Canmlywddiant Y Geidiau
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dathlu 100 mlynedd mudiad y Geidiau (Girl Guides).
Paratoad a Deunyddiau
- Gwahanol grwpiau’r Geidiau yw: Rainbows ar gyfer rhai 5–7 oed (sefydlwyd yn 1987), Brownies ar gyfer rhai 7–10 oed, Guides ar gyfer rhai 10–14 oed.
- Paratowch rai o’ch ysgol sy’n perthyn i’r Brownies (neu un o’r grwpiau eraill), i fod yn barod i ateb rhai cwestiynau i chi ac i arwain yn yr Amser i Feddwl. Efallai yr hoffen nhw wisgo’u hiwnifform yn y gwasanaeth.
- Gweld llun darn arian arbennig: https://www.flickr.com/photos/lawrence_chard/26522291937 Mae’r darn 50c wedi cael ei fathu’n arbennig ar gyfer dathlu canmlwyddiant mudiad y Geidiau.
- Efallai yr hoffech chi ofyn i arweinydd un o’r grwpiau Geidiau lleol i ddod atoch chi i’ch helpu wrth gyflwyno’r gwasanaeth yma.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r plant ddychmygu’r senario ganlynol yn eich dosbarth. Mae pawb wedi bod yn gweithio’n galed drwy’r bore ac wedi gwneud gwaith da. Rydych chi’n penderfynu rhoi hanner awr o amser i’r plant wedyn i wneud rhywbeth gwahanol, rhywbeth y bydden nhw eu hunain yn hoffi ei wneud. Fe allech chi awgrymu y byddai rhai o’r bechgyn yn hoffi treulio amser yn y gampfa neu ar y cae pêl-droed. Efallai y byddai rhai o’r merched yn hoffi mynd i’r llyfrgell neu wneud rhywfaint o waith gwnïo. Neu, o bosib, fe allech chi awgrymu y byddai rhai o’r merched yn cael coginio neu’n gallu rhoi cynnig ar ddysgu gwau neu grosio, a’r bechgyn yn cael gwneud modelau neu weithio ar y cyfrifiadur....
Holwch y plant sut y bydden nhw’n teimlo pe bydden nhw’n eich clywed chi’n dweud hyn. Mae’n bosib y byddai rhai yn dweud ei fod yn annheg am fod y merched yn gorfod dewis gwneud math arbennig o weithgaredd a’r bechgyn yn gorfod dewis gwneud pethau eraill. Mae’n fwy na thebyg y byddai rhai o’r merched yn hoffi cael chwarae allan, ac ar yr un pryd efallai y byddai rhai o’r bechgyn yn dymuno cael mynd i goginio. Pwysleisiwch y ffactor ‘dydi hyn ddim yn deg’! Anogwch y ddealltwriaeth fod bechgyn a merched yn gallu mwynhau yr un math o weithgareddau, ac mae gan y merched yr un hawl i wneud campau corfforol a chael hwyl egnïol â’r bechgyn. - Eglurwch fod agwedd cymdeithas yn wahanol iawn 100 mlynedd yn ôl i’r hyn ydyw heddiw. Roedd bechgyn a merched yn gwneud gweithgareddau gwahanol i’w gilydd. Roedd y merched yn aml yn aros yn y ty y rhan fwyaf o’r amser, gan ddysgu pethau’n ymwneud a’r grefft o gadw ty. Roedden nhw’n gwisgo ffrogiau neu sgertiau llaes a fyddai’n ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw redeg heb sôn am ddringo coed neu reidio beic. Roedd yr unig antur y bydden nhw’n ei phrofi i’w chael yn yr ystafell eistedd yn y ty neu yn y gegin.
Tua’r adeg yma roedd dyn o’r enw Lord Baden-Powell wedi dechrau mudiad ar gyfer dynion ifanc, mudiad o’r enw Scouts. Bwriad y mudiad oedd annog bechgyn ifanc i ddod yn ddinasyddion da, rhoi cyfle iddyn nhw gwrdd â’i gilydd a dysgu sgiliau newydd, a chael cyfle i brofi antur a hwyl.
Yn y flwyddyn 1909, roedd rali gan y Sgowtiaid (Scouts) yn Llundain mewn lle o’r enw Crystal Palace. Yn ystod y rali aeth nifer o grwpiau o ferched at yr Arglwydd Baden-Powell i siarad ag o.
