Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Helpu

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog y plant i fod yn gyfrifol am bethau a phwysleisio pa mor bwysig yw helpu eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi lwytho i lawr rai lluniau i ddarlunio’r stori.

Gwasanaeth

  • Gofynnwch i’r plant faint ohonyn nhw sy’n hoffi helpu. (Fel arfer, fe gewch chi lawer iawn sy’n awyddus i roi eu dwylo i fyny.) Gofynnwch iddyn nhw feddwl o ddifrif am hyn. Ydyn nhw bob amser yn fodlon cadw eu teganau? Fyddan nhw’n helpu i dacluso’r dosbarth? Pa mor aml y maen nhw’n helpu eu rhieni gartref?

  • Dyma stori am eneth fach o’r enw Shakira. Dydi hon ddim yn stori wir, ond fel gyda phob stori dda, mae ystyr arbennig ynddi i ni.

    Merch fach bump oed oedd Shakira, ac fel arfer, fe fyddai hi’n cael popeth roedd hi ei eisiau. A dweud y gwir, roedd Shakira wedi cael ei difetha’n llwyr. Nawr, roedd hi’n dyheu am gael ci bach yn anrheg pen-blwydd. Roedd ganddi un bochdew (hamster) eisoes, ac er ei bod yn hoffi rhoi ychydig o sylw iddo o dro i dro, doedd hi ddim yn gofalu amdano mewn gwirionedd. Ei mam oedd yn gofalu rhoi bwyd iddo. Ei mam fyddai’n rhoi dwr iddo. A’i mam fyddai bob amser yn glanhau cawell y bochdew.

    ‘Weli di, Shakira, ti sydd piau’r bochdew,’ meddai ei mam wrthi, ‘ond dwyt ti ddim yn gwneud llawer i ofalu amdano. Sut yn y byd rwyt ti’n disgwyl cael ci bach a thithau ddim yn mynd i ofalu amdano? Nid tegan yw ci bach wyddost ti, a dydi hi ddim yn ddigon dim ond chwarae gyda chi bach. Rhaid i ti ofalu amdano drwy’r amser.’ Ac yna fe ychwanegodd ei mam, ‘Rydw i’n meddwl dy fod ti angen gwers ar beth yw helpu!’ 

    Felly, fe benderfynodd mam Shakira ddysgu gwers iddi am helpu. Fe wnaeth hi barhau i chwarae gemau gyda Shakira, fel roedd hi’n gwneud o’r blaen, ac fe wnaeth hi ddal i fynd a hi am dro i’r parc i chwarae, ac roedden nhw’n dal i gael llawer o hwyl gyda’i gilydd. Ond, fe beidiodd ei mam helpu Shakira mewn rhai ffyrdd. Pan oedd Sharika wedi baeddu ei dillad, doedd ei mam ddim yn eu golchi. Doedd hi ddim yn gwneud gwely Shakira iddi nac yn tacluso ei hystafell. Doedd ei mam ddim yn gwneud prydau bwyd arbennig i Shakira, dim ond paratoi bwyd cyffredin, ac roedd yn rhaid iddi fwyta pethau nad oedd hi’n eu hoffi’n fawr, gan nad oedd ei mam yn cynnig pethau eraill iddi.

    Ar y dechrau doedd dim ots gan Shakira, ond ar ôl ychydig ddyddiau roedd hi’n dyheu am gael pethau neis i’w bwyta, a doedd hi ddim yn teimlo’n braf wrth wisgo dillad oedd ddim yn lân. Doedd hi ddim yn hoffi mynd i gysgu mewn gwely blêr ynghanol llanast, ac roedd hi’n methu dod o hyd i bethau yn ei hystafell wely. Roedd Shakira’n dechrau teimlo’n anhapus.

    Ymhen ychydig, fe ofynnodd Shakira i’w mam, ‘Plîs wnewch chi fy helpu i fel roeddech chi’n ei wneud o’r blaen? Rydw i’n gweld eisiau’r holl help roeddech chi’n ei roi i mi, ac rydw i’n deall nawr pa mor bwysig ydi helpu pobl eraill.’

    Teimlai ei mam drueni dros Shakira. Roedd hi wedi bod yn ddigon anodd iddi hithau hefyd i beidio helpu ei merch. Ond roedd yr arbrawf wedi gweithio a Shakira wedi dysgu ei gwers.

    Fe newidiodd Shakira yn llwyr wedyn. Ar ôl hynny fe fyddai hi bob amser yn helpu ei mam gyda mân swyddi o gwmpas y ty. Ac yn fwy na dim, roedd hi’n treulio llawer mwy o amser yn rhoi sylw i’r bochdew. Roedd yn gofalu’n dda amdano bob dydd ac yn gwneud popeth iddo ar ben ei hun heb i’w mam orfod gofyn iddi.

    Pan ddaeth diwrnod ei phen-blwydd yn chwech oed, rai misoedd wedyn, fe gafodd Shakira syndod mawr. ‘Nawr dy fod ti’n gwybod pa mor bwysig yw helpu,’ meddai ei mam wrthi, ‘rydw i’n meddwl y gallwn ni fentro cael un anifail anwes arall.’

    Roedd Shakira wrth ei bodd pan welodd hi ei thad yn dod adref y diwrnod hwnnw gan gario basged. Yn y fasged roedd y ci bach du delaf a welodd hi erioed. ‘Mae popeth gymaint gwell wrth i ni helpu,’ meddai Shakira. ‘Rydw i’n mwynhau helpu gartref ac yn yr ysgol. Mae helpu’n gwneud i mi deimlo’n dda.’

    Er bod Shakira wedi dysgu ei gwers mewn ffordd anodd, rydw i’n meddwl ei bod wedi haeddu cael ei chi bach yn y diwedd. Ydych chi’n cytuno?

Amser i feddwl

Eseia 41.6: ‘Y mae pawb yn helpu ei gilydd a’r naill yn dweud wrth y llall, “Ymgryfha”.’

Gofynnwch i’r plant sut y bydden nhw’n gallu helpu - yn enwedig, sut y bydden nhw’n gallu helpu eu mamau.

Gweddi

Arglwydd y galon garedig, gwna fy nghalon innau’n un garedig.
Arglwydd y dwylo tyner, gwna fy nwylo innau’n rhai tyner.
Arglwydd y traed parod a bodlon, gwna fy rhai innau’n barod a bodlon,
fel y gallaf dyfu’n debycach i ti ym mhob peth y byddaf i yn ei ddweud a’i wneud.

 

Neu, ar gyfer Sul y Fam:

Diolch am bopeth y mae ein mamau ni i gyd yn ei wneud i ni.
Helpa fi i helpu eraill hefyd, yn fy nghartref ac yn yr ysgol.
Helpa fi i ddweud ‘diolch’ wrth fy mam am yr holl bethau y mae hi’n ei wneud.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon