le arall yn y byd.
Malawi - hippos
Mae’r afonfeirch yn gyfrifol am greu llawer o swyddi: swyddi i’r bobl sy’n gyrru’r cychod a’r jeeps, y bobl sy’n gweithio yn y gwestai a’r gwersylloedd, y bobl sy’n edrych ar ôl y parc a’r anifeiliaid sydd ynddo. Mae Malawi angen yr anifeiliaid hyn i ddenu pobl i ymweld â’n gwlad hardd a gwario eu harian yma. - Arweinydd: Diolch i chi. Mae’r unigolyn nesaf sydd yma nid yn unig yn credu y dylid lladd yr anifeiliaid hyn, ond ei waith ef yw eu lladd. Gadewch i ni glywed gair gan gynrychiolydd yr helwyr a’r potsiars.
Darllenydd 3: Dyma ein gwlad ni, a’n tir ni, a ni sydd â’r hawl i benderfynu beth ydyn ni am ei wneud gyda’r anifeiliaid sy’n byw yma. Mae rhai ohonom yn lladd yr anifeiliaid ar gais y llywodraeth i gadw’r niferoedd i lawr. Mae rhai ohonom yn lladd yr eliffantod yn anghyfreithlon er mwyn cael eu hysgithrau, fel y gallwn eu gwerthu i gael digon o arian i fwydo’n teuluoedd. Mae gen i fferm grocodeiliaid a byddaf yn lladd y crocs er mwyn gwneud bagiau llaw ac esgidiau ar gyfer pobl gyfoethog o’r Gorllewin sy’n fodlon talu arian mawr amdanyn nhw. Dyma’n gwaith ni; hebddo, ni fyddai’n teuluoedd yn gallu goroesi.
Malawi - crocodeiliaid
- Arweinydd: Diolch i chi. Ac yn olaf gadewch i ni gyfarfod â gwarchodwr bywyd gwyllt a chlywed beth sydd ganddo fo i’w ddweud.
Darllenydd 4: Mae un peth yn sicr – os yw’r lladd anghyfreithlon sy’n digwydd i’r anifeiliaid hyn yn mynd i barhau, fydd dim eliffantod, afonfeirch na chrocodeiliaid ar ôl ym Malawi. Mae’n sefyll i reswm na allwn ni adael i hyn ddigwydd.
Fy ngwaith i yw darganfod ffyrdd lle gall pobl ac anifeiliaid Malawi gyd-fyw mewn harmoni.
Un ffordd o atal yr eliffantod rhag bwyta cnydau’r bobl yw plannu rhesi o blanhigion chilli rhwng y cnydau. Bydd yr eliffantod wedyn yn cadw draw a gall y rhai sy’n tyfu’r cnydau werthu’r chillies yn y farchnad. Mae nifer o bentrefi wedi dechrau gwneud hyn gyda llwyddiant ysgubol.
Rydym yn gweithio’n glos gyda’r parciau anifeiliaid i sicrhau bod darpariaeth ddigonol o ffensys diogel o amgylch y gwarchodfeydd er mwyn cadw anifeiliaid fel yr afonfeirch oddi mewn iddyn nhw. Mae’n rhaid i ni addysgu’r bobl leol i beidio â gwneud tyllau yn y ffensys er mwyn mynd trwyddyn nhw i chwilio am goed tân. Os gallan nhw fynd i mewn, yna’n sicr fe all yr afonfeirch fynd allan trwy’r un tyllau.
Rydym hefyd yn mynd o amgylch y pentrefi yn dangos fideo i’r bobl i’w haddysgu sut i ddod at lan yr afon yn ddiogel er mwyn lleihau’r risg o ymosodiadau gan grocodeiliaid. Yr unig amser y bydd y crocodeiliaid yn ymosod ar bobl yw pan fydd prinder bwyd iddyn nhw yn yr afonydd, felly rydym yn gorfod addysgu’r bobl i beidio â gor-bysgota.
- Arweinydd: Diolch i chi. Rydym wedi cael clywed pedair barn wahanol gan bedwar aelod gwahanol o’r gymdeithas ym Malawi.
Felly, beth ydych chi’n ei feddwl? Pwy sy’n meddwl y dylid lladd yr eliffantod, yr afonfeirch a’r crocodeiliaid? Pwy sy’n meddwl y dylid gwarchod yr eliffantod, yr afonfeirch a’r crocodeiliaid?
Nid yw’n beth hawdd ateb y cwestiynau hyn, a gobeithiwn y bydd pobl Malawi yn gallu datrys y broblem.
Diolch i chi i gyd am edrych ar raglen ‘Penblethau Anodd (Difficult Dilemmas). Am y tro, hwyl fawr i chi oddi wrth bawb ohonom ni.
Amser i feddwl
Dyma’r gwasanaeth olaf yn ein cyfres ar wlad Malawi. Rydyn ni wedi dysgu llawer iawn am fywyd yn y wlad honno.
Treuliwch ychydig o amser yn dychmygu sut beth yw byw ochr yn ochr ag anifeiliaid gwylltion ym Malawi. Rhaid ei fod yn gallu bod yn brofiad eithaf arswydus ar brydiau!
Wrth i ni ystyried gwlad Malawi (am y tro olaf), gadewch i ni agor ein meddwl er mwyn dysgu oddi wrth sut mae’r bobl yn y wlad honno’n byw, yn gweithio, ac yn chwarae.
Gadewch i ni agor ein calon i werthfawrogi'r holl bethau sydd gennym ni.
Gadewch i ni agor ein dychymyg i geisio helpu, fel bod gobeithion pobl Malawi yn cael eu gwireddu.