Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ydych Chi'n Fy Adnabod I?

Helpu’r plant i werthfawrogi’r naill a’r llall fel unigolion, ac i gydnabod nad yw llwyddiant allanol yn debyg i gyflawnder mewnol neu les unigolyn.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i werthfawrogi’r naill a’r llall fel unigolion, ac i gydnabod nad yw llwyddiant allanol yn debyg i gyflawnder mewnol neu les unigolyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch dri cherdyn mawr gyda’r canlynol wedi eu hysgrifennu arnyn nhw:
    (1) Enw rhywun sy’n ymddangos ar raglen deledu realaeth neu rywun sy’n enwog ar hyn o bryd.
    (2) Enw rhyw berson y byddai’r plant wedi cael ei hanes neu wedi clywed amdano yn yr ysgol.
    (3) Y geiriau ‘Y plentyn hwn’ a saeth yn pwyntio am i lawr.
  • Cadwch y cardiau o’r golwg tan y foment briodol.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch y gêm ‘Pwy ydw i? (Who am I?)’. Bydd tri gwirfoddolwr yn dod ymlaen ac yn wynebu’r gweddill o’r plant. Byddwch wedyn yn dal un o’r cardiau i fyny y tu cefn i’r gwirfoddolwr cyntaf, cerdyn a fydd yn dweud wrth bawb arall pwy ydyn nhw. Gall y gwirfoddolwr wedyn holi hyd at 20 cwestiwn er mwyn darganfod pwy ydyn nhw. Rhaid i’r cwestiynau hyn fod yn rhai y gellir eu hateb gydag Ie neu Na.

    Enghreifftiau o gwestiynau: Ai merch ydw i? Ydw i’n fyw? Ydw i ar y teledu? Ydych chi wedi clywed amdanaf fi yn yr ysgol? Ydw i’n rhywun o fyd chwaraeon neu fabolgampau?

  2. Chwaraewch y gêm. Byddwch yn barod i gefnogi gyda chwestiynau; er bod hon yn gêm syml gall fod yn dreth ar rai plant i feddwl am bethau i’w gofyn. Gallech hefyd ofyn i weddill y plant awgrymu cwestiynau - os gallan nhw wneud hynny heb ddatgelu gormod.

    Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y trydydd plentyn, gwnewch bwynt o danlinellu’r ffaith pa mor anodd oedd hi iddo ef neu hi i sylweddoli pwy ydoedd! Cymeradwywch y gwirfoddolwyr a gofynnwch iddyn nhw i eistedd i lawr.

  3. Dywedwch fod pawb yn gwybod erbyn hyn pwy oedd y tri pherson, ond a ydyn nhw’n eu hadnabod o ddifrif? Faint ydyn ni o ddifrif yn ei wybod am bobl? Er enghraifft, mae popeth a wyddom am rywun enwog yn cael ei roi i ni trwy gyfrwng yr hyn y byddwn yn ei alw’n gyfryngau torfol - papurau newydd, cylchgronau, y teledu, radio a’r rhyngrwyd. Allwn ni ddim dweud ein bod yn eu hadnabod o ddifrif, oherwydd dydyn ni erioed wedi eu cyfarfod! Dydyn ni ddim wedi cyfarfod â’r ail berson chwaith. Mae pawb ohonom wedi cyfarfod â’r trydydd (y plentyn) ond doedd ef (neu hi) ei hun ddim yn gwybod pwy oedden nhw ychwaith.  Mae pobl yn llawer mwy cymhleth nag y mae’r 20 cwestiwn Ie neu Na yn gallu ei ddangos!

Amser i feddwl

Pwy ydw i’n ei adnabod orau?
A phwy sy’n fy adnabod i orau?
A fydd fy ffrindiau yn rhoi syrpreis i mi trwy fod yn wahanol i’r hyn rwy’n ei ddisgwyl?
Sut y gallaf fi ddod i adnabod pobl yn well?

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon