Sut Rydw I'n Dysgu?
gan Gordon Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Annog y plant i feddwl am wahanol ffyrdd o ddysgu.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen pum dalen o bapur gyda phensiliau a chlipfyrddau.
- Paratowch rai o’r plant i arddangos rhai sgiliau chwaraeon, fel rheoli pêl (e.e. pêl-rwyd neu bêl-droed), neu sgiliau gymnasteg syml os yw’r offer priodol a’r matiau angenrheidiol ar gael gennych chi.
Gwasanaeth
- Holwch am bump o blant a fyddai’n fodlon dod ymlaen i geisio tynnu llun ohonoch chi tra byddwch chi’n arwain y gwasanaeth. Rhowch bensil yr un i’r pump a dalen o bapur i bob un ar y clipfyrddau.
- Tra bydd y pump yn tynnu eich llun ewch chithau ymlaen i siarad â gweddill y plant. Fe allech chi osod problemau rhif syml iddyn nhw neu gwestiynau gwybodaeth gyffredinol a fyddai ar lefel addas i’r rhan fwyaf o’r plant. Cadwch y cyfan yn ddigon ysgafn a rhowch ganmoliaeth i’r plant pan fyddan nhw’n cael yr atebion yn gywir.
- Ar ôl peth amser yn gwneud hyn, gofynnwch i’r plant wrando’n ofalus arnoch chi’n dweud y geiriau canlynol: ‘ôl yn am siarad i’n ydw os fyny i llaw.’
Ail adroddwch hyn droeon nes gwelwch chi rai o’r plant yn codi eu dwylo. - Gwahoddwch ambell un wedyn i arddangos sgiliau chwaraeon neu unrhyw sgil arall o’u dewis nhw.
- Wedi hynny, gofynnwch am gael gweld y lluniau ohonoch chi gan y gwirfoddolwyr, a rhowch sylwadau cadarnhaol ar bob un ohonyn nhw wrth eu dangos i weddill y gynulleidfa. Efallai y gallech chi ganolbwyntio ar wahanol arddull pob un.
- Dewch i’r casgliad eich bod chi, yn y gwasanaeth heddiw, wedi bod yn meddwl am nifer o broblemau rhif, wedi bod yn ceisio deall ystyr geiriau mewn trefn anarferol, ac wedi gweld rhai yn arddangos sgiliau creadigol fel sgiliau chwaraeon a sgiliau arlunio. Pe byddai rhagor o amser, efallai y gallech chi fod wedi gwrando ar rai yn canu neu wedi gofyn i rai ysgrifennu cerddi neu ymchwilio i ryw destun neilltuol - a llawer mwy o bethau amrywiol eraill.
Mae rhai pobl yn dda am wneud llawer o wahanol bethau, ond mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n dda am wneud beth bynnag un neu ddau o bethau gwahanol. Er enghraifft, mae rhai yn dda am ganu, eraill yn dda am arlunio. Mae gan bawb ei ddawn ei hun, ac mae pawb yn gallu dysgu gwneud un neu ddau o bethau’n dda. Efallai y gallech chi gyfeirio at ddulliau dysgu’r ysgol (fel dulliau geiriol, cinesthetig, ac ati) os byddai hynny’n briodol yma.
Amser i feddwl
Pa fath o bethau rydych chi’n hoffi eu dysgu?
Ydych chi’n hoffi problemau rhif?
Ydych chi’n mwynhau ysgrifennu, tynnu lluniau, neu gymryd rhan mewn chwaraeon?
Ydych chi’n hoffi datrys posau, neu wneud pethau â’ch dwylo, neu ganu neu ddawnsio, efallai?
Mae sawl ffordd wahanol o ddysgu gwneud pethau.
Pa fath o ddysgu ydych chi’n ei hoffi orau?
Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2010 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.