‘Os gwelwch chi’n dda, syr,’ medden nhw wrtho fo. ‘Fyddai hi’n bosib i ni gael mudiad tebyg i’r Sgowtiaid, ond i ferched yn unig?’
Cofiwch nad oedd y merched, gan mlynedd yn ôl, yn cael rheoli llawer ar eu bywydau. Doedden nhw ddim hyd yn oed yn cael pleidleisio mewn etholiadau bryd hynny. (Mae’n debyg bod eu cwestiwn yn debyg i gri Oliver yn gofyn am ragor o uwd!)
Ond, fe wrandawodd yr Arglwydd Baden-Powell ar eu cais, ac fe roddodd y dasg i’w chwaer, Agnes, i sefydlu mudiad tebyg addas ar gyfer merched. Felly, y sefydlwyd y Girl Guides yn y flwyddyn 1910. Yn ddiweddarach, fe ddaeth gwraig Baden Powell, Olave, yn un o arweinwyr cyntaf mudiad y Geidiau.
Fe achosodd hyn gryn dipyn o gynnwrf! Mae cofnodion cynnar yn dangos fod pobl wedi bod yn feirniadol iawn ohonyn nhw, ac wedi disgrifio’r mudiad fel, ‘a foolish and pernicious movement’ a ‘idiotic sport’ - mudiad ffôl a niweidiol, gwirion a hurt! Wel yn wir! Yr unig beth yr oedd y merched wedi gofyn am gael ei wneud oedd codi mymryn ar eu sgertiau llaes er mwyn cael rhedeg tipyn bach a gwneud rhywfaint o weithgareddau. Fe fyddai’r bobl a ddywedodd y pethau yma gan mlynedd yn ôl yn rhyfeddu eich gweld chi ferched heddiw’n gwneud pob math o gampau!
Erbyn heddiw, 100 mlynedd yn ddiweddarach, mae nifer o wahanol rannau ym mudiad y Geidiau, i ferched o 5 i 14 oed. Mae un o bob pedair merch 8 oed yn Brownie, ac mae bron i hanner merched Prydain wedi bod yn ymwneud a’r Geidiau ar ryw adeg ar eu bywyd. Mae miliynau o ferched yn ymwneud a’r World Association of Girl Guiding ledled y byd. - Holwch gwestiynau i rai o’r Brownies (neu’r adrannau eraill) sydd yn eich ysgol. Holwch ble byddan nhw’n cyfarfod, beth maen nhw’n hoffi ei wneud, beth maen nhw’n ei wisgo, a chwestiynau tebyg, yn ôl fel mae’r amser yn caniatáu.
- Eleni, fe fydd llawer o weithgareddau arbennig yn cael eu cynnal i ddathlu canmlwyddiant y mudiad. Mae’r Bathdy Brenhinol (The Royal Mint) wedi cynhyrchu darn arian arbennig 50c. Ond fe fyddwch chi’n lwcus os gwelwch chi un gan mai dim ond 250,000 ohonyn nhw fydd yn cael eu cynhyrchu. Dangoswch y llun o’r darn 50c.
Eglurwch fod llun deilen y feillionen yn cynrychioli’r addewid triphlyg: dyletswydd i Dduw neu grefydd; dyletswydd i wlad; a chadw rheolau’r Geidiau. Mae’r coesyn yn cynrychioli caru dynoliaeth, ac mae’r seren yn cynrychioli cyfeillgarwch.
Amser i feddwl
Yn ein cyfnod o Amser i Feddwl heddiw, fe all y rhai sydd yn perthyn i’r Brownies sefyll ac adrodd Addewid y Brownies - (the Brownie Promise and Guide Law).
Geiriau arbennig o addewid yw’r rhain y mae pob Brownie yn eu hadrodd pan fydd yn ymuno â’r mudiad.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am Fudiad y Geidiau.
Rydyn ni’n diolch i ti am yr holl ferched y mae’r mudiad wedi eu hannog a’u helpu dros y can mlynedd diwethaf i ddod yn ddinasyddion da a gofalgar,
ac er mwyn iddyn nhw gael hwyl ac antur yn eu bywydau.
Rydyn ni’n diolch i ti am yr holl arweinwyr
sy’n rhoi eu hamser bob wythnos i ymwneud â’r Brownies a’r adrannau eraill.
Bendithia arweinwyr y mudiad eleni ym mlwyddyn pen blwydd y Geidiau’n gant oed
wrth iddyn nhw gynllunio a gweithredu gweithgareddau ac anturiaethau
ar gyfer miliynau o ferched ledled y byd